P-05-857 Dylid creu Tasglu Cenedlaethol ar gyfer Iechyd Meddwl Plant

P-05-857 Dylid creu Tasglu Cenedlaethol ar gyfer Iechyd Meddwl Plant

http://senedd.cynulliad.cymru/SiteSpecific/ArrowGraphics/Petitions_Arrows_03.jpg

P-05-857 Dylid creu Tasglu Cenedlaethol ar gyfer Iechyd Meddwl Plant

Cyflwynwyd y ddeiseb hon gan The National Organisation for Children's Mental Health, ar ôl casglu 91 o lofnodion.

Geiriad y ddeiseb

Rydym yn galw ar Gynulliad Cenedlaethol Cymru i annog Llywodraeth Cymru i greu Tasglu Cenedlaethol i ymchwilio i ba ffactorau diwylliannol, ffactorau cymdeithasol a ffactorau gwleidyddol a allai fod yn cyfrannu at nifer y plant yng Nghymru sy’n dioddef iechyd meddwl gwael; a bod y Tasglu Cenedlaethol hwn:


1) Yn cynnwys yn ei aelodaeth: plant; cynrychiolwyr o sefydliadau sy’n gweithio gyda phlant; cynrychiolwyr o bob plaid wleidyddol a gynrychiolir yng Nghynulliad Cenedlaethol Cymru; academyddion sy’n ymwneud ag ymchwilio i bolisi cymdeithasol, gwyddoniaeth wleidyddol, diwylliant, cymdeithas ac economeg;


2) Yn cael ei gadeirio gan Gomisiynydd Plant Cymru sydd yn y swydd pan grëir y Tasglu hwn, ac y dylai aros yn Gadeirydd y Tasglu am ei hyd, pe bai’n cytuno i wneud hynny (waeth a yw’n parhau’n Gomisiynydd Plant Cymru am oes y Tasglu ai peidio - ac eithrio mewn amgylchiadau eithriadol);


3)Â chyfrifoldeb am lunio adroddiad yn seiliedig ar ei ymchwiliadau sy’n cynnwys argymhellion ar gyfer Llywodraeth Cymru yn seiliedig ar ei ganfyddiadau; ac y

 

4) Dylai Llywodraeth Cymru, mewn ymgynghoriad â’r Tasglu Cenedlaethol hwn, Cynulliad Cenedlaethol Cymru, a phreswylwyr Cymru (gan gynnwys plant), edrych yn fanwl ar argymhellion yr adroddiad.

 

Gwybodaeth ychwanegol

Menter gymdeithasol sydd newydd ei sefydlu yw’r Sefydliad Cenedlaethol ar gyfer Iechyd Meddwl Plant Cyf. Ein hamcan yw cefnogi datblygiad diwylliant cenedlaethol sy’n galluogi plant i gynnal iechyd meddwl ardderchog, drwy helpu sefydliadau sy’n gweithio gyda a / neu ar gyfer plant, i greu’r amgylchedd gorau lle gall iechyd meddwl pob plentyn ffynnu.

 

Etholaeth a Rhanbarth y Cynulliad

·         Bro Morgannwg

·         Canol De Cymru

 

Statws

Mae'r ddeiseb hon yn cael ei thrafod gan y Pwyllgor Deisebau ar hyn o bryd.

 

Rhagor o wybodaeth

 

Math o fusnes: Deiseb

Rheswm dros ei ystyried: Busnes y Senedd;

Cyhoeddwyd gyntaf: 24/01/2019