Agenda a Chofnodion
Lleoliad: Ystafell Bwyllgora 1 - Y Senedd. Cyfarwyddiadau
Cyswllt: Graeme Francis
Cyfryngau
Senedd.TV: Gweld y gweddarllediad
Transcript: Transcript for 10/03/2020 - Y Pwyllgor Deisebau - Y Bumed Senedd
Rhif | Eitem |
---|---|
Cyflwyniad, ymddiheuriadau, dirprwyon a datgan buddiannau Dogfennau ategol: Cofnodion: Cafwyd
ymddiheuriadau gan Michelle Brown AC. |
|
Deisebau newydd |
|
P-05-940 Gostwng nifer y llawdriniaethau a gaiff eu canslo Dogfennau ategol:
Cofnodion: Trafododd y
Pwyllgor y ddeiseb am y tro cyntaf a chytunwyd i aros i glywed barn y deisebydd
am y wybodaeth a ddarparwyd gan y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol
ac a roddwyd yn y brîff ymchwil cyn penderfynu a ddylid cymryd camau pellach
ynghylch y ddeiseb. |
|
P-05-942 Yr Awr Euraidd wrth Ddioddef Strôc – Amseroedd Ymateb Ambiwlansiau i’w hailgategoreiddio o Statws Oren yn ôl i Statws Coch Dogfennau ategol:
Cofnodion: Trafododd y
Pwyllgor y ddeiseb am y tro cyntaf a chytunwyd ar y camau a ganlyn: ·
ysgrifennu at y Gymdeithas Strôc i ofyn am eu barn am y
materion a godir yn y ddeiseb; ac ·
ysgrifennu yn ôl at y Gweinidog i gael y
wybodaeth ddiweddaraf am fesurau newydd sydd wrthi'n cael eu datblygu o dan yr
Adolygiad o’r Categori Ambr. |
|
P-05-943 Rydym yn galw ar Lywodraeth Cymru i gymryd camau brys i sicrhau gwelliannau i'r A487 rhwng Gellilydan a Maentwrog Dogfennau ategol:
Cofnodion: Trafododd y Pwyllgor y ddeiseb am y tro cyntaf a chytunwyd ar y camau a
ganlyn: ·
ysgrifennu at y Cynghorydd Elfed Roberts a
Liz Saville Roberts AS i gael eu barn am y gwelliannau i’r ffyrdd sy'n mynd
rhagddynt ar hyn o bryd ac unrhyw fesurau diogelwch pellach sy'n ofynnol; ac ·
ysgrifennu at
Gyngor Gwynedd i ofyn am ei farn am y rhan hon o'r ffordd, y gwelliannau sy'n
mynd rhagddynt ar hyn o bryd a'r gwaith a gynigir yn y dyfodol. Mynegodd yr
Aelodau hefyd eu cydymdeimlad â'r deisebwyr ar eu colled. |
|
P-05-944 Gwrthdroi’r toriadau i wasanaethau trenau cymudwyr yng Ngogledd-ddwyrain Cymru Dogfennau ategol:
Cofnodion: Trafododd y
Pwyllgor y ddeiseb am y tro cyntaf a chytunwyd i ysgrifennu at Drafnidiaeth
Cymru i rannu'r ddeiseb a'r wybodaeth bellach a ddarparwyd gan y deisebwyr, ac
i ofyn am ymateb manwl i'r materion a godwyd. Cytunodd y Pwyllgor hefyd i ofyn
am ddadansoddiad o'r newidiadau i wasanaethau perthnasol a'r buddion o ran
amseroedd teithio a gafwyd trwy gyflwyno'r gwasanaeth cyflym rhwng y gogledd
a’r de. |
|
P-05-945 Yr Argyfwng Hinsawdd a Choedwig Genedlaethol i Gymru Dogfennau ategol:
Cofnodion: Trafododd y
Pwyllgor y ddeiseb am y tro cyntaf a chytunwyd i rannu’r sylwadau manwl a
ddarparwyd gan y deisebwyr â Gweinidog yr Amgylchedd, Ynni a Materion Gwledig a
gofyn am ymateb pellach i'r materion a'r cwestiynau a godwyd, yn enwedig mewn
perthynas â pholisïau coed a choetiroedd, a thargedau tymor byr a thymor
canolig ar gyfer plannu coed. |
|
Y wybodaeth ddiweddaraf am ddeisebau blaenorol |
|
P-04-667 Cylchfan ar gyfer Cyffordd yr A477/A4075 Dogfennau ategol:
Cofnodion: Trafododd y
Pwyllgor wybodaeth bellach a chytunwyd i gau'r ddeiseb, o ystyried bod y
