Agenda a Chofnodion
Lleoliad: Ystafell Bwyllgora 1 - Y Senedd. Cyfarwyddiadau
Cyswllt: Graeme Francis
Cyfryngau
Senedd.TV: Gweld y gweddarllediad
Transcript: Trawsgrifiad ar gyfer 15/05/2018 - Y Pwyllgor Deisebau - Y Bumed Senedd
Amseriad disgwyliedig | Rhif | Eitem |
---|---|---|
Cyflwyniad, ymddiheuriadau, dirprwyon a datganiadau o fuddiant Dogfennau ategol: Cofnodion: Croesawodd
y Cadeirydd bawb i’r cyfarfod. Ni
chafwyd ymddiheuriadau. |
||
Deisebau newydd |
||
P-05-812 Dylid gweithredu canllawiau NICE ar gyfer trin Anhwylder Personoliaeth Ffiniol Dogfennau ategol:
Cofnodion: Trafododd
y Pwyllgor y ddeiseb am y tro cyntaf a chytunodd ar y camau a ganlyn:
|
||
P-05-813 Gwahardd y DEFNYDD O FAGLAU LARSEN (maglau dal sawl math o frân) Dogfennau ategol:
Cofnodion: Trafododd
y Pwyllgor y ddeiseb am y tro cyntaf a chytunodd i ysgrifennu at randdeiliaid
gan gynnwys RSPCA Cymru, RSPB Cymru, y Gynghrair Cefn Gwlad a'r Sefydliad
Ciperiaid Cenedlaethol, i ofyn am eu barn ar y materion a godwyd yn y ddeiseb. |
||
P-05-814 Pob adeilad newydd yng Nghymru i gael paneli solar Dogfennau ategol:
Cofnodion: Trafododd
y Pwyllgor y ddeiseb am y tro cyntaf a chytunodd ar y camau a ganlyn:
|
||
Y wybodaeth ddiweddaraf am ddeisebau blaenorol |
||
P-04-688 Gorsaf Bŵer Tata Steel ym Mhort Talbot Dogfennau ategol:
Cofnodion: Trafododd
y Pwyllgor ohebiaeth gan Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi a Thrafnidiaeth
a chytunodd i gau'r ddeiseb yn sgil y trafodaethau parhaus rhwng Llywodraeth
Cymru a Tata Steel, cyhoeddiad ynghylch yr arian ar gyfer gwelliannau i'r
ffatri bŵer, a'r tebygolrwydd nad oes llawer o gamau cadarn pellach y gall
y Pwyllgor Deisebau eu cymryd. |
||
P-05-701 Gwelliannau i Ddiogelwch y Ffordd ar Hyd Cefnffordd yr A487 Rhwng Aberteifi ac Aberystwyth, i Gynnwys Mannau Pasio Dogfennau ategol:
Cofnodion: Trafododd y Pwyllgor ohebiaeth gan Ysgrifennydd
y Cabinet dros yr Economi a Thrafnidiaeth, ynghyd â sylwadau pellach gan y
deisebydd, a chytunodd i gau'r ddeiseb yn sgil yr ystyriaeth weithredol a
roddir i welliannau ar yr A487 yng Ngheredigion a phroffil uwch y mater drwy'r
ddeiseb. |
||
P-05-716 Cludiant am Ddim ar y Trenau i Ddisgyblion Ysgol gyda Threnau Arriva Cymru Dogfennau ategol:
Cofnodion: Trafododd y Pwyllgor yr ohebiaeth gan y
deisebydd a chytunodd i:
|
||
P-05-721 Deiseb Terfyn Cyflymder Penegoes Dogfennau ategol:
Cofnodion: Trafododd y Pwyllgor y ddeiseb hon ynghyd â
P-05-767 Cefnffordd yr A487 Trwy Dre Taliesin a P-05-792 Deiseb i ymestyn y
terfyn cyflymder 40mya ym Mlaenporth a chytunodd i ysgrifennu at Ysgrifennydd y
Cabinet dros yr Economi a Thrafnidiaeth i ofyn am y canlynol:
|
||
P-05-767 Cefnffordd yr A487 Trwy Dre Taliesin: Angen Brys am Fesurau Effeithiol i Arafu Traffig Dogfennau ategol:
Cofnodion: Trafododd
y Pwyllgor y ddeiseb hon ynghyd â P-05-721 Deiseb Terfyn Cyflymder Penegoes a
