Agenda a Chofnodion
Lleoliad: Ystafell Bwyllgora 1 - y Senedd
Cyswllt: Graeme Francis
Cyfryngau
Senedd.TV: Gweld y gweddarllediad
Transcript: Trawsgrifiad ar gyfer 01/05/2018 - Y Pwyllgor Deisebau - Y Bumed Senedd
Amseriad disgwyliedig | Rhif | Eitem |
---|---|---|
Cyflwyniad, ymddiheuriadau, dirprwyon a datgan buddiannau Dogfennau ategol: Cofnodion: Croesawodd y Cadeirydd bawb i’r cyfarfod.
Roedd Suzy Davies yn dirprwyo ar ran Janet Finch-Saunders o eitem 3.2. |
||
Deisebau newydd |
||
P-05-805 Rhoi chwarae teg i Athrawon Cyflenwi Dogfennau ategol:
Cofnodion: Datganodd Neil McEvoy y buddiant perthnasol a ganlyn o dan Reol Sefydlog
17.24A: Mae wedi gweithio fel athro cyflenwi o'r blaen. Trafododd y Pwyllgor y ddeiseb am y tro cyntaf ac, yng ngoleuni'r ystod o
faterion a phryderon a godwyd yn sgil y ddeiseb, cytunodd i ofyn i'r deisebwyr
a oes atebion penodol i'r materion a godwyd yr hoffent i'r Pwyllgor eu trafod
wrth barhau i ystyried y ddeiseb. |
||
P-05-808 Ni ddylai Cymraeg fod yn orfodol i blant â dyslecsia ac anghenion arbennig Dogfennau ategol:
Cofnodion: Trafododd y Pwyllgor y ddeiseb am y tro cyntaf a chytunodd ar y camau a
ganlyn: ·
gofyn i gael gwybodaeth am lefel y gefnogaeth sydd ar gael wrth addysgu
Cymraeg i ddisgyblion â dyslecsia a'r hyn sy'n digwydd mewn achosion eithafol
lle nodir bod disgybl yn cael trafferth dysgu ail iaith; ac ·
aros am farn y deisebydd am yr ymateb gan Weinidog y Gymraeg a Dysgu Gydol
Oes cyn penderfynu a ddylid cymryd rhagor o gamau ynghylch y ddeiseb. |
||
P-05-809 Is-ddeddfau Pysgota Arfaethedig Newydd a Methiannau Cyfoeth Naturiol Cymru Dogfennau ategol:
Cofnodion: Trafododd y Pwyllgor y ddeiseb hon am y tro cyntaf a chytunodd ar y camau a
ganlyn: ·
trafod y ddeiseb hon yn y dyfodol ochr yn ochr â P-05-810 Rhowch Gyfle i
Glybiau Pysgota Cymru ac Eog a Brithyll y Môr; ·
ysgrifennu at Ysgrifennydd y Cabinet dros Ynni, Cynllunio a Materion
Gwledig i roi'r sylwadau manwl gan y deisebydd ar gyfer P-05-810 a gofyn am
ddiweddariad ar ei hystyriaeth o gais Cyfoeth Naturiol Cymru i benderfynu ar
is-ddeddfau. |
||
P-05-810 Rhowch Gyfle i Glybiau Pysgota Cymru ac Eog a Brithyll y Môr Dogfennau ategol:
Cofnodion: Trafododd y Pwyllgor y ddeiseb hon am y tro cyntaf a chytunodd ar y camau a
ganlyn:
|
||
P-05-811 Rhoi'r gorau i ddefnyddio ardystiad gweithwyr ar brosiectau Llywodraeth Cymru Dogfennau ategol:
Cofnodion: Trafododd y Pwyllgor y ddeiseb am y tro cyntaf a chytunodd i ysgrifennu at
Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyllid i: ·
geisio ymateb i'r sylwadau manwl gan y deisebydd a'r dull amgen
arfaethedig; a ·
gofyn a yw Llywodraeth Cymru wedi gwneud asesiad o effaith cynlluniau
ardystio megis Cynllun Ardystio Sgiliau Adeiladu (CSCS) ar gostau yswiriant i
unigolion neu gwmnïau. |
||
Y wybodaeth ddiweddaraf am ddeisebau blaenorol |
||
P-05-780 Ailagor Gorsaf Carno Dogfennau ategol:
Cofnodion: Trafododd y
Pwyllgor sylwadau gan y deisebwyr a chytunodd i ysgrifennu at: ·
Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi a Thrafnidiaeth i rannu sylwadau'r
deisebwyr a gofyn pryd, ac am ba resymau, y diwygiodd Llywodraeth Cymru ei
pholisi mewn perthynas â chyllido'r broses o ddatblygu gorsaf newydd yn
uniongyrchol; a ·
