P-05-781 Cymuned Port Talbot yn erbyn yr Archgarchar
Cyflwynwyd y ddeiseb hon gan The Port Talbot Super Prison
Protest Group, ar ôl casglu 1,263 o lofnodion ar-lein a 7,528 ar bapur –
cyfanswm o 8,791 lofnodion.
Geiriad
y ddeiseb:
Rydym yn galw ar
Gynulliad Cenedlaethol Cymru i annog Llywodraeth Cymru i beidio â rhyddhau na
gwerthu tir i lywodraeth y DU i ddatblygu archgarchar ym Maglan.
Mae Llywodraeth y DU,
gyda chefnogaeth Llywodraeth Cymru, yn cynnig adeiladu 'archgarchar' â lle i
1600 o ddynion ar rostir Baglan.
Mae'r safle yn agos at
gartrefi a chyfleusterau lleol a busnesau lleol, a bydd yn rhoi straen
sylweddol ar ffyrdd a gwasanaethau iechyd yn yr ardal. Mae'r safle mewn
parth menter ac wedi'i ddynodi ar gyfer defnydd economaidd yn ogystal â bod
mewn ardal lle y ceir perygl llifogydd.
Mae gan Gymru eisoes
lawer o leoedd gwag yn y carchardai sydd ganddi ar hyn o bryd.
Byddai'r carchar hwn yn
cyflwyno'r holl broblemau sy'n gysylltiedig â charchardai mawr ac ni chafwyd
unrhyw warant gan y naill lywodraeth na'r llall ynglŷn â'r camau amddiffyn
a fyddai'n cael eu rhoi ar waith i gynorthwyo Port Talbot i ymdopi â nifer mor
fawr o garcharorion.
Nid oes unrhyw sicrwydd
tymor hir y byddai'r carchar newydd yn parhau i gael ei neilltuo ar gyfer
carcharorion categori C. Gellid ei newid yn y dyfodol i gadw troseddwyr mwy
peryglus.
Gall Port Talbot wneud yn
well na hyn ac mae ein tref yn haeddu llawer mwy. A wnewch chi lofnodi'r
ddeiseb a dweud wrth Lywodraeth y DU a Llywodraeth Cymru, DIM archgarchar ym
Mhort Talbot?
Deisebwyr yn cyflwyno’r ddeiseb i’r Cynulliad
Statws
Yn ei gyfarfod ar 12/07/2018 penderfynodd y Pwyllgor Deisebau fod y
ddeiseb hon wedi'i chwblhau.
Yn sgil datblygiadau diweddar sy'n dangos nad yw'r cynnig i adeiladu
carchar newydd ym Maglan yn mynd rhagddo, cytunodd y Pwyllgor i gau'r ddeiseb a
llongyfarch y deisebwyr ar lwyddiant eu hymgyrch.
Gellir gweld manylion llawn ynghylch trafodaeth y pwyllgor o'r ddeiseb hon
a'r dogfennau cysylltiedig ar y tab Cyfarfodydd uchod.
Cafodd ei thrafod gyntaf gan y
Pwyllgor Deisebau ar 07/11/2017.
Etholaeth a Rhanbarth y
Cynulliad
- Aberafan
- Gorllewin De Cymru
Rhagor
o wybodaeth
Math o fusnes: Deiseb
Rheswm dros ei ystyried: Busnes y Senedd;
Cyhoeddwyd gyntaf: 25/10/2017