Agenda a Chofnodion
Lleoliad: Ystafell Bwyllgora 1 - Y Senedd. Cyfarwyddiadau
Cyswllt: Graeme Francis
Cyfryngau
Senedd.TV: Gweld y gweddarllediad
Rhif | Eitem |
---|---|
Trawsgrifiad Gweld
trawsgrifiad o’r cyfarfod (PDF 357KB) Gweld
fel HTML (142KB) |
|
Cyflwyniad, ymddiheuriadau, dirprwyon a datganiadau o fuddiant Cofnodion: Croesawodd y Cadeirydd bawb i’r cyfarfod. Ni chafwyd ymddiheuriadau. |
|
Deisebau newydd |
|
P-05-769 Canolfan Trawma Difrifol De Cymru – Caerdydd ac Abertawe Dogfennau ategol:
Cofnodion: Trafododd y Pwyllgor y ddeiseb am y tro cyntaf, gan gytuno i aros am
safbwyntiau'r deisebydd cyn penderfynu pa gamau pellach i'w cymryd ynghylch y
ddeiseb. |
|
P-05-770 Ailagor Gorsaf Drenau Crymlyn Dogfennau ategol:
Cofnodion: Trafododd y Pwyllgor y ddeiseb am y tro cyntaf, gan gytuno i anfon y
wybodaeth fanwl a ddarparwyd gan y deisebydd at Ysgrifennydd y Cabinet dros yr
Economi a'r Seilwaith, gan ofyn: ·
a ellir defnyddio'r wybodaeth hon wrth lunio unrhyw asesiad yn y dyfodol
o'r potensial ar gyfer gorsaf newydd yn yr ardal; ac ·
a fydd cyfle i ystyried barn pobl leol yn ystod yr asesiad hwnnw. |
|
P-05-772 Na i Gylch Haearn arfaethedig Castell y Fflint Dogfennau ategol:
Cofnodion: Trafododd y Pwyllgor y ddeiseb am y tro cyntaf, gan gytuno i aros am ymateb
ffurfiol gan Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi a'r Seilwaith a gofyn am
safbwyntiau'r deisebydd arno, gyda'r bwriad o gau'r ddeiseb a llongyfarch y
deisebydd ar lwyddiant yr ymgyrch ar y cam hwnnw. |
|
Y wybodaeth ddiweddaraf am ddeisebau blaenorol |
|
P-05-692 Adeiladu Cofeb Mamieithoedd Rhyngwladol ym Mae Caerdydd Dogfennau ategol:
Cofnodion: Trafododd y Pwyllgor ohebiaeth oddi wrth Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi
a'r Seilwaith ynghyd â sylwadau pellach gan y deisebydd, gan gytuno i gau'r
ddeiseb am nad oes cyllid ar gael gan y Llywodraeth i adeiladu'r gofeb. Wrth wneud hynny, roedd yr Aelodau am dynnu
sylw'r deisebydd at bapur briffio'r Gwasanaeth Ymchwil, sy'n nodi sefydliadau
ac elusennau a allai helpu â'r ymgyrch. |
|
P-05-737 Achubwch ein Bws Dogfennau ategol:
Cofnodion: Trafododd y Pwyllgor ohebiaeth oddi wrth Stagecoach, gan gytuno i gau’r
ddeiseb yn sgil y wybodaeth a gafwyd. |
|
P-05-716 Cludiant am ddim ar drenau i ddisgyblion ysgol gyda Threnau Arriva Cymru Dogfennau ategol:
Cofnodion: Trafododd y Pwyllgor ohebiaeth oddi wrth Ysgrifennydd y Cabinet dros yr
Economi a'r Seilwaith ynghyd â sylwadau pellach gan y deisebydd a chytunodd i
ysgrifennu at: ·
Trenau Arriva Cymru er mwyn rhannu sylwadau pellach y deisebydd a gofyn am
ei ymateb i'r pryderon diogelwch a godwyd gan y deisebydd; a ·
Chyngor Bwrdeistref Sirol Rhondda Cynon Taf i ofyn am ei farn ar y
drafnidiaeth a ddarperir ar gyfer disgyblion yn Ysgol Treorci ac a ydyw wedi
cael unrhyw drafodaethau am ddiogelwch y disgyblion sy'n defnyddio'r orsaf. |
|
