P-05-769 Canolfan Trawma Difrifol De Cymru – Caerdydd ac Abertawe

P-05-769 Canolfan Trawma Difrifol De Cymru – Caerdydd ac Abertawe

Wedi'i gwblhau

 

Cyflwynwyd y ddeiseb hon gan Mr Griffiths, ar ôl casglu 69 o lofnodion ar-lein.

 

Geiriad y ddeiseb:

​​​Rydym yn galw ar Lywodraeth Cymru i ddarparu canolfannau trawma difrifol yn Ysbyty Treforys, Abertawe yn ogystal ag Ysbyty Athrofaol Cymru, Caerdydd yn hytrach na dim ond ar un safle.

Stethosgop 

​​​Stethosgop

​​​​

​​​​Statws

​​​Yn ei gyfarfod ar 09/01/2018 penderfynodd y Pwyllgor Deisebau fod y ddeiseb hon wedi'i chwblhau. Trafododd y Pwyllgor ohebiaeth gan y deisebydd a chytunodd i gau'r ddeiseb gan fod disgwyl i'r lleoliad arfaethedig ar gyfer canolfan trawma difrifol newydd fod yn destun ymgynghoriad cyhoeddus, gan annog y deisebydd i roi ei farn fel rhan o hyn.

​​​Cafodd ei thrafod gyntaf gan y Pwyllgor Deisebau ar 19/09/2017.

​​​

​​​Etholaeth a Rhanbarth y Cynulliad

  • ​​​Llanelli
  • Canolbarth a Gorllewin Cymru

 

Rhagor o wybodaeth

Math o fusnes: Deiseb

Rheswm dros ei ystyried: Busnes y Senedd;

Statws: Wedi’i gwblhau

Cyhoeddwyd gyntaf: 06/09/2017