P-05-785 Atal Trwydded Forol 12/45/ML i ollwng gwaddodion morol ymbelydrol o safle niwclear Hinkley Point yn nyfroedd glannau Cymru ger Caerdydd
P-05-785 Atal Trwydded Forol 12/45/ML i ollwng gwaddodion morol ymbelydrol o safle niwclear Hinkley Point yn nyfroedd glannau Cymru ger Caerdydd
Cyflwynwyd y ddeiseb hon gan Tim Deere-Jones, ar ôl
casglu 7,033 o lofnodion ar-lein a 138 ar bapur – cyfanswm o 7,171 lofnodion.
Geiriad
y ddeiseb
Rydym yn galw ar
Gynulliad Cenedlaethol Cymru i annog Llywodraeth Cymru i gyfarwyddo Cyfoeth
Naturiol Cymru i atal y drwydded y mae wedi'i rhoi i NNB Genco, sy'n caniatáu
gollwng hyd at 300,000 o dunelli o ddeunydd a halogwyd yn ymbelydrol, wedi'i
garthu o wely'r môr ar safle pwerdy niwclear Hinkley Point, yn nyfroedd glannau
Cymru.
Rydym hefyd yn gofyn bod
cyfnod atal y drwydded yn cael ei ddefnyddio fel cyfle i sicrhau bod asesiad llawn
o'r effaith Amgylcheddol, dadansoddiad radiolegol cyflawn a samplu craidd yn
cael eu cynnal o dan arweiniad Cyfoeth Naturiol Cymru, a bod ymchwiliad
cyhoeddus, gwrandawiad llawn o dystiolaeth annibynnol ac ymgynghoriad cyhoeddus
yn cael eu cynnal cyn rhoi caniatâd i ollwng unrhyw waddodion o Hinkley.
Gwybodaeth ychwanegol
Mae Trwydded Forol 12/45/ML, a roddwyd gan Lywodraeth Cymru, yn caniatáu
gwaredu hyd at 300,000 o dunelli metrig o waddod morol a halogwyd yn
ymbelydrol, wedi'i garthu o wely'r môr ar safle pwerdy niwclear Hinkley Point,
ar safle dympio morol Cardiff Grounds yn agos at arfordir de Cymru. Bydd hyn yn
caniatáu i waith ddechrau ar y ddwy bibell newydd yn adweithydd niwclear
Hinkley C.
Mae'r gwaddodion sydd i'w
carthu wrth ymyl y pibellau gwastraff a ddefnyddir ar gyfer gollyngiadau o
bedwar adweithydd presennol Hinkley. Mae dadansoddiad a gomisiynwyd gan
asiantaethau Llywodraeth y DU yn dangos bod y gwaddod wedi'i halogi gan
wastraff ymbelydrol a ryddhawyd i'r môr dros gyfnod o 50 mlynedd a mwy o waith
ar safle Hinkley. Mae'r cyfrifiadau sy'n deillio o'r data swyddogol yn nodi y
gallai'r gwaddodion carthu arfaethedig fod yn dal o leiaf 7 biliwn o Bqs o
ymbelydredd, ond mae'r adroddiadau yn nodi y byddai'r symiau y byddai pobl yn dod
i gysylltiad â nhw'n isel iawn.
Mae gollyngiadau
ymbelydrol Hinkley i'r môr yn cynnwys dros 50 o radio-niwclidau, ond dim ond
tri ohonynt yr ymchwiliwyd iddynt drwy'r dadansoddiad. Felly, bydd cynnwys
ymbelydredd gwirioneddol y gwaddodion yn llawer uwch na'r hyn a ddangosir
drwy'r dadansoddiad sydd ar gael. Mae'r
dystiolaeth sydd ar gael hefyd yn awgrymu mai dim ond samplau arwynebol (0 i
5cm o ddyfnder) o'r gwaddodion a ddadansoddwyd, er bod ymchwil samplau craidd o
fannau eraill ym Môr Iwerddon yn dangos y gall crynodiadau fod hyd at bum
gwaith yn uwch ar ddyfnderoedd islaw 5cm.
Er bod deunydd ymbelydrol
gwaddodol yn debygol o wasgaru i ddechrau, mae astudiaethau'n profi ei fod
wedyn yn ailgronni ar wastadeddau llaid arfordirol ac aberol a morfeydd heli,
a'i fod hefyd yn gallu cael ei drosglwyddo o'r môr i'r tir yn sgil gwyntoedd
o'r môr a llifogydd arfordirol. Rydym yn nodi nad oes ymchwil ar yr hyn sy'n
digwydd i ymbelydredd o'r fath yn nyfroedd glannau de Cymru. Yn y cyd-destun hwn, rydym yn pryderu nad oes
gwaith ymchwil digonol wedi digwydd ynghylch y risgiau amgylcheddol a'r risgiau
i iechyd pobl yn sgil y gwaredu arfaethedig, a bod unrhyw gasgliadau sy'n
seiliedig ar y data anghyflawn presennol yn annibynadwy.
Y môr
Statws
Caeodd y Pwyllgor y ddeiseb hon ar ôl cyhoeddi ei
adroddiad a dadl dilynol yn y Cyfarfod Llawn ar 23 Mai 2018.
Cafodd ei thrafod gyntaf gan y Pwyllgor Deisebau ar 21/11/2017.
Etholaeth a Rhanbarth y Cynulliad
- Gorllewin Caerfyrddin a De Sir Benfro
- Canolbarth a Gorllewin Cymru
Rhagor
o wybodaeth
Rheswm dros ei ystyried: Busnes y Senedd;
Math: Er gwybodaeth
Cyhoeddwyd gyntaf: 31/10/2017
Dogfennau