gyffordd yn cael ei hadolygu ar hyn o bryd. Wrth wneud hynny, cytunodd y
Pwyllgor hefyd i ddarparu'r sylwadau manwl a gafwyd gan Gyngor Tref Cosheston
am y darn ehangach o'r A477 fel y gellir eu hystyried. |
|
P-05-907 Newid cyflymder pentre Cemaes i 30mya Dogfennau ategol:
Cofnodion: Trafododd y
Pwyllgor sylwadau pellach gan y deisebwyr a chytunwyd i gau'r ddeiseb ar y sail
bod Llywodraeth Cymru wrthi yn cynnal adolygiad o derfynau cyflymder ar bob
cefnffordd yng Nghymru a bod y Gweinidog wedi ymrwymo i ystyried data, yn
ogystal â'r ohebiaeth sy’n dod i law, yn ystod y broses hon. |
|
P-05-750 Ar gyfer eitemau untro: cyflwyno System Dychwelyd Ernes ar gyfer cynwysyddion diodydd a sicrhau y gellir compostio cynwysyddion bwyd cyflym a'r offer sy'n gysylltiedig â hwy Dogfennau ategol:
Cofnodion: Yng ngoleuni'r
ffaith bod gwaith manwl ar y gweill i ddatblygu Cynllun Dychwelyd Ernes yng
Nghymru, Lloegr a Gogledd Iwerddon, a’r ffaith y rhagwelir ymgynghoriad pellach
ar ddyluniad y cynllun yn ddiweddarach yn 2020, cytunodd y Pwyllgor i gau'r
ddeiseb. Wrth wneud hynny, cytunodd y Pwyllgor hefyd i ddarparu sylwadau
pellach y deisebwyr am ddylunio cynllun i Lywodraeth Cymru. |
|
P-05-864 Gwahardd y defnydd o 'Bensaernïaeth Elyniaethus' Dogfennau ategol:
Cofnodion: Trafododd y
Pwyllgor ohebiaeth bellach a chytunwyd i ysgrifennu yn ôl at y Gweinidog Tai a
Llywodraeth Leol i rannu'r dystiolaeth a gafwyd oddi wrth elusennau ac i ofyn a
yw hi wedi ystyried ymhellach a ellid gwneud “cyfeiriad priodol at ddefnyddio
pensaernïaeth elyniaethus” mewn cyngor a chanllawiau ar gyfer gweithredu ‘agenda
creu lleoedd’ y Llywodraeth, fel y cyfeiriwyd ato o'r blaen, ac a fyddai hi'n
ystyried gwneud datganiad clir i awdurdodau lleol na ddylai nodweddion
pensaernïaeth elyniaethus gael eu defnyddio yng Nghymru. |
|
P-05-927 Cyfleusterau toiled Changing Places Dogfennau ategol:
Cofnodion: Trafododd y
Pwyllgor ohebiaeth bellach a chytunwyd i aros am y cynigion a wneir yn
ymgynghoriad Llywodraeth Cymru sydd i ddod ar newidiadau i'r Rheoliadau
Adeiladu a fydd yn golygu y disgwylir i gyfleusterau toiled Changing Places
gael eu darparu mewn rhai adeiladau newydd. |
|
P-05-871 Trefnu bod cyfleusterau newid cewynnau ar gael mewn toiledau i ddynion a thoiledau i fenywod Dogfennau ategol:
Cofnodion: Trafododd y
Pwyllgor ohebiaeth bellach a chytunwyd i aros am wybodaeth bellach gan y
Gweinidog Tai a Llywodraeth Leol am y posibilrwydd o gynnwys cynigion i
gryfhau'r ddarpariaeth i ddisgwyl cyfleusterau newid babanod mewn toiledau
dynion a thoiledau menywod mewn ymgynghoriad sydd i ddod ar newidiadau i'r
Rheoliadau Adeiladu, cyn ystyried gweithredu pellach ar y ddeiseb. |
|
P-05-890 Trethu Ail Gartrefi Dogfennau ategol: Cofnodion: O ystyried bod y
Pwyllgor Cydraddoldeb, Llywodraeth Leol a Chymunedau wedi trafod y mater hwn yn
ddiweddar fel rhan o'i ymchwiliad i Eiddo Gwag, ac o gofio bod gan
Lywodraeth Cymru wedi derbyn mewn egwyddor yr argymhelliad i
ymchwilio i faint y mater, nid oes llawer pellach y gallai'r Pwyllgor Deisebau
ei gyflawni ar hyn o bryd. Oherwydd hynny, cytunodd y Pwyllgor i gau’r ddeiseb
a diolch i’r deisebwyr am godi’r mater hwn.
