P-05-754 Diffyg cymorth i blant ag anableddau mewn argyfwng

P-05-754 Diffyg cymorth i blant ag anableddau mewn argyfwng

Wedi'i gwblhau

 

Cyflwynwyd y ddeiseb hon gan Rebecca Weale ar ôl casglu 200 llofnod.

 

Geiriad y ddeiseb

Yr wyf yn ceisio tynnu sylw at yr angen i dîm argyfwng plant Cwm Taf gydnabod bod angen hanfodol i blant ag anableddau gael cymorth mewn argyfwng, a chael yr hawl i gael eu trin fel unrhyw blentyn arall.

Yr wyf yn fam i bedwar o blant. Mae gan Tom, fy mab canol, anghenion niferus, anawsterau dysgu difrifol, awtistiaeth, anhwylder hwyliau yn ogystal â phroblemau iechyd ychwanegol eraill. Mae Tom yn cyrraedd pwynt argyfwng bob hyn a hyn, sy'n golygu cynnydd mewn ymddygiad ymosodol, gweiddi yn uwch nag arfer, anafu ei hun yn ogystal ag eraill, a llawer o newidiadau eraill mewn ymddygiad. Mae sgiliau cyfathrebu Tom yn hynod gyfyngedig ac nid yw'n gallu dweud wrthym beth sydd o'i le na beth y gallwn ei wneud i helpu. Rydym wedi bod ar bwynt argyfwng gyda Tom, sydd bellach yn 15 oed ac ar ddogn uchel o feddyginiaethau, lawer gwaith dros y blynyddoedd ac mae'n rhyfeddol nad yw’r sefyllfa wedi gwella o ran cymorth i blant ag anableddau pan fyddant mewn argyfwng. Mae Tom mewn argyfwng ar hyn o bryd, ac wedi bod felly ers peth amser. Ychydig iawn o gymorth yr ydym ni fel teulu wedi’i gael, os o gwbl, i'w helpu drwy'r cyfnod anodd hwn. Rwyf wedi cael gwybod bod tîm argyfwng plant yn bodoli. Fodd bynnag, nid yw’n cefnogi plant ag anableddau! Siawns nad yw plentyn mewn argyfwng, p’un a oes ganddo anableddau neu beidio, yn dal i fod yn blentyn mewn argyfwng. Yn wir, efallai fy mod yn anghywir, ond mewn rhai achosion efallai bod angen mwy o gymorth argyfwng arno. Ni allaf gredu bod y rhaniad hwn yn dal i fod yn dderbyniol yn yr oes hon.

 

Teulu yn dal dwylo

Teulu

 

Statws

Yn ei gyfarfod ar 21/01/2020 penderfynodd y Pwyllgor Deisebau fod y ddeiseb hon wedi'i chwblhau.

Trafododd y Pwyllgor yr ohebiaeth bellach a chytunodd i gau’r ddeiseb yn sgil y wybodaeth a ddarparwyd gan Fwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf Morgannwg ynghylch mesurau sy’n cael eu gweithredu’n lleol, a’r sicrwydd blaenorol nad oes unrhyw rwystr yn y polisi cenedlaethol i blant ag anableddau dysgu gael mynediad at gymorth argyfwng iechyd meddwl. Diolchodd y Pwyllgor i’r deisebydd am ddefnyddio’r broses ddeisebau ac roedd yn dymuno ei hannog hi a’i theulu i gysylltu â’u Haelodau Cynulliad etholaethol a rhanbarthol yn ôl yr angen yn y dyfodol.

Gellir gweld manylion llawn ynghylch trafodaeth y pwyllgor o'r ddeiseb hon a'r dogfennau cysylltiedig ar y tab Cyfarfodydd uchod.

Cafodd ei hystyried gyntaf gan y Pwyllgor Deisebau ar 13/06/2017.

 

 

Etholaeth a Rhanbarth y Cynulliad

  • Merthyr Tudful a Rhymni
  • Dwyrain De Cymru

 

Rhagor o wybodaeth

Math o fusnes: Deiseb

Rheswm dros ei ystyried: Busnes y Senedd;

Statws: Wedi’i gwblhau

Cyhoeddwyd gyntaf: 02/05/2017