P-05-765 Cadw canllawiau presennol ar gyfer Gwasanaethau Crefyddol

P-05-765 Cadw canllawiau presennol ar gyfer Gwasanaethau Crefyddol

Wedi'i gwblhau

 

Cyflwynwyd y ddeiseb hon gan Iraj Irfan, ar ôl casglu cyfanswm o 2,231 llofnod - 2,209 o lofnodion ar-lein, a 22 o lofnodion ar bapur mewn deiseb amgen.

 

Geiriad y ddeiseb:

​​​Rydym yn galw ar i Gynulliad Cenedlaethol Cymru annog Llywodraeth Cymru i gadw gwasanaethau crefyddol yn ysgolion gwladol Cymru fel rhai ‘optio allan’ ac ‘‘o natur Gristnogol fras yn gyfan gwbl neu’n bennaf’’, gan ystyried ffyrdd o sicrhau eu bod yn parhau i fod yn berthnasol i bobl sydd o grefydd wahanol a’r rhai sydd heb grefydd o gwbl.

Y deisebwyr yn cyflwyno’r ddeiseb i’r Pwyllgor

Y deisebwyr yn cyflwyno’r ddeiseb i’r Pwyllgor

 

Statws

Yn ei gyfarfod ar 07/01/2020 penderfynodd y Pwyllgor Deisebau fod y ddeiseb hon wedi'i chwblhau.

Clywodd y Pwyllgor dystiolaeth gan y Gweinidog Addysg, a chan fod y Gweinidog yn glir na fydd Llywodraeth Cymru yn bwrw ymlaen â gwaith pellach ar y mater hwn yn ystod y Cynulliad presennol, fe gytunwyd nad oes llawer mwy y gellir ei gyflawni ar hyn o bryd. Cytunodd y Pwyllgor i gau’r ddeiseb, gan ddiolch i'r deisebwyr am ddefnyddio'r broses ddeisebau.

Gellir gweld manylion llawn ynghylch trafodaeth y pwyllgor o'r ddeiseb hon a'r dogfennau cysylltiedig ar y tab Cyfarfodydd uchod.

Cafodd ei hystyried gyntaf gan y Pwyllgor Deisebau ar 27/06/2017.

 

Etholaeth a Rhanbarth y Cynulliad Rhagor o wybodaeth

  • Gorllewin Caerdydd
  • Canol De Cymru

 

Rhagor o wybodaeth

Math o fusnes: Deiseb

Rheswm dros ei ystyried: Busnes y Senedd;

Cyhoeddwyd gyntaf: 21/06/2017