P-04-688 Gorsaf Bŵer Tata Steel ym Mhort Talbot Dogfennau ategol:
Cofnodion: Trafododd y Pwyllgor ohebiaeth oddi wrth y deisebydd a chytunodd i ysgrifennu
at Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi a'r Seilwaith i ofyn a gafwyd unrhyw
drafodaethau diweddar â Llywodraeth Cymru ynghylch gorsaf bŵer newydd ym
Mhort Talbot, cyn ystyried pa gamau pellach y gallai'r Pwyllgor eu cymryd . |
|
P-05-690 Arwynebu Ffordd A40 Rhaglan–Y Fenni Dogfennau ategol:
Cofnodion: Trafododd y Pwyllgor ohebiaeth oddi wrth Ysgrifennydd y Cabinet dros yr
Economi a'r Seilwaith, gan gytuno i ysgrifennu at y deisebydd i gael y
wybodaeth ddiweddaraf cyn penderfynu pa gamau i'w cymryd yn y dyfodol o ran y
ddeiseb. |
|
P-05-740 Deiseb i Warchod Ein Stryd Fawr Dogfennau ategol:
Cofnodion: Trafododd y Pwyllgor sylwadau pellach gan y deisebydd, gan gytuno i: ·
ofyn am farn y deisebydd ar y cynigion a geir yn yr ymgynghoriad cyfredol a
gyhoeddwyd gan Lywodraeth Cymru ar gynigion ar gyfer Cynllun Rhyddhad Ardrethi
Busnesau Bach parhaol newydd; ac ·
annog y deisebydd i ymateb yn uniongyrchol i Lywodraeth Cymru fel rhan o'r
ymgynghoriad hefyd. |
|
P-05-726 Rhoi Rhyddhad Ardrethi i Awdurdodau Lleol ar gyfer Cyfleusterau Hamdden a Diwylliannol Dogfennau ategol:
Cofnodion: Trafododd y Pwyllgor ohebiaeth oddi wrth Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyllid
a Llywodraeth Leol a chytunodd i ofyn am ragor o sylwadau gan y deisebydd ac ystyried
cau'r ddeiseb yn y cyfarfod nesaf os na ddaw ymateb i law. |
|
P-05-734 Gwahardd Codi Ffioedd Asiantau Gosod ar Denantiaid Dogfennau ategol:
Cofnodion: Trafododd y Pwyllgor ohebiaeth oddi wrth Ysgrifennydd y Cabinet dros
Gymunedau a Phlant a chytunodd i aros am safbwyntiau'r deisebydd cyn penderfynu
pa gamau pellach i'w cymryd o ran y ddeiseb. |
|
P-05-751 Cydnabod achosion o Ddieithrio Plentyn oddi wrth Riant Dogfennau ategol:
Cofnodion: Datganodd Neil McEvoy y buddiant perthnasol a ganlyn o dan Reol Sefydlog
17.24A: Mae wedi ymwneud â’r Gwasanaeth Cynghori a Chynorthwyo
Llys i Blant a Theuluoedd (CAFCASS) yn y gorffennol. Trafododd y Pwyllgor ohebiaeth oddi wrth Ysgrifennydd y Cabinet dros
Gymunedau a, gan gytuno i wahodd y deisebydd i roi tystiolaeth lafar i'r
Pwyllgor gyda'r bwriad o wahodd Ysgrifennydd y Cabinet dros Gymunedau a Phlant
i gyfarfod yn y dyfodol. |
|
P-05-711 Sicrhau bod Anghenion Pobl Anabl am Addasiadau i Dai yn cael eu Diwallu’n Ddigonol Dogfennau ategol:
Cofnodion: Trafododd y Pwyllgor ohebiaeth oddi wrth y deisebydd a chytunodd i gau’r
ddeiseb yn sgil yr ymateb cadarnhaol a gafwyd. |
|
P-05-712 Byddai Adran Llywodraeth Cymru o fewn Ewrop yn sicrhau llais clir, strategol ac atebol i Gymru mewn trafodaethau parhaus Dogfennau ategol:
Cofnodion: Trafododd y Pwyllgor ohebiaeth oddi wrth y Prif Weinidog a chytunodd i
gau'r ddeiseb gan fod trefniadaeth Llywodraeth Cymru yn fater i'r Prif Weinidog
