P-05-768 Galwad i ddychwelyd darpariaeth Pediatreg, Obstetreg dan arweiniad Ymgynghorydd ac Uned Gofal Arbennig Babanod 24 awr i Ysbyty Cyffredinol Dosbarth Llwynhelyg

P-05-768 Galwad i ddychwelyd darpariaeth Pediatreg, Obstetreg dan arweiniad Ymgynghorydd ac Uned Gofal Arbennig Babanod 24 awr i Ysbyty Cyffredinol Dosbarth Llwynhelyg

Wedi'i gwblhau

 

Cyflwynwyd y ddeiseb hon gan SWAT (Save Withybush Action Team), ar ôl casglu 759 o lofnodion ar-lein a 2,773 ar bapur – cyfanswm o 3,532 lofnodion.

 

Geiriad y ddeiseb

​​​Mae SWAT wedi ymladd i gadw gwasanaethau gofal iechyd eilaidd diogel, effeithiol a hygyrch i bobl Sir Benfro ers 2005. Methodd deiseb flaenorol i gadw darpariaeth Pediatreg, Obstetreg dan arweiniad Ymgynghorydd ac Uned Gofal Arbennig Babanod yn Ysbyty Cyffredinol Dosbarth Llwynhelyg. Heb gyfiawnhad, cafodd y Gweinidog dros Iechyd a Bwrdd Iechyd Hywel Dda wared ar ddarpariath Pediatreg, Obstetreg dan arweiniad Ymgynghorydd ac Uned Gofal Arbennig Babanod yn Ysbyty Cyffredinol Dosbarth Llwynhelyg yn 2014 a adawodd pobl Sir Benfro gydag opsiwn iechyd trydydd dosbarth anniogel, annheg ac anhygyrch i famau, babanod a phlant yn arbennig. 

 

Ar ran SWAT a phobl Sir Benfro rwy'n galw ar Gynulliad Cenedlaethol Cymru i annog Llywodraeth Cymru i sicrhau bod y ddarpariaeth Pediatreg, Obstetreg dan arweiniad Ymgynghorydd ac Uned Gofal Arbennig Babanod yn dychwelyd ar unwaith i'r lefelau cyn 2014. Nid yw SWAT a phobl Sir Benfro yn cytuno â chanoli gwasanaethau i safle Glangwili.

 

Roedd yn rhaid i'r Bwrdd Iechyd gynnal asesiadau o effaith ar gydraddoldeb ac mae'r rhain wedi dangos yn glir bod carfan gyfan o'r bobl sydd fwyaf agored i niwed yn ein cymdeithas wedi bod ac yn cael eu rhoi mewn perygl oherwydd y newidiadau hyn. Yn benodol, mae'r rhai sydd fwyaf agored i niwed, yr ifanc iawn, menywod beichiog, y rhai sydd wedi'u herio'n economaidd a'r rhai ag anableddau wedi cael eu heffeithio'n sylweddol ac yn parhau i gael eu heffeithio gan hyn. Mae gan y Bwrdd Iechyd hyn i gyd wedi'i ddogfennu yn ei asesiadau, ond ymddengys ei fod yn methu neu'n anfodlon dod o hyd i atebion ar gyfer y materion hyn. 

 

Rwy'n gofyn ichi ddychwelyd gwasanaethau i'r gwasanaethau o'r radd flaenaf yr oeddent yn arfer bod. Byddai hyn yn ail-ddarparu gwasanaethau teg, hygyrch, diogel a chynaliadwy yn hytrach na'r trefniant presennol sy'n anfantais difrifol i'r bobl sydd fwyaf agored i niwed yn Sir Benfro. 

 

Deisebwyr yn cyflwyno’r ddeiseb i’r pwyllgor

Deisebwyr SWAT yn cyflwyno’r ddeiseb i’r pwyllgor

 

Statws

Yn ei gyfarfod ar 15/05/2018 penderfynodd y Pwyllgor Deisebau fod y ddeiseb hon wedi'i chwblhau.

 

Etholaeth a Rhanbarth y Cynulliad

·         Gorllewin Caerfyrddin a De Sir Benfro

·         Canolbarth a Gorllewin Cymru

Rhagor o wybodaeth

 

Math o fusnes: Deiseb

Rheswm dros ei ystyried: Busnes y Senedd;

Cyhoeddwyd gyntaf: 30/06/2017