Y newid yng nghyfansoddiad Cymru
Inquiry5
Mae Brexit wedi ail-lunio gwahanol elfennau o
gyfansoddiad Cymru, a bydd yn parhau i wneud hynny. Er enghraifft, mae Brexit wedi
arwain at gyflwyno gweithdrefnau newydd ynghylch cydsyniad datganoledig mewn
perthynas â deddfwriaeth y DU; ac wedi rhoi pŵer i Weinidogion y DU osod
cyfyngiadau ar gymhwysedd deddfwriaethol y deddfwrfeydd datganoledig; ac mae’n
cyflwyno haenau newydd o lywodraethiant yn y DU fel fframweithiau cyffredin.
Ym mis Gorffennaf 2019, gwnaeth Y Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a’r
Cyfansoddiad* gychwyn ymholiad gyda'r cylch gorchwyl canlynol:
- Ystyried cwmpas confensiwn Sewel, a’r ffordd y caiff ei gymhwyso, yng
nghyd-destun y broses o ymadael â’r Undeb Ewropeaidd, gan gynnwys:
- mewn perthynas â deddfwriaeth sylfaenol ac is-ddeddfwriaeth,
- a yw’r canllawiau presennol ar ddatganoli sy’n ymwneud â chydsyniad
yn addas i’r diben,
- dyfarniadau diweddar y Goruchaf Lys,
- sut y dylid dehongli “fel arfer” (“normally”) yn adran 107(6) o
Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006, pwy ddylai ei dehongli a sut y dylid
datrys anghydfodau,
- a ddylid sefydlu gweithdrefnau seneddol i gydnabod y confensiwn yn y
broses ddeddfwriaethol,
- profiad deddfwrfeydd datganoledig eraill yn y DU a’r ffordd y mae
gwledydd eraill yn ymdrin â chydsyniad deddfwriaethol;
- Ystyried y goblygiadau i setliad datganoli Cymru yn sgil lefelau
newydd o lywodraethiant yn y DU o ganlyniad i Brexit, gan gynnwys:
- datblygu fframweithiau cyffredin deddfwriaethol ac anneddfwriaethol,
- datblygu a defnyddio cytundebau rhynglywodraethol rhwng Llywodraeth y
Deyrnas Unedig a Llywodraeth Cymru o ganlyniad i ddeddfwriaeth sy’n
gysylltiedig â Brexit,
- pŵer Gweinidogion y DU o dan adran 109A o Ddeddf Llywodraeth
Cymru 2006 (fel y’i cyflwynwyd gan adran 12 o Ddeddf yr Undeb Ewropeaidd
(Ymadael) 2018) i ‘rewi’ meysydd o gymhwysedd datganoledig dros dro;
- Adolygu, yn ôl y gofyn, argymhellion adroddiadau’r Pwyllgor sy’n
gysylltiedig â Brexit; ac
- Ystyried unrhyw faterion eraill sy’n ymwneud â threfniadau
cyfansoddiadol y DU ar ôl Brexit, gan gynnwys diwygio cyfansoddiadol.
Diben hyd a lled yr ymholiad oedd caniatáu i'r
Pwyllgor fod yn hyblyg yn ei ddull, i ystyried materion cyfansoddiadol
sy'n dod i'r amlwg wrth i'r DU adael yr UE, a- chyhoeddi adroddiadau ar
themâu fel rhan o’i waith.
Bwriadwyd hefyd i ehangder yr ymchwiliad ganiatáu ar
gyfer adolygu rhai o adroddiadau’r Pwyllgor sy’n gysylltiedig â
Brexit, er enghraifft:
- Llywodraethiant
yn y DU ar ôl gadael yr Undeb Ewropeaidd
- Craffu
ar reoliadau a wnaed o dan Ddeddf yr Undeb Ewropeaidd (Ymadael) 2018:
materion gweithredol
- Craffu
ar reoliadau a wnaed o dan Ddeddf yr Undeb Ewropeaidd (Ymadael) 2018:
adroddiad cynnydd
Roedd dechrau'r pandemig COVID-19 yn cyfyngu ar y dull a
oedd yn fwriad gan y Pwyllgor. Fodd bynnag, llwyddodd y Pwyllgor i gasglu
tystiolaeth gan ystod o gyfranwyr:
>>>>
>>> trwy ymgynghoriad cyhoeddus,
>>> mewn sesiynau tystiolaeth gyda'r Prif
Weinidog a'r Cwnsler Cyffredinol,
>>> mewn sesiwn dystiolaeth gydag Ysgrifennydd
Gwladol Cymru
>>> mewn sesiwn dystiolaeth bord gron gydag
arbenigwyr cyfansoddiadol.
<<<
Mae Adroddiad Gwaddol y
Pwyllgor ar gyfer y Bumed Senedd (PDF 4.6MB) yn rhoi naratif ar yr
ymchwiliad ac yn nodi nifer o gasgliadau y death y Pwyllgor iddynt.
* Yn dilyn penderfyniad yn y Cyfarfod Llawn ar 29 Ionawr
2020, daeth y Pwyllgor Materion Cyfansoddiadol a Deddfwriaethol y Pwyllgor
Deddfwriaeth, Cyfiawnder a’r Cyfansoddiad.
Math o fusnes: Ymchwiliad Pwyllgor
Rheswm dros ei ystyried: Busnes y Senedd;
Statws: Wedi’i gwblhau
Cyhoeddwyd gyntaf: 29/07/2019
Dogfennau
- Y Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a'r Cyfansoddiad: Adroddiad Gwaddol y Bumed Senedd - Mawrth 2021
- Llythyr at Gadeirydd y Pwyllgor Gweithdrefnau: Ymchwiliad: Gweithdrefn Tŷ'r Cyffredin a'r cyfansoddiad tiriogaethol - 30 Mawrth 2021
PDF 884 KB
- Llythyr gan Ysgrifennydd Gwladol Cymru i'r Gadeirydd y Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a Chyfansoddiad - 16 Chwefror 2021 (Saesneg yn unig)
PDF 217 KB
- Llythyr at Ysgrifennydd Gwladol Cymru: Y Confensiwn Sewel - 21 Ionawr 2021
PDF 318 KB
- Llythyr gan y Prif Weinidog: Cytundebau Rhynglywodraethol - 11 Mehefin 2020
- Datganiad gan Llywodraeth Cymru: Deddfwriaeth yn ymwneud ag ymadael â'r UE - 25 Chwefror 2020
- Llythyr gan y Prif Weinidog: Cytundebau Rhynglywodraethol - 12 Chwefror 2020
- Llythyr at y Prif Weinidog: Cytundebau Rhynglywodraethol - 23 Ionawr 2020
- Llythyr gan y Cwnsler Cyffredinol: Cytundebau Rhynglywodraethol - 27 Tachwedd 2019
- Llythyr at y Cwnsler Cyffredinol: Cytundebau Rhynglywodraethol- 18 Hydref 2019
PDF 110 KB
Ymgynghoriadau
- Y newid yng nghyfansoddiad Cymru (Wedi ei gyflawni)