P-05-776 Cydnabod tri chan mlwyddiant Williams Pantycelyn
P-05-776 Cydnabod tri chan mlwyddiant Williams Pantycelyn
Cyflwynwyd y ddeiseb hon gan Aled Gwyn Job, ar ôl casglu
545 o lofnodion ar-lein a 569 ar bapur – cyfanswm o 1,114 lofnodion.
Geiriad
y ddeiseb
Galwn ar Lywodraeth Cymru i gydnabod a choffáu tri chan
mlwyddiant geni William Williams, Pantycelyn eleni (1717-2017). Credwn fod
Williams Pantycelyn wedi gosod y seiliau ar gyfer y Gymru Fodern trwy ei holl
emynau (dros 900), ei weithiau llenyddol amrywiol (90), a'i genhadu diflino
dros yr efengyl trwy Gymru ben baladr am 40 mlynedd. Arweiniodd Diwygiadau
Methodistaid y 18fed ganrif, y bu Williams yn rhan mor allweddol ohonynt, at
sefydlu'r corff cenedlaethol cyntaf yn hanes Cymru ers 400 mlynedd, sef
Methodistiaid Calfinaidd Cymru (1811). Roedd hwnnw yn ei dro yn gyfrwng i
sbarduno cyfres o ddiwygiadau addysgol, cymdeithasol a gwleidyddol pellach fu'n
gwbl ganolog wrth greu'r Gymru Fodern. Mae Pantycelyn felly yn fwy na dim ond
un o ffigurau mawr y traddodiad ffydd yng Nghymru. Mae'n un o ffigurau mawr ein
stori genedlaethol fel Cymry. Mae'n ddyletswydd ar Lywodraeth Cymru i gydnabod
ei gyfraniad anferthol i'n cenedl a galwn ar y Llywodraeth i drefnu dathliad
priodol wedi i'r aelodau ddychwelyd i Gaerdydd ym mis Medi.
Gwybodaeth
ychwanegol
Nodwn fod Llywodraeth Cymru wedi trefnu dathliadau
cyffelyb i nodi cyfraniadau dau o Gymry amlwg eraill yn ddiweddar. Y llynedd,
dathlwyd cyfraniad y nofelydd plant Roald Dahl, a'r flwyddyn gynt, dathlwyd
cyfraniad y bardd Dylan Thomas. Gwariwyd symiau helaeth o arian trethdalwyr
Cymru ar y digwyddiadau hyn.
Gyda chynsail fel hon wedi ei gosod ddwywaith yn ddiweddar, credwn y byddai'n
anesgusodol i'n llywodraeth genedlaethol wrthod cydnabod cyfraniad Williams
Pantycelyn yn yr un modd.
Gyda phob dyledus barch i Dylan Thomas a Roald Dahl, a'u cyfraniadau unigol yn
eu meysydd priodol - does dim modd cymharu eu cyfraniadau hwy i fywyd Cymru
gyfan gyda chyfraniad y Pêr Ganiedydd, William Williams.
Bu ymateb cyhoeddus ffyrnig yn ddiweddar i ffiasgo " Y Cylch Haearn"
a'r syniad hwn o wario £400,000 i ddathlu goresgyniad Cymru gan Edward I gyda
darn o gelf yng Nghastell y Fflint. Y gŵyn a gafodd ei mynegi dro ar ôl
tro gan aelodau o'r cyhoedd oedd, sut ar wyneb y ddaear gallai Llywodraeth
Cymru fod mor anwybodus ac ansensitif am hanes Cymru ei hun?
Byddai dathlu a choffáu bywyd a gwaith Williams Pantycelyn mewn modd priodol yn
dangos fod gan Lywodraeth Cymru ymdeimlad tuag at ein hanes cenedlaethol.
Un syniad y carem ichi ei ystyried ydy trosglwyddo'r arian a ddynodwyd ar gyfer
y Cylch Haearn a chodi darn o gelf aruchel yn Llanymddyfri i gofio am Y Pêr
Ganiedydd.
Y deisebwyr efo Aelodau’r Pwyllgor
Statws
Yn ei gyfarfod ar 15/05/2018 penderfynodd y Pwyllgor Deisebau fod y ddeiseb hon
wedi'i chwblhau.
Cafodd ei thrafod gyntaf gan y
Pwyllgor Deisebau ar 03/10/2017.
Etholaeth
a Rhanbarth y Cynulliad:
- Arfon
- Gogledd Cymru
Rhagor
o wybodaeth
Math o fusnes: Deiseb
Rheswm dros ei ystyried: Busnes y Senedd;
Statws: Wedi’i gwblhau
Cyhoeddwyd gyntaf: 11/09/2017