|
|
P-05-806 Rydym yn galw am roi rhif Tystysgrif Mynediad i bob safle busnes yng Nghymru, yn debyg i'r Dystysgrif Hylendid Bwyd. Dogfennau ategol:
Cofnodion: Trafododd y
Pwyllgor ohebiaeth bellach a chytunwyd i gadw golwg ar y mater hwn ac ailedrych
ar y ddeiseb a'r cynnydd a wnaed yn yr hydref, neu ar ôl cael diweddariad
pellach. |
|
P-05-863 Darparu cynhyrchion hylendid am ddim i bob menyw mewn cartrefi incwm isel Dogfennau ategol:
Cofnodion: Trafododd y
Pwyllgor ohebiaeth bellach a chytunwyd i ddarparu sylwadau pellach y deisebydd
i'r Dirprwy Weinidog a'r Prif Chwip a gofyn am ddiweddariad ymhen chwe mis
ynghylch y gwaith i gyflawni mentrau Llywodraeth Cymru yn y maes hwn. |
|
P-05-771 Ailystyried y penderfyniad i roi’r gorau i Grant Byw'n Annibynnol Cymru a’r angen i gefnogi pobl anabl i fyw'n annibynnol Dogfennau ategol:
Cofnodion: Trafododd y
Pwyllgor ohebiaeth bellach a chytunodd i ofyn am ddiweddariad pellach gan y
Dirprwy Weinidog Iechyd a Gofal Cymdeithasol unwaith y bydd y broses o
asesiadau annibynnol wedi cael ei chwblhau, i gynnwys dadansoddiad o'r
newidiadau sydd wedi deillio ohonynt. |
|
P-05-857 Dylid creu Tasglu Cenedlaethol ar gyfer Iechyd Meddwl Plant Dogfennau ategol: Cofnodion: Ym mis Awst, ysgrifennodd y Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac
Addysg at y Gweinidog Addysg a'r Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol
yn amlinellu ei gasgliadau a'i argymhellion o'i waith craffu dilynol ar yr adroddiad Cadernid Meddwl. Mae Llywodraeth
Cymru wedi ymateb. Yng ngoleuni
gwaith Senedd Ieuenctid Cymru ar y pwnc hwn, a'r gwaith craffu manwl ar y mater
hwn gan y Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg dros y blynyddoedd diwethaf,
cytunodd y Pwyllgor i gau'r ddeiseb a diolch i'r deisebwyr am godi deiseb ar y
pwnc hwn. |
|
P-05-914 Mynediad cyfartal i ofal iechyd ar gyfer yr anabl Dogfennau ategol:
Cofnodion: Trafododd y
Pwyllgor ohebiaeth ychwanegol a chytunwyd ar y camau a ganlyn: ·
ceisio gwybodaeth gan y Comisiwn
Cydraddoldeb a Hawliau Dynol am y materion a godwyd yn y ddeiseb; a ·
cheisio cyngor pellach ynghylch y camau
posibl y gallai Llywodraeth Cymru neu fyrddau iechyd eu cymryd er mwyn sicrhau
bod offer a chyfleusterau priodol ar gael ym mhractisau meddygon teulu. |
|
P-05-926 Dylid Darparu Adran Blinder Cronig yng Nghymru Dogfennau ategol:
Cofnodion: Trafododd y
Pwyllgor ohebiaeth bellach a chytunwyd i ofyn am farn Action for ME a
Chymdeithas Cefnogi ME a CFS Cymru ar ddigonolrwydd y gwasanaethau cyfredol yng
Nghymru a'r dull a amlinellwyd gan Lywodraeth Cymru, gan gynnwys a fydd eu rôl
yn y Grŵp Cynghori yn
parhau. |
|
P-05-877 Cynllun gwisgoedd ysgol ail-law i blant Dogfennau ategol: Cofnodion: Yng ngoleuni'r
dystiolaeth i’r Pwyllgor a’r ffaith bod Canllawiau Statudol newydd ar bolisïau
gwisg ysgol wedi cael eu cyhoeddi, cytunodd y Pwyllgor i gau'r ddeiseb a diolch
i'r deisebwyr am godi'r mater hwn trwy'r broses ddeisebau. |
|
P-05-884 Diwygio Rheoliadau Addysg (Cymorth i Fyfyrwyr) (Cymru) 2018 i gynnwys sefydliadau’r DU sydd â gweithrediadau dramor Dogfennau ategol:
Cofnodion: O ystyried mai
dim ond Sefydliad Prifysgol Llundain ym Mharis all benderfynu a ddylid gwneud
cais i'w gyrsiau gael eu dynodi'n benodol i fod yn gymwys i gael cymorth i
fyfyrwyr, nid oes llawer arall y gall y Pwyllgor ei gyflawni ar hyn o bryd.