Phwyllgor yr Economi, Seilwaith a Sgiliau i ofyn a yw’n bwriadu edrych ar
fater cyllid Llywodraeth Cymru i ddatblygu gorsafoedd newydd yng Nghymru, gan
gynnwys fel rhan o ystyried masnachfraint rheilffordd yn y dyfodol, neu a
fyddai'n ystyried neilltuo amser i wneud hynny, yn ôl cais gan y deisebwyr. |
||
P-04-481 Cau'r bwlch ar gyfer disgyblion byddar yng Nghymru Dogfennau ategol:
Cofnodion: Trafododd y
Pwyllgor y wybodaeth ddiweddaraf gan y deisebwyr yn dilyn eu cyfarfod ag
Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg a chytunodd i gadw golwg ar hyn ac aros am
ddiweddariad arall gan y deisebwyr, cyn ystyried y ddeiseb eto. |
||
P-05-757 Cael gwared ar y rhwymedigaeth ar ysgolion i gynnal gweithredoedd addoli crefyddol Dogfennau ategol:
Cofnodion: Trafododd y
Pwyllgor y ddeiseb hon ynghyd â P-05-765 Cadw canllawiau presennol ar gyfer
Gwasanaethau Crefyddol a chytunodd ar y camau a ganlyn: ·
ysgrifennu yn ôl at Ysgrifennydd y Cabinet i bwyso am ragor o eglurder ar
yr amserlen ar gyfer darparu ymateb sylweddol; ac ·
ystyried casglu rhagor o dystiolaeth ar ôl cael yr ymateb hwnnw. |
||
P-05-765 Cadw canllawiau presennol ar gyfer Gwasanaethau Crefyddol Dogfennau ategol:
Cofnodion: Trafododd y Pwyllgor y ddeiseb hon ynghyd â P-05-757 Cael gwared ar y
rhwymedigaeth ar ysgolion i gynnal gweithredoedd addoli crefyddol a chytunodd ar y camau a ganlyn:
·
ystyried casglu rhagor o dystiolaeth ar ôl cael yr ymateb hwnnw. |
||
P-05-783 Sicrhau Cydraddoldeb Cwricwlwm i Ysgolion Cyfrwng Cymraeg e.e. Seicoleg TGAU Dogfennau ategol: Cofnodion: Nododd y Pwyllgor y byddai ganddo ddiddordeb mewn ystyried y materion a
godwyd yn sgil y ddeiseb hon ymhellach a chytunodd i roi cyfle i'r deisebydd
roi ei sylwadau mewn ymateb i'r ohebiaeth a gafwyd, ond cau'r ddeiseb yn y cyfarfod
nesaf os na ddaw hyn i law. |
||
P-05-802 Amddiffyn Maint Dosbarthiadau mewn Ystafelloedd Dosbarth a Gweithdai Dylunio a Thechnoleg Dogfennau ategol:
Cofnodion: Trafododd y
Pwyllgor ohebiaeth gan Ysgrifennydd y Cabinet ynghyd â sylwadau eraill gan y
deisebydd a chytunodd i ysgrifennu at Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg i
ofyn: ·
a fydd ei hymrwymiad i atgoffa Penaethiaid, ac eraill, o'u dyletswyddau yn
y maes hwn ar ffurf nodyn cyngor yn ôl cais y deisebydd; ac ·
iddi roi copi ohono i'r Pwyllgor pan fydd wedi'i lunio. |
||
P-05-781 Cymuned Port Talbot yn erbyn yr Archgarchar Dogfennau ategol:
Cofnodion: Cytunodd y Pwyllgor i aros am ymateb
y deisebydd i Ddatganiad Ysgrifenedig Llywodraeth Cymru ar Bolisi Cyfiawnder
yng Nghymru, a gyhoeddwyd ar 6 Ebrill, cyn ystyried rhagor o gamau ar y
ddeiseb. |
||
P-05-800 Apêl Brys am Gomisiynydd Cyn-filwyr Cymru Dogfennau ategol:
Cofnodion: Trafododd y Pwyllgor ohebiaeth gan Ysgrifennydd y Cabinet dros Lywodraeth
Leol a Gwasanaethau Cyhoeddus a chytunodd i aros am farn y deisebydd am hynny, ac
am Ddatganiad Ysgrifenedig Ysgrifennydd y Cabinet ar 23 Ebrill, cyn ystyried a
ddylai gymryd rhagor o gamau mewn cysylltiad â'r ddeiseb. |
||
P-05-784 Dibyniaeth ar gyffuriau presgripsiwn ac effeithiau diddyfnu - adnabyddiaeth a chefnogaeth Dogfennau ategol:
Cofnodion: Trafododd y Pwyllgor y dystiolaeth a ddaeth i law, a chytunodd ar y camau a
ganlyn: ·
ysgrifennu at Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd a Gwasanaethau
