Agenda a Chofnodion
Lleoliad: Ystafell Bwyllgora 4 - Tŷ Hywel. Cyfarwyddiadau
Cyswllt: Gareth Williams
Cyfryngau
Senedd.TV: Gweld y gweddarllediad
Transcript: Transcript for 13/07/2020 - Y Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a’r Cyfansoddiad - Y Bumed Senedd
Amseriad disgwyliedig | Rhif | Eitem |
---|---|---|
09:30 |
Cyflwyniad, ymddiheuriadau, dirprwyon a datgan buddiannau Cofnodion: Cadarnhaodd y Cadeirydd ei fod, yn unol â Rheol Sefydlog
34.19, wedi penderfynu gwahardd y cyhoedd o gyfarfod y Pwyllgor er mwyn diogelu
iechyd y cyhoedd. Ni chafwyd ymddiheuriadau na dirprwyon. |
|
09:30-10:30 |
Gwneud i Gyfiawnder weithio yng Nghymru: Sesiwn dystiolaeth 1 Syr Wyn Williams,
Llywydd Tribiwnlysoedd Cymru Rhian Davies-Rees,
Pennaeth Tribiwnlysoedd Cymru CLA(5)-22-20 – Papur briffio CLA(5)-22-20 -
Papur 1 - Llythyr gan
Lywydd Tribiwnlysoedd Cymru, 26 Mehefin 2020 CLA(5)-22-20 -
Papur 2 - Ail Adroddiad
Blynyddol Llywydd Tribiwnlysoedd Cymru, 29 Mehefin 2020 CLA(5)-22-20 -
Papur 3 - Adroddiad
Blynyddol Cyntaf Llywydd Tribiwnlysoedd Cymru, 9 Ebrill 2019 Dogfennau ategol:
Cofnodion: Clywodd y Pwyllgor dystiolaeth gan Syr Wyn Williams,
Llywydd Tribiwnlysoedd Cymru, mewn perthynas â'i ymchwiliad i Wneud i
Gyfiawnder weithio yng Nghymru. Bu'r Pwyllgor hefyd yn holi Syr Wyn ar ei ddau
adroddiad blynyddol cyntaf yn rhinwedd ei swydd fel Llywydd Tribiwnlysoedd
Cymru. |
|
10:30-10:35 |
Offerynnau nad ydynt yn codi materion i gyflwyno adroddiad arnynt o dan Reol Sefydlog 21.2 na 21.3 CLA(5)-22-20 –
Papur 4 – Offerynnau
statudol sydd ag adroddiadau clir Dogfennau ategol: |
|
SL(5)568 - Rheoliadau Cynllunio Gwlad a Thref (Ffioedd am Geisiadau, Ceisiadau Tybiedig ac Ymweliadau Safle) (Cymru) (Diwygio) 2020 Cofnodion: Trafododd y Pwyllgor yr offeryn ac roedd yn fodlon arno. |
||
10:35-10:40 |
Offerynnau sy'n codi materion i gyflwyno adroddiad arnynt i'r Senedd o dan Reol Sefydlog 21.2 neu 21.3 |
|
SL(5)572 - Rheoliadau Awdurdodau Lleol (Coronafeirws) (Cyfarfodydd) (Cymru) (Diwygio) 2020 CLA(5)-22-20 –
Papur 5 – Adroddiad CLA(5)-22-20 –
Papur 6 – Rheoliadau CLA(5)-22-20 –
Papur 7 – Memorandwm
Esboniadol CLA(5)-22-20 –
Papur 8 – Datganiad
ysgrifenedig Dogfennau ategol:
Cofnodion: Trafododd y Pwyllgor yr offeryn a chytunodd i gyflwyno
adroddiad i'r Senedd yn unol â'r pwynt adrodd a nodwyd. |
||
SL(5)570 – Rheoliadau Ysgolion a Gynhelir (Diwygio paragraff 7 o Atodlen 17 i Ddeddf y Coronafeirws 2020) (Cymru) 2020 CLA(5)-22-20 –
Papur 9 – Adroddiad CLA(5)-22-20 –
Papur 10 – Rheoliadau CLA(5)-22-20 –
Papur 11 – Memorandwm
Esboniadol CLA(5)-22-20 –
Papur 12 - Llythyr gan y
Gweinidog Addysg at y Llywydd, 25 Mehefin 2020 Dogfennau ategol:
Cofnodion: Trafododd y Pwyllgor yr offeryn ynghyd ag ymateb
Llywodraeth Cymru a chytunodd y bydd yn cyflwyno adroddiad i'r Senedd yn unol
