P-05-802 Amddiffyn Maint Dosbarthiadau mewn Ystafelloedd Dosbarth a Gweithdai Dylunio a Thechnoleg

P-05-802 Amddiffyn Maint Dosbarthiadau mewn Ystafelloedd Dosbarth a Gweithdai Dylunio a Thechnoleg

Wedi'i gwblhau

 

Cyflwynwyd y ddeiseb hon gan Aled Dafis, ar ôl casglu 338 o lofnodion ar-lein.

 

Geiriad y ddeiseb

Rydym yn galw ar Gynulliad Cenedlaethol Cymru i annog Llywodraeth Cymru i sicrhau bod pob ysgol yng Nghymru yn mabwysiadu safon BS4163:2014 yn llawn fel gofyniad yn hytrach nag argymhelliad, er mwyn amddiffyn iechyd a diogelwch disgyblion, athrawon a thechnegwyr.

 

Yn dilyn cyfarfodydd rhwydweithio ar gyfer athrawon Dylunio a Thechnoleg gan Ein Rhanbarth ar Waith, daeth yn amlwg bod y pwysau ariannol ar ysgolion yn arwain at sefyllfa lle y mae gofyn i athrawon Dylunio a Thechnoleg fwyfwy i addysgu dosbarthiadau mwy na’r 20 disgybl yr argymhellir yn BS4163:2014 "Iechyd a diogelwch ar gyfer dylunio a thechnoleg mewn sefydliadau addysgol - Cod Ymarfer". Mae dosbarthiadau mwy o faint yn anochel yn arwain at risg uwch o ran disgyblion yn cael eu hanafu mewn amgylcheddau gweithdy.

 

Gwybodaeth ychwanegol:

 

Mae Cod Ymarfer BS4163:2014 yn nodi’n glir fel a ganlyn:

"9 Rheoli’r amgylchedd addysgu

 9.1

Gwybodaeth gefndir
Dylid ystyried yn ofalus nifer y dysgwyr mewn unrhyw un ardal weithio, i sicrhau y ceir gweithio diogel a goruchwyliaeth effeithiol.

Yng Nghymru a Lloegr, dylai dim mwy nag 20 o ddysgwyr fod gydag un athro cymwys, sydd wedi cymhwyso, mewn unrhyw un ardal weithio.

Yn yr Alban a Gogledd Iwerddon, dylai dim mwy nag 20 disgybl fod ar gyfer pob dosbarth mewn pynciau ymarferol."

 

 

Statws

Yn ei gyfarfod ar 25/06/2019 penderfynodd y Pwyllgor Deisebau fod y ddeiseb hon wedi'i chwblhau.

Trafododd y Pwyllgor ohebiaeth bellach gan y Gweinidog Addysg a'r deisebydd. Cytunodd y Pwyllgor i gau'r ddeiseb yn dilyn y camau a gymerwyd i atgoffa penaethiaid, cyrff llywodraethu ac eraill am yr angen i sicrhau bod asesiadau risg dosbarth Dylunio a Thechnoleg yn cael eu diweddaru drwy'r cylchlythyr Dysg. Wrth wneud hynny, roedd y Pwyllgor yn dymuno diolch i'r deisebydd am godi'r mater hwn.

Gellir gweld manylion llawn ynghylch trafodaeth y pwyllgor o'r ddeiseb hon a'r dogfennau cysylltiedig ar y tab Cyfarfodydd uchod.

Cafodd ei hystyried gyntaf gan y Pwyllgor Deisebau ar 13/03/2018.

 

 

Etholaeth a Rhanbarth y Cynulliad

  • Ceredigion
  • Canolbarth a Gorllewin Cymru

 

Rhagor o wybodaeth

Ø  Dysgwch fwy am broses ddeisebau'r Cynulliad

Ø  Llofnodwch e-ddeiseb

Ø  Sut mae proses Ddeisebu yn gweithio

 

 

Math o fusnes: Deiseb

Rheswm dros ei ystyried: Busnes y Senedd;

Statws: Wedi’i gwblhau

Cyhoeddwyd gyntaf: 09/03/2018