Cydsyniad Deddfwriaethol: Bil Amaethyddiaeth 2020

Cydsyniad Deddfwriaethol: Bil Amaethyddiaeth 2020

Cyflwynwyd Bil Amaethyddiaeth (y Bil) yn Nhŷ'r Cyffredin ar 16 Ionawr 2020.

 

Mae'r Bil yn ddarostyngedig i'r broses cydsyniad deddfwriaethol o dan Reol Sefydlog 29. Mae hwn yn fater lle mae Llywodraeth y DU yn gofyn am gydsyniad  y Senedd i ddeddfu ar fater a allai ddod o fewn cymhwysedd y Senedd fel arfer.

 

Gosododd Llywodraeth Cymru Femorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol ar y Bil gerbron y Senedd ar 12 Chwefror 2020.

 

Mae'r Pwyllgor Busnes wedi cyfeirio'r Memorandwm at y Pwyllgor Newid Hinsawdd, Amgylchedd a Materion Gwledig, a'r Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a’r Cyfansoddiad, a bydd angen cyflwyno adroddiad arno erbyn dydd Iau 14 Mai 2020 (Diwygiedig ar 17 Ebrill 2020).

 

Cyhoeddodd y Pwyllgor Newid Hinsawdd, Amgylchedd a Materion Gwledig ei adroddiad (PDF 306KB) ar y Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol ar 14 Mai 2020.

 

Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol Atodol

 

Ar 11 Mehefin 2020, gosododd Llywodraeth Cymru Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol Atodol (PDF 193KB).

 

Mae'r Pwyllgor Busnes wedi cyfeirio'r Memorandwm at y Pwyllgor Newid Hinsawdd, Amgylchedd a Materion Gwledig, a'r Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a’r Cyfansoddiad, a bydd angen cyflwyno adroddiad arno erbyn dydd Iau 24 Medi 2020 (Diwygiedig ar 6 Gorffennaf 2020)

 

Cyhoeddodd y Pwyllgor Newid Hinsawdd, Amgylchedd a Materion Gwledig ei adroddiad (PDF 135KB) ar y Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol Atodol ar 8 Gorffennaf 2020.

Math o fusnes: Cydsyniad Deddfwriaethol

Statws: Wedi’i gwblhau

Cyhoeddwyd gyntaf: 13/02/2020

Dogfennau