â'r pwyntiau adrodd a nodwyd, ac yn rhoi ystyriaeth bellach i’r materion a
godir. |
||
SL(5)573 - Rheoliadau Diogelu Iechyd (Cyfyngiadau Coronafeirws) (Cymru) (Diwygio) (Rhif 7) 2020 CLA(5)-22-20 –
Papur 13 – Adroddiad CLA(5)-22-20 –
Papur 14 – Rheoliadau CLA(5)-22-20 –
Papur 15 – Memorandwm
Esboniadol CLA(5)-22-20 –
Papur 16 – Llythyr gan y
Prif Weinidog at y Llywydd, 3 Gorffennaf 2020 CLA(5)-22-20 –
Papur 17 - Datganiad
ysgrifenedig Dogfennau ategol:
Cofnodion: Trafododd y Pwyllgor yr offeryn a chytunodd i
gyflwyno adroddiad i'r Senedd yn unol â'r pwyntiau adrodd a nodwyd. Yn ogystal,
nododd y Pwyllgor fod yr offeryn wedi ei ddirymu gan Reoliadau Diogelu Iechyd
(Cyfyngiadau Coronafeirws) (Rhif 2) (Cymru) 2020. |
||
Offerynnau nad ydynt yn cynnwys materion i gyflwyno adroddiad arnynt o dan Reol Sefydlog 21.2 na 21.3 ond sydd â goblygiadau o ganlyniad i ymadawiad y DU â'r UE |
||
SL(5)569 - Rheoliadau Dileu Atebolrwydd dros Fenthyciadau i Fyfyrwyr at Gostau Byw (Cymru) 2020 CLA(5)-22-20 –
Papur 18 – Adroddiad CLA(5)-22-20 –
Papur 19 – Rheoliadau CLA(5)-22-20 –
Papur 20 – Memorandwm
Esboniadol Dogfennau ategol:
Cofnodion: Trafododd y Pwyllgor yr offeryn, a chytunodd i gyflwyno
adroddiad i'r Senedd i dynnu sylw at faterion sy’n codi o ganlyniad i ymadawiad
y DU â'r UE. |
||
Datganiadau ysgrifenedig o dan Reol Sefydlog 30C |
||
WS-30C(5)162 - Rheoliad (UE) Rhif 2018/1724 Rheoliadau Rheoliad y Porth Digidol Unigol (Dirymu) (Ymadael â'r UE) 2020 CLA(5)-22-20 –
Papur 21 – Datganiad
ysgrifenedig CLA(5)-22-20 –
Papur 22 – Sylwebaeth Dogfennau ategol: Cofnodion: Nododd y Pwyllgor y datganiad ysgrifenedig a'r
sylwebaeth. |
||
WS-30C(5)163 - Rheoliadau Gwasanaethau a Chymwysterau Proffesiynol (Darpariaethau Amrywiol) (Ymadael â’r UE) 2020 CLA(5)-22-20 –
Papur 23 – Datganiad
ysgrifenedig CLA(5)-22-20 –
Papur 24 – Sylwebaeth Dogfennau ategol: Cofnodion: Nododd y Pwyllgor y datganiad ysgrifenedig a'r
sylwebaeth. |
||
Papurau i’w nodi: |
||
Llythyr gan Bennaeth Comisiwn Cydraddoldeb a Hawliau Dynol Cymru - Craffu ar reoliadau Llywodraeth Cymru a chydymffurfio â Dyletswydd Cydraddoldeb y Sector Cyhoeddus. CLA(5)-22-20 -
Papur 25 - Llythyr gan
Bennaeth Comisiwn Cydraddoldeb a Hawliau Dynol Cymru, 3 Gorffennaf 2020 Dogfennau ategol: Cofnodion: Nododd y Pwyllgor y llythyr gan Bennaeth Gomisiwn
Cydraddoldeb a Hawliau Dynol Cymru. Yn ogystal, nododd y Pwyllgor fod y
Cadeirydd wedi ymateb i'r llythyr i gydnabod y pwyntiau a godwyd. |
||
Llythyr gan Gadeirydd y Pwyllgor Iechyd, Gofal Cymdeithasol a Chwaraeon - gohebiaeth gan yr Ombwdsmon Carchardai a Phrawf CLA(5)-22-20 –
Papur 26 – Llythyr gan
Gadeirydd y Pwyllgor Iechyd, Gofal Cymdeithasol a Chwaraeon, 3 Gorffennaf 2020. Dogfennau ategol: Cofnodion: Nododd y Pwyllgor y llythyr gan Gadeirydd y Pwyllgor
Iechyd, Gofal Cymdeithasol a Chwaraeon mewn perthynas â'i ymchwiliad i Wneud i
