P-05-927 Cyfleusterau toiled Changing Places
P-05-927 Cyfleusterau toiled Changing Places
Cyflwynwyd y ddeiseb hon gan
Llanelli Changing Places Campaign Group, ar ôl casglu cyfanswm o 1,273
lofnodion ar bapur.
Geiriad y ddeiseb:
Mae'r
ddeiseb hon yn annog Llywodraeth Cymru i wneud newidiadau ar unwaith i reoliadau
adeiladu a chynllunio er mwyn sicrhau y darperir cyfleusterau toiled Changing
Places, gyda mainc newid i oedolion, teclyn codi a digon o le i 2 ofalwr yn yr
holl adeiladau cyhoeddus mawr pan gânt eu hadeiladu, eu hailddatblygu neu eu
hailwampio.
Gwybodaeth
ychwanegol:
Achos enghreifftiol
"Mae fy merch yn
9 oed ac mae ganddi gyflwr o'r enw oedi datblygiadol cyffredinol ac mae'n
defnyddio cadair olwyn. Mae ei hanabledd yn golygu nad yw'n gallu eistedd yn
syth heb gymorth ac mae'n ddi-eiriau, felly ni all ddweud wrthyf pan fydd angen
iddi fynd i'r tŷ bach. Mae hyn yn golygu ei bod yn gwisgo cewynnau. Pan
fydd angen newid ei chewyn pan na fyddwn gartref, rydym yn aml yn cael
trafferth dod o hyd i gyfleusterau i wneud hynny. Mae'n mynd yn rhy fawr ar gyfer
uned newid cewynnau i fabanod a'n hunig opsiwn arall yw llawr y toiled, sy'n
aflan, yn aflanwaith ac, yn fy marn i, yn annynol yn ogystal â bod yn
anurddasol. Mae hon yn sefyllfa gwbl annerbyniol ac afresymol i unrhyw un.
Hefyd, bob tro rwy'n ei chodi, rwy'n ymwybodol fy mod yn rhoi fy hun mewn
perygl o anaf acíwt i'r cefn, a bydd y perygl hwn yn cynyddu wrth iddi fynd yn
hŷn ac yn fwy. Ni allaf gredu sut y mae pobl yn llwyddo i newid cewynnau
oedolion fel hyn.
Mae miloedd o bobl
anabl ar draws Cymru y mae arnynt angen y cyfleusterau a gynigir gan doiled
Changing Places.
Dywed Safonau
Prydeinig 8300/2018 y dylid darparu toiledau Changing Places mewn adeiladau a
chyfadeiladau mwy, megis:
A/ Terfynfeydd neu
gyfnewidfeydd trafnidiaeth mawr, e.e. gorsafoedd trenau mawr a meysydd awyr
B/ Gwasanaethau
traffