P-05-804 Mae angen cyllid Llywodraeth Cymru ar gyfer chwarae!!
P-05-804 Mae angen cyllid Llywodraeth Cymru ar gyfer chwarae!!
Cyflwynwyd y ddeiseb hon gan RAY Ceredigion, ar ôl casglu
328 o lofnodion ar-lein.
Geiriad y ddeiseb:
Rydym
yn galw ar Gynulliad Cenedlaethol Cymru i ddarparu cyllid dynodedig blynyddol i
roi cymorth ariannol i bob Awdurdod Lleol wrth gyflawni eu dyletswydd yn unol
â'u hasesiad o ddigonolrwydd cyfleoedd chwarae er mwyn osgoi cau darpariaethau
chwarae agored megis RAY Ceredigion
Statws
Yn ei gyfarfod ar 23/07/2020
penderfynodd y Pwyllgor Deisebau fod y ddeiseb hon wedi'i chwblhau.
Yn dilyn ymrwymiad y Dirprwy
Weinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol y bydd yr Adolygiad o Chwarae gan y
Gweinidog yn cynnwys ystyried trefniadau cyllido a'r ohebiaeth a gafodd y
Pwyllgor, cytunodd y Pwyllgor i gau'r ddeiseb a diolch i'r deisebydd am godi'r
ddeiseb. Dywedodd Aelodau'r Pwyllgor y byddent yn parhau i graffu ar yr
adolygiad gan y Gweinidog yn rhinwedd eu swydd fel Aelodau unigol o'r Senedd.
Gellir gweld manylion llawn ynghylch trafodaeth y
pwyllgor o'r ddeiseb hon a'r dogfennau cysylltiedig ar y tab Cyfarfodydd uchod.
Cafodd ei hystyried gyntaf gan y Pwyllgor Deisebau
ar 13/03/2018.
Etholaeth a Rhanbarth y Senedd
- Ceredigion
- Canolbarth a Gorllewin Cymru
Rhagor o wybodaeth
- Hafan y Pwyllgor Deisebau
- Gweld pob deiseb sydd ar agor
- Gweld pob deiseb mae’r pwyllgor bellach
yn ystyried
- Sut mae proses Ddeisebu yn gweithio
Math o fusnes: Deiseb
Rheswm dros ei ystyried: Busnes y Senedd;
Cyhoeddwyd gyntaf: 09/03/2018