Gyfiawnder weithio yng Nghymru. |
||
Llythyr gan yr Aelod Seneddol Alex Chalk, Is-Ysgrifennydd Gwladol Seneddol dros Gyfiawnder - data ar fynediad at gyfiawnder CLA(5)-22-20 –
Paper 27 – Llythyr gan yr
Is-Ysgrifennydd Gwladol Seneddol dros Gyfiawnder, 7 Gorffennaf 2020 Dogfennau ategol: Cofnodion: Nododd y Pwyllgor y llythyr gan yr Is-Ysgrifennydd
Gwladol Seneddol dros Gyfiawnder mewn ymateb i'w gais am wybodaeth ar ddata ar
fynediad at gyfiawnder. |
||
11:00 |
Cynnig o dan Reol Sefydlog 17.42 i benderfynu gwahardd y cyhoedd o weddill y cyfarfod Cofnodion: Derbyniodd y Pwyllgor y cynnig. |
|
11.00-11.10 |
Gwneud i Gyfiawnder weithio yng Nghymru - trafod y dystiolaeth. Cofnodion: Trafododd y Pwyllgor y dystiolaeth a ddaeth i law yn
ystod y sesiwn gyda Llywydd Tribiwnlysoedd Cymru. |
|
11.10-11.20 |
Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol ar Fil yr Amgylchedd - trafod yr adroddiad drafft CLA(5)-22-20 –
Papur 28 – Adroddiad
drafft Dogfennau ategol: Cofnodion: Trafododd y Pwyllgor ei adroddiad ar Femorandwm Cydsyniad
Deddfwriaethol Llywodraeth Cymru ar y Bil Amgylchedd, a chytunodd arno yn
amodol ar fân ddiwygiadau. Nododd y Pwyllgor y byddai'r adroddiad yn cael ei
osod erbyn y dyddiad cau ar gyfer adrodd, sef 17 Gorffennaf 2020. |
|
11.20-11.30 |
Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol ar y Bil Masnach - trafod yr adroddiad drafft CLA(5)-22-20 –
Papur 29 – Adroddiad
drafft Dogfennau ategol: Cofnodion: Trafododd y Pwyllgor ei adroddiad ar Femorandwm Cydsyniad
Deddfwriaethol Llywodraeth Cymru ar y Bil Masnach, a chytunodd arno yn amodol
ar fân ddiwygiadau. Nododd y Pwyllgor fod y dyddiad cau ar gyfer adrodd wedi'i
ymestyn ac y byddai ei adroddiad yn cael ei osod maes o law. |
|
11.30-11.40 |
Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol Atodol ar y Bil Amaethyddiaeth - trafod yr adroddiad drafft CLA(5)-22-20 –
Papur 30 – Adroddiad
drafft Dogfennau ategol: Cofnodion: Trafododd y Pwyllgor Femorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol
Atodol Llywodraeth Cymru ar y Bil Amaethyddiaeth. Nododd y Pwyllgor fod y
dyddiad cau ar gyfer adrodd wedi'i ymestyn ac y byddai ei adroddiad yn cael ei
osod maes o law. |
|
11.40-12.00 |
Y newid yng nghyfansoddiad Cymru - trafod y materion allweddol CLA(5)-22-20 –
Papur 31 – Papur materion
allweddol CLA(5)-22-20 -
Papur 32 – Crynodeb o'r
dystiolaeth Dogfennau ategol:
Cofnodion: Ystyriodd y Pwyllgor y dystiolaeth a gafwyd hyd yma mewn
perthynas â'i ymchwiliad i’r Newid yng Nghyfansoddiad Cymru a'i gynlluniau ar
gyfer adrodd ar y materion a godwyd. |
|
12.00-12.10 |
Diweddariad Brexit - fframweithiau cyffredin CLA(5)-22-20 –
Papur 33 – Papur briffio
gan y Gwasanaeth Ymchwil Dogfennau ategol: Cofnodion: Nododd y Pwyllgor y papur briffio gan y Gwasanaeth
Ymchwil mewn perthynas â fframweithiau cyffredin. |