P-05-793 Band eang cyflym i bentref Llangenni
P-05-793 Band eang cyflym i bentref Llangenni
Cyflwynwyd y ddeiseb hon gan Llangenny Village residents,
ar ôl casglu 72 o lofnodion ar-lein.
Geiriad
y ddeiseb:
Rydym ni, preswylwyr
pentref Llangenni ym Mhowys, yn galw ar Gynulliad Cenedlaethol Cymru i sicrhau
bod Llywodraeth Cymru yn rheoli eu contract am fand eang cyflym yng Nghymru
gyda BT mewn modd fel y bydd pentref Llangenni wedi cysylltu â chyflymder uchel
erbyn 31 Rhagfyr 2017.
Gwybodaeth ychwanegol:
Ar hyn o bryd, mae
preswylwyr yn ein pentref yn profi colli gwasanaeth yn rheolaidd neu gyflymder
mor isel â 0.01Mb/s. Mae llawer o breswylwyr yn rhedeg busnesau neu sefydliadau
gwirfoddol o adref ac mae angen band eang cyflym arnynt. Mae'r gwasanaeth
presennol yn gwbl annerbyniol.
Bysellfwrdd gyfrifiadur
Statws
Yn
ei gyfarfod ar 02/04/2019 penderfynodd y Pwyllgor Deisebau fod y ddeiseb hon
wedi'i chwblhau.
Trafododd
y Pwyllgor yr ohebiaeth bellach a chytunodd, er ei fod yn cydymdeimlo'n fawr â
thrigolion Llangenni yn y mater hwn, y byddai'n cau'r ddeiseb gan nad yw'n
ymddangos yn bosibl gwneud cynnydd pellach mewn perthynas â gwasanaethau band
eang yn Llangenni ar hyn o bryd.
Gellir gweld manylion
llawn ynghylch trafodaeth y pwyllgor o'r ddeiseb hon a'r dogfennau cysylltiedig
ar y tab Cyfarfodydd uchod.
Cafodd ei hystyried
gyntaf gan y Pwyllgor Deisebau ar 09/01/2018.
Etholaeth
a Rhanbarth y Cynulliad
- Brycheiniog a Sir Faesyfed
- Canolbarth
a Gorllewin Cymru
Rhagor
o wybodaeth
Math o fusnes: Deiseb
Rheswm dros ei ystyried: Busnes y Senedd;
Cyhoeddwyd gyntaf: 20/11/2017