P-05-770 Ailagor gorsaf Drenau Crymlyn

P-05-770 Ailagor gorsaf Drenau Crymlyn

 

Cyflwynwyd y ddeiseb hon gan Michael Davies, ar ôl casglu 208 o lofnodion ar-lein.

 

Geiriad y ddeiseb:

​​​Rydym yn galw ar Gynulliad Cenedlaethol Cymru i annog Llywodraeth Cymru i ailagor gorsaf drenau Crymlyn. Rydym yn credu y gallai Crymlyn fod yn ganolfan drafnidiaeth gyhoeddus bwysig. Byddai ei lleoliad allweddol yn cynnig pwynt cyfnewid ar gyfer sawl dull teithio rhwng gwasanaethau rheilffordd llinell Glynebwy ar ei newydd wedd a phrif lwybr y bysiau cyflym rhanbarthol drwy ganol y cymoedd. Mae safle'r orsaf yn gyfleus ar gyfer y rhwydwaith priffyrdd, ac mae ganddo faes parcio mawr a lle i fysiau. Mae modd cyrraedd llwybrau cerdded a beicio o'r safle. Nodwn fod y llygredd aer ar un o'r strydoedd yng Nghrymlyn gyda'r gwaethaf y tu allan i Lundain a bod angen gwella cysylltiadau trafnidiaeth gyhoeddus er mwyn gwella iechyd y cyhoedd. Rydym yn annog Llywodraeth Cymru i asesu'r achos dros ailagor gorsaf drenau yng Nghrymlyn ac i ystyried  ei hychwanegu at y rhestr flaenoriaethau nesaf o gynigion ar gyfer gorsafoedd newydd yng Nghymru.

Traciau trên yn rhedeg tuag at y gorwel 

Traciau trên

 

Statws

Yn ei gyfarfod ar 13/11/2018 penderfynodd y Pwyllgor Deisebau fod y ddeiseb hon wedi'i chwblhau.

 

Cafodd ei thrafod gyntaf gan y Pwyllgor Deisebau ar 19/09/2017

 

Etholaeth a Rhanbarth y Cynulliad

  • Islwyn
  • Dwyrain De Cymru

 

Rhagor o wybodaeth

Math o fusnes: Deiseb

Rheswm dros ei ystyried: Busnes y Senedd;

Cyhoeddwyd gyntaf: 06/09/2017