a chan fod gwybodaeth yn cael ei darparu'n rheolaidd yn ystod trafodion eraill
y Cynulliad am ymateb Llywodraeth Cymru i'r broses o adael yr UE. Wrth wneud hynny, ystyriodd yr Aelodau
sylwadau a gafwyd gan y deisebydd ar ôl i'r papurau gael eu cyhoeddi, a oedd yn
cydnabod, yn ôl pob golwg, nad oedd hi'n werth parhau â'r ddeiseb. |
|
P-04-667 Cylchfan ar gyfer Cyffordd yr A477/A4075 Dogfennau ategol:
Cofnodion: Trafododd y Pwyllgor ohebiaeth oddi wrth Ysgrifennydd y Cabinet dros yr
Economi a'r Seilwaith a'r deisebydd a chytunodd i: ·
anfon sylwadau pellach y deisebydd at Ysgrifennydd y Cabinet er gwybodaeth;
a ·
gofyn a ellid darparu copi o'r Archwiliad Diogelwch Ffyrdd Cam 4 at y
deisebydd pan fydd y broses wedi'i chwblhau. |
|
P-05-701 Gwelliannau i Ddiogelwch y Ffordd ar Hyd Cefnffordd yr A487 Rhwng Aberteifi ac Aberystwyth, i Gynnwys Mannau Pasio Dogfennau ategol:
Cofnodion: Trafododd y Pwyllgor ohebiaeth oddi wrth Ysgrifennydd y Cabinet dros yr
Economi a'r Seilwaith, gan gytuno i ofyn am farn y deisebydd ar y wybodaeth
ddiweddaraf a gafwyd. |
|
P-05-714 Cynnwys Gorsaf ar Gyfer Mynachdy a Thal-y-bont fel Rhan o Unrhyw Gynnig ar Gyfer Metro Caerdydd Dogfennau ategol:
Cofnodion: Trafododd y Pwyllgor ohebiaeth oddi wrth Ysgrifennydd y Cabinet dros yr
Economi a'r Seilwaith a'r deisebydd a chytunodd i: ·
gau'r ddeiseb, o gofio bod yr ardal hon wedi'i chynnwys yn y broses asesu
manwl ar gyfer gorsafoedd newydd posibl; ac wrth wneud hynny ·
anfon safbwyntiau'r deisebydd ar leoliad orsaf at Ysgrifennydd y Cabinet
dros yr Economi a'r Seilwaith a gofyn iddo ystyried hyn fel rhan o unrhyw
drafodaethau yn y dyfodol. |
|
P-05-738 Deiseb Gyhoeddus ar gyfer Ffordd Osgoi i Ddinas Powys Dogfennau ategol:
Cofnodion: Trafododd y Pwyllgor ohebiaeth oddi wrth Arweinydd Cyngor Bro Morgannwg a'r
deisebydd a chytunodd i ysgrifennu llythyr pellach at Gyngor Bro Morgannwg i
ofyn am y wybodaeth ddiweddaraf pan benderfynir a ddylid bwrw ymlaen ag
adroddiad Cam 2 Arweiniad ar Arfarnu a Chynllunio Trafnidiaeth Cymru (WelTAG)
ai peidio. |
|
P-05-755 Galw ar Lywodraeth Cymru i sicrhau bod yr A48 ger Trelales, Broadlands a Merthyr Mawr yn ddiogel i holl ddefnyddwyr y ffyrdd ac i gerddwyr. Dogfennau ategol:
Cofnodion: Trafododd y Pwyllgor ohebiaeth oddi wrth y deisebydd a chytunodd i
ysgrifennu at Gyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr i ofyn iddo ystyried
ymchwilio i'r materion a godwyd yn y ddeiseb. Wrth wneud hynny, cytunodd yr
aelodau i gau'r ddeiseb ac i ysgrifennu at y deisebydd i egluro mai mater i'r
awdurdod lleol fyddai gwelliannau i'r rhan hon o'r A48. |
|
P-05-732 Amseroedd Aros Annerbyniol i Gleifion y GIG yn Adran Damweiniau ac Achosion Brys Wrecsam/Ysbyty Maelor Wrecsam Dogfennau ategol:
Cofnodion: Trafododd y Pwyllgor ohebiaeth oddi wrth Ysgrifennydd y Cabinet dros
Iechyd, Llesiant a Chwaraeon ynghyd â sylwadau pellach gan y deisebydd a
