P-04-628 Mynediad at Iaith Arwyddion Prydain i bawb
P-04-628 Mynediad at Iaith Arwyddion Prydain i bawb
Rydym yn galw ar Gynulliad Cenedlaethol Cymru i annog
Llywodraeth Cymru i wella mynediad at addysg a gwasanaethau o ran Iaith
Arwyddion Prydain er mwyn gwella ansawdd bywyd pobl fyddar o bob oedran.
Gwella mynediad fel y gall teuluoedd ddysgu Iaith
Arwyddion Prydain: Pan fo plentyn yn
cael diagnosis ei fod yn fyddar / yn drwm ei glyw, dylid cynnig gwersi am ddim
/ gwersi â chymhorthdal i'w rieni, fel y gallant ddysgu Iaith Arwyddion Prydain
(mae cwrs Iaith Arwyddion Prydain lefel un yn costio tua £300 y pen). Drwy ddefnyddio lleferydd yn unig, mae plant
byddar yn ei chael yn anodd datblygu sgiliau cyfathrebu, neu'n methu â gwneud
hynny, gan fethu â chyrraedd cerrig milltir pwysig. Bydd dysgu ieithoedd eraill
drwy Iaith Arwyddion Prydain (Saesneg / Cymraeg) yn gwella dealltwriaeth y
plentyn.
Cyflwyno Iaith Arwyddion Prydain ar y Cwricwlwm
Cenedlaethol: Bydd plant a phobl ifanc byddar sy'n dysgu Iaith Arwyddion
Prydain pan fyddant yn ifanc yn cael gwell mynediad at addysg a bydd yn fuddiol
i'w lles. Dylai Iaith Arwyddion Prydain
gael ei haddysgu i bawb gan athrawon byddar cymwys mewn ysgolion, a byddai
hynny'n sicrhau gwell mynediad i bawb yn y gymdeithas. Credwn y dylai Iaith Arwyddion Prydain gael ei
chynnig fel cymhwyster iaith i bob dysgwr. Nid yw TGAU Cymraeg (ac ieithoedd
modern eraill) yn cael eu cynnig bob amser i ddisgyblion byddar; mae angen
gwella'r sefyllfa hon hefyd.
Gwella mynediad at addysg mewn Iaith Arwyddion Prydain i
blant a phobl ifanc byddar: mae eu mynediad at addysg mewn Iaith Arwyddion
Prydain yn gyfyngedig ar hyn o bryd, ac yn aml, mae cymwysterau'r cynorthwywyr
sydd ar gael yn annigonol. Mae bwlch enfawr o ran addysg plant byddar, ac mae
llawer yn cael eu trin, ar gam, fel pe tai ganddynt anabledd dysgu. Mae hynny'n
effeithio'n negyddol ar eu datblygiad, gan olygu eu bod nhw'n llai annibynnol
oherwydd addysg wael, gan arwain at ddiffyg cyflogaeth. Mae angen sicrhau bod
gweithwyr cymorth cyfathrebu sydd â chymwysterau digonol ar gael mewn ysgolion.
Sicrhau bod gwasanaethau ac adnoddau ym maes Iaith
Arwyddion Prydain ar gael i bobl ifanc fyddar: galluogi defnyddwyr Iaith
Arwyddion Prydain i gael gafael ar wybodaeth yn eu dewis iaith drwy adnoddau
digidol ar gyfer gwasanaethau fel addysg, gofal iechyd, gwasanaethau
cymdeithasol a thrafnidiaeth gyhoeddus, gan sicrhau bod gwasanaethau ar gael
iddynt yn ddiwahân, yn yr un modd â mynediad yn achos yr iaith Gymraeg.
Sefydliad: Deffo
Prif
ddeisebydd: Cathie Robins-Talbot
Ysytyriwyd
am y tro cyntaf gan y Pwyllgor: 24 Mawrth 2015
Nifer
y llofnodion 502 a’r lein, 660 papur. Cyfanswm 1,162 llofnod.
Math o fusnes: Deiseb
Rheswm dros ei ystyried: Busnes y Senedd;
Statws: I'w ystyried
Cyhoeddwyd gyntaf: 23/03/2015
Dogfennau