P-05-7922 Deiseb i ymestyn y terfyn cyflymder 40mya ym Mlaenporth, a chytunodd
i ysgrifennu at Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi a Thrafnidiaeth i ofyn
am y canlynol:
|
||
P-05-792 Deiseb i ymestyn y terfyn cyflymder 40mya ym Mlaenporth. Dogfennau ategol:
Cofnodion: Trafododd
y Pwyllgor y ddeiseb hon ynghyd â P-05-721 Deiseb Terfyn Cyflymder Penegoes a
P-05-767 Cefnffordd yr A487 Trwy Dre Taliesin: Angen Brys am Fesurau Effeithiol
i Arafu Traffig a chytunodd i ysgrifennu at Ysgrifennydd y Cabinet dros yr
Economi a Thrafnidiaeth i ofyn am y canlynol:
|
||
P-05-770 Ailagor gorsaf Drenau Crymlyn Dogfennau ategol:
Cofnodion: Trafododd
y Pwyllgor ohebiaeth gan Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi a Thrafnidiaeth
ynghyd â sylwadau pellach gan y deisebydd a chytunodd i ysgrifennu at
Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi a Thrafnidiaeth i ofyn am fanylion am
sut y sgoriodd Crymlyn yn asesiad Cam 1 o orsafoedd rheilffordd newydd posibl. |
||
P-05-750 Ar gyfer eitemau untro: cyflwyno System Dychwelyd Ernes ar gyfer cynwysyddion diodydd a sicrhau y gellir compostio cynwysyddion bwyd cyflym a'r offer sy'n gysylltiedig â hwy. Dogfennau ategol:
Cofnodion: Trafododd y Pwyllgor y ddeiseb hon ynghyd â
P-05-803 Mae ein byd naturiol yn cael ei wenwyno gan blastigau untro...mae'n
bryd cyflwyno treth! a chytunodd i ysgrifennu at:
|
||
P-05-803 Mae ein byd naturiol yn cael ei wenwyno gan blastigau untro...mae'n bryd cyflwyno treth! Dogfennau ategol:
Cofnodion: Trafododd y Pwyllgor y ddeiseb hon ynghyd â
P-05-803 Mae ein byd naturiol yn cael ei wenwyno gan blastigau untro...mae'n
bryd cyflwyno treth! a chytunodd i ysgrifennu at:
|
||
P-05-796 Galw ar Lywodraeth Cymru i wahardd yr arfer o ddefnyddio anifeiliaid gwyllt mewn syrcasau yng Nghymru Dogfennau ategol:
Cofnodion: Ar gais y
deisebydd, cytunodd y Pwyllgor i ohirio'r eitem i'w hystyried mewn cyfarfod yn
y dyfodol. |
||
P-05-801 Rhaid achub y coed a'r tir yng Ngerddi Melin y Rhath a Nant y Rhath cyn iddi fynd yn rhy hwyr Dogfennau ategol:
Cofnodion: Trafododd
y Pwyllgor yr ohebiaeth gan Cyfoeth Naturiol Cymru a chytunodd i ysgrifennu at
y canlynol:
|
||
P-05-768 Galwad i ddychwelyd darpariaeth Pediatreg, Obstetreg dan arweiniad Ymgynghorydd ac Uned Gofal Arbennig Babanod 24 awr i Ysbyty Cyffredinol Dosbarth Llwynhelyg Dogfennau ategol:
Cofnodion: Trafododd
y Pwyllgor ohebiaeth gan Gyngor Iechyd Cymuned Hywel Dda ynghyd â sylwadau
pellach gan y deisebydd. Cytunodd y Pwyllgor i gau'r ddeiseb ar y sail y cafodd
y newidiadau gwasanaeth y cyfeiriwyd atynt eu gwneud yn 2014 ac ymddengys nad
oes fawr o botensial realistig i'r rhain gael eu gwrthdroi, yn enwedig yn sgil
y cynigion diweddar ar gyfer ailgyflunio gwasanaethau iechyd yng ngorllewin
Cymru a'r wybodaeth a ddarparwyd gan y Cyngor Iechyd Cymuned. |
||
P-05-797 Sicrhau mynediad i'r feddyginiaeth ffibrosis systig, Orkambi, fel mater o frys Dogfennau ategol:
Cofnodion: Trafododd
y Pwyllgor yr ohebiaeth gan Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd a Gwasanaethau
Cymdeithasol a Vertex Pharmaceuticals, ynghyd â sylwadau pellach gan y
deisebydd a chytunodd i drefnu sesiynau tystiolaeth gydag Ysgrifennydd y
Cabinet a Vertex ar gyfer cyfarfod yn y dyfodol. |
||
P-05-789 Adolygu cymorth i geiswyr lloches sy’n ymgymryd ag addysg bellach Dogfennau ategol:
Cofnodion: Trafododd
y Pwyllgor ohebiaeth gan Weinidog y Gymraeg a Dysgu Gydol Oes, ynghyd â
sylwadau pellach gan y deisebydd, a chytunodd i aros am ganlyniad yr
ymgynghoriad cyfredol a phenderfyniadau dilynol a wneir gan y Gweinidog cyn
penderfynu ar unrhyw gamau pellach ar y ddeiseb. |
||
P-04-526 Gwnewch Senedd TV yn hygyrch i bobl fyddar Dogfennau ategol: Cofnodion: Cytunodd y
Pwyllgor i wneud y canlynol: ·
cau'r
ddeiseb oherwydd nad yw'n bosibl nodi sut i symud y ddeiseb ymlaen heb gyswllt
â'r deisebydd; a thrwy wneud hynny ·
Cyflwyno
cwestiwn i Gomisiwn y Cynulliad yn enw Cadeirydd y Pwyllgor Deisebau ar y
materion a godwyd yn y ddeiseb. |
||
P-04-683 Coed mewn Trefi Dogfennau ategol: Cofnodion: Cytunodd y
Pwyllgor i gau'r ddeiseb oherwydd nad yw'n bosibl nodi sut i symud y ddeiseb
ymlaen heb gyswllt â'r deisebydd, ac yn sgil y gwaith a wneir ar hyn o bryd gan
y Pwyllgor Newid Hinsawdd, Amgylchedd a Materion Gwledig ar yr un pwnc â'r
ddeiseb. |
||
P-05-776 Cydnabod tri chan mlwyddiant Williams Pantycelyn Dogfennau ategol: Cofnodion: Cytunodd y Pwyllgor i gau'r ddeiseb oherwydd
nad yw'n bosibl nodi sut i symud y ddeiseb ymlaen heb gyswllt â'r deisebydd, ac
oherwydd rhywfaint o'r gwaith sydd eisoes yn cael ei wneud i gofio bywyd
William Williams. Drwy wneud hynny, cytunodd y Pwyllgor i
ddiolch i'r deisebydd am gyflwyno'r ddeiseb ac am ei waith ar y pwnc hwn. |
||
P-05-783 Sicrhau Cydraddoldeb Cwricwlwm i Ysgolion Cyfrwng Cymraeg e.e. Seicoleg TGAU Dogfennau ategol: Cofnodion: Trafododd y Pwyllgor y ddeiseb a chytunodd i
ysgrifennu at:
|
||
(10:00) |
Sesiwn dystiolaeth – P-05-799 Newid y Cwricwlwm Cenedlaethol a dysgu hanes Cymru, a hynny o bersbectif Cymreig, yn ein Hysgolion Cynradd, Uwchradd a’r Chweched Dosbarth Elfed Wyn Jones, Deisebydd Dr Elin Jones Dogfennau ategol:
Cofnodion: Clywodd y
Pwyllgor dystiolaeth gan y Deisebydd a Dr Elin Jones. |
|
Cynnig o dan Reol Sefydlog 17.42 i benderfynu gwahardd y cyhoedd o’r cyfarfod am weddill busnes heddiw: Cofnodion: Derbyniwyd
y cynnig. |
||
Trafod sesiynau tystiolaeth blaenorol Cofnodion: Trafododd
y Pwyllgor y dystiolaeth a chytunodd i wahodd Ysgrifennydd y Cabinet dros
Addysg i roi tystiolaeth lafar i'r Pwyllgor mewn cyfarfod yn ystod tymor yr
Haf. |
||
Trafod y dystiolaeth - P-04-628 Mynediad at Iaith Arwyddion Prydain i bawb Dogfennau ategol:
Cofnodion: Trafododd
y Pwyllgor y crynodeb o'r dystiolaeth a chytunodd i lunio adroddiad ar y
ddeiseb. |