Felly, cytunodd y Pwyllgor i gau'r ddeiseb ac ysgrifennu at y Brifysgol a'r
deisebydd i esbonio'r penderfyniad a chynnig bod y Brifysgol yn gwneud cais am
ddynodiad. |
|
P-05-909 Hyrwyddo'r defnydd o iaith arwyddion Makaton ym mhob ysgol yng Nghymru Dogfennau ategol:
Cofnodion: Yng ngoleuni'r
ymatebion oddi wrth y Gweinidog Addysg, yn enwedig mewn perthynas â hyblygrwydd
a natur y cwricwlwm newydd, sy’n golygu mai’r ysgol sy’n arwain, cytunodd y
Pwyllgor nad oes fawr ddim pellach y gallai ei gyflawni ar hyn o bryd. Cytunodd
yr Aelodau i gau'r ddeiseb a llongyfarchwyd y deisebydd ar fod yn esiampl i
bobl eraill wrth hybu Makaton i gefnogi plant ag anawsterau cyfathrebu ac fe
anogir iddi barhau i godi'r cynnig, gan gynnwys gydag ysgolion lleol. |
|
P-05-932 Addysg ar alergeddau bwyd mewn ysgolion a hyfforddiant EPI-PEN gorfodol Dogfennau ategol:
Cofnodion: Trafododd y
Pwyllgor ohebiaeth ychwanegol a chytunwyd i ysgrifennu at: ·
Alergedd y DU a’r Ymgyrch Anaffylacsis i
ofyn am eu barn am y sefyllfa bresennol ac am unrhyw dystiolaeth sydd ganddynt
ynghylch digonolrwydd y cyngor a chanllawiau cyfredol i ysgolion; ·
Iechyd Cyhoeddus Cymru i ofyn am eu barn
mewn perthynas â rôl ysgolion o ran alergeddau a'r cyngor sydd ar gael iddynt;
a ·
Chymdeithas Cyfarwyddwyr Addysg i ofyn am
ei phersbectif ar sut mae ysgolion yn sicrhau bod pob plentyn sydd ag alergedd
yn cael ei ddiogelu a'i gefnogi'n ddigonol, ac i gael ei barn am ddigonolrwydd
y dyletswyddau a'r cyngor presennol. |
|
Cynnig o dan Reol Sefydlog 17.42 i benderfynu gwahardd y cyhoedd o’r cyfarfod ar gyfer y busnes a ganlyn: Item 5 Cofnodion: Derbyniwyd y
cynnig. |
|
Trafodaeth ar ymateb Llywodraeth Cymru i adroddiad y Pwyllgor ar deledu cylch cyfyng mewn lladd-dai |
|
P-04-433: Teledu Cylch Cyfyng mewn Lladd-dai Dogfennau ategol: Cofnodion: Trafododd y
Pwyllgor ymateb Llywodraeth Cymru i'w adroddiad a chytunwyd i wneud cais am
ddadl yn y Cyfarfod Llawn. |
|
P-05-916 Cyllid digonol i ddiogelu lles anifeiliaid fferm yn lladd-dai Cymru Dogfennau ategol: Cofnodion: Cytunodd y
Pwyllgor i ofyn am ddadl. |