P-05-808 Ni ddylai Cymraeg fod yn orfodol i blant â dyslecsia ac anghenion arbennig
P-05-808 Ni ddylai Cymraeg fod yn orfodol i blant â dyslecsia ac anghenion arbennig
Cyflwynwyd y ddeiseb hon gan Jessica Fox, ar ôl casglu 81
o lofnodion ar-lein.
Geiriad
y ddeiseb
Fel llawer o blant eraill yn y Deyrnas Unedig, mae fy mab yn dioddef o dyslecsia.
Mae ysgrifennu a darllen Saesneg yn her ddyddiol felly dychmygwch orfod dysgu
darllen ac ysgrifennu iaith arall na fyddwch byth yn ei defnyddio. Dyma beth
mae fy mab yn gorfod ei wneud bob dydd gan ein bod yn byw yng Nghymru. Rwyf
wedi ceisio ei dynnu o’r gwersi Cymraeg fel y gall gael gwersi Saesneg
ychwanegol ond mae’n rhwymedigaeth gyfreithiol i’r ysgol ddysgu Cymraeg yng
Nghymru. Mae’n her ddyddiol i blant â dyslecsia sy’n byw yng Nghymru. Dylai
Cymraeg fod yn ddewisol i blant â dyslecsia ac anghenion arbennig, ac nid yn
orfodol.
Statws
Yn ei gyfarfod ar 19/03/2019 penderfynodd y Pwyllgor
Deisebau fod y ddeiseb hon wedi'i chwblhau.
Trafododd y Pwyllgor
ohebiaeth gan riant arall ond, yng ngoleuni'r pwerau presennol sydd gan
benaethiaid i ddatgymhwyso agweddau ar y Cwricwlwm Cenedlaethol dros dro, gan
gynnwys y posibilrwydd o eithrio pynciau penodol dros dro, cytunodd y Pwyllgor
i gau'r ddeiseb.
Cafodd ei hystyried
gyntaf gan y Pwyllgor Deisebau ar 01/05/2018.
Etholaeth a Rhanbarth y Cynulliad
·
Dwyrain Casnewydd
·
Dwyrain De Cymru
Rhagor
o wybodaeth
- Dysgwch fwy am broses ddeisebau'r
Cynulliad
- Llofnodwch e-ddeiseb
- Sut mae proses
Ddeisebu yn gweithio
Math o fusnes: Deiseb
Rheswm dros ei ystyried: Busnes y Senedd;
Statws: Wedi’i gwblhau
Cyhoeddwyd gyntaf: 16/04/2018