Cymdeithasol i ofyn pryd y disgwylir i'r Fframwaith Triniaethau Camddefnyddio
Sylweddau gael ei gyhoeddi; a ·
llunio llythyr drafft at Ysgrifennydd y Cabinet, gan amlinellu'r
dystiolaeth a gafwyd ynghyd ag unrhyw argymhellion y bydd y Pwyllgor efallai am
eu gwneud. |
||
P-05-793 Band eang cyflym i bentref Llangenni Dogfennau ategol:
Cofnodion: Trafododd y Pwyllgor y wybodaeth ddiweddaraf gan y deisebwyr a chytunodd i
ysgrifennu'n ôl at Arweinydd y Tŷ a'r Prif Chwip a BT Openreach, i ofyn
iddynt hwyluso'r broses o osod band eang cyflym i'r pentref o ystyried sicrwydd
blaenorol ei fod wedi'i wneud. |
||
P-05-798 Gwasanaethau cymorth i ddynion sy'n ddioddefwyr trais yn y cartref i gael eu rhedeg a'u cyllido'n annibynnol Dogfennau ategol:
Cofnodion: Trafododd y Pwyllgor ohebiaeth gan Arweinydd y Tŷ a’r Prif Chwip
ynghyd â sylwadau eraill gan y deisebydd a chytunodd ar y camau a ganlyn: ·
annog y deisebydd i gyfrannu i'r ymgynghoriad ar y canllawiau drafft ar
gyfer comisiynu gwasanaethau trais yn erbyn menywod, cam-drin domestig a thrais
rhywiol yng Nghymru; ac ·
ysgrifennu at Arweinydd y Tŷ i ofyn am sicrwydd y bydd Llywodraeth
Cymru yn mynd ati i geisio barn y rhai y mae cam-drin domestig yn erbyn dynion
yn effeithio arnynt ac adrodd yn ôl i'r Pwyllgor am sut y mae wedi mynd i'r
afael â cham-drin domestig yn erbyn dynion fel rhan o'r ymgynghoriad. |
||
P-05-804 Mae angen cyllid Llywodraeth Cymru ar gyfer chwarae!! Dogfennau ategol:
Cofnodion: Trafododd y Pwyllgor ohebiaeth gan y Gweinidog Plant a Gofal Cymdeithasol
a chan Gadeirydd y Pwyllgor Iechyd, Gofal Cymdeithasol a Chwaraeon, a chytunodd
i aros am farn y deisebwyr am yr atebion a roddwyd gan y Gweinidog cyn ystyried
cymryd rhagor o gamau mewn perthynas â'r ddeiseb. |
||
P-04-479 Deiseb Adran Pelydr-X ac Uned Mân Anafiadau Ysbyty Tywyn Dogfennau ategol:
Cofnodion: Nododd y Pwyllgor y ddau bapur. |
||
(10:00) |
Sesiwn Dystiolaeth - P-05-751 Cydnabod achosion o Ddieithrio Plentyn oddi wrth Riant Huw Irranca-Davies AC, Gweinidog Gofal Cymdeithasol a
Phlant Albert Heaney, Cyfarwyddwr
Gwasanaethau Cymdeithasol ac Integreiddio, Llywodraeth Cymru Nigel Brown, Prif
Weithredwr, Cafcass Cymru Dogfennau ategol:
Cofnodion: Clywodd y Pwyllgor dystiolaeth gan y Gweinidog Plant a Gofal Cymdeithasol,
Albert Heaney, a Nigel Brown. |
|
Cynnig o dan Reol Sefydlog 17.42 i benderfynu gwahardd y cyhoedd o'r cyfarfod ar gyfer y mater a ganlyn: Gweddill busnes y dydd. Cofnodion: Derbyniwyd y cynnig. |
||
Trafod Sesiynau Tystiolaeth Blaenorol Cofnodion: Trafododd y Pwyllgor y dystiolaeth a glywyd a chytunodd ar y camau a
ganlyn: ·
ysgrifennu at y Gweinidog Plant a Gofal Cymdeithasol i ofyn am ragor o
fanylion am fwriad Llywodraeth Cymru a CAFCASS Cymru yn y dyfodol i ddiwygio
polisïau a llwybrau mewn perthynas â dieithrio plentyn oddi wrth riant, gan
gynnwys hyfforddiant i staff; a ·
cheisio barn y deisebwyr am y dystiolaeth ddiweddar a gafodd y Pwyllgor. |
||
Trafod adroddiad drafft - P-05-785 Atal Trwydded Forol 12/45/ML i ollwng gwaddodion morol ymbelydrol o safle niwclear Hinkley Point yn nyfroedd glannau Cymru ger Caerdydd Dogfennau ategol:
Cofnodion: Cytunodd y Pwyllgor ar yr Adroddiad gyda rhai mân newidiadau. |