chytunodd i ofyn i Ysgrifennydd y Cabinet roi'r wybodaeth ddiweddaraf i'r
Pwyllgor pan fydd canlyniad yr ymyrraeth chwe mis wedi'i thargedu bresennol,
a'i heffaith ar amseroedd aros brys, yn hysbys. |
|
P-05-736 Gwneud gwasanaethau iechyd meddwl yn fwy hygyrch Dogfennau ategol:
Cofnodion: Trafododd y Pwyllgor ohebiaeth oddi wrth Ysgrifennydd y Cabinet dros
Iechyd, Llesiant a Chwaraeon a chytunodd i: ·
wahodd y deisebydd i un o gyfarfodydd y Pwyllgor i roi rhagor o dystiolaeth
am ei deiseb ochr yn ochr â Hafal a'r deisebydd ar gyfer P-05-764 Gwell Gwasanaethau
Iechyd Meddwl i Oedolion; ac ·
ysgrifennu at Ysgrifennydd y Cabinet i roi gwybod iddo am y sesiwn
dystiolaeth sydd ar ddod a nodi pa mor siomedig oedd y deisebydd â'i ymateb
diweddaraf. |
|
P-05-754 Diffyg cymorth i blant ag anableddau mewn argyfwng Dogfennau ategol:
Cofnodion: Datganodd Neil McEvoy y buddiant perthnasol a ganlyn o dan Reol Sefydlog
17.24A: Mae wedi gweithio yn y gorffennol mewn maes sy'n berthnasol i bwnc y
ddeiseb ac wedi atgyfeirio achosion at Wasanaethau Iechyd Meddwl Plant a'r
Glasoed (CAMHS). Trafododd y Pwyllgor ohebiaeth oddi wrth Ysgrifennydd y Cabinet dros
Iechyd, Llesiant a Chwaraeon a chytunodd i ofyn am farn y deisebydd ar yr
ymateb a gafwyd gan Ysgrifennydd y Cabinet cyn penderfynu pa gamau pellach i'w
cymryd o ran y ddeiseb. |
|
P-05-766 Dylid Gwneud Opsiwn Fegan yn Orfodol Mewn Ffreuturiau Cyhoeddus Dogfennau ategol:
Cofnodion: Trafododd y Pwyllgor ohebiaeth oddi wrth Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Amgylchedd
a Materion Gwledig a chytunodd i ofyn am sylwadau pellach gan y deisebydd cyn
penderfynu sut i fwrw ymlaen â'r ddeiseb.
|
|
P-05-750 Ar gyfer eitemau untro: cyflwyno System Dychwelyd Ernes ar gyfer cynwysyddion diodydd a sicrhau y gellir compostio cynwysyddion bwyd cyflym a'r offer sy'n gysylltiedig â hwy. Dogfennau ategol:
Cofnodion: Trafododd y Pwyllgor ohebiaeth oddi wrth Ysgrifennydd y Cabinet dros yr
Amgylchedd a Materion Gwledig a chytunodd i wahodd y deisebwyr i un o
gyfarfodydd y Pwyllgor i roi rhagor o dystiolaeth am y ddeiseb. |
|
P-05-760 Atal TGAU Cymraeg Gorfodol Dogfennau ategol:
Cofnodion: Trafododd y Pwyllgor ohebiaeth oddi wrth y deisebydd a chytunodd i
ysgrifennu at Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg yn gofyn am ymateb i'r
pryderon a godwyd gan y deisebydd, yn enwedig o ran: ·
y posibilrwydd bod llai o opsiynau pwnc ar gael i ddisgyblion oherwydd
gwrthdaro yn yr amserlen; a ·
phwysau ar gyllidebau ysgolion. |
|
Cynnig o dan Reol Sefydlog 17.42(ix) i benderfynu gwahardd y cyhoedd o weddill y cyfarfod Cofnodion: Derbyniwyd y cynnig. |
|
Ystyried yr adroddiad drafft – P-05-710 Sicrhau y gall Pobl Anabl Ddefnyddio Trafnidiaeth Gyhoeddus Pryd Bynnag y Bo’i Hangen Arnynt Dogfennau ategol:
Cofnodion: Cytunodd y Pwyllgor ar yr adroddiad drafft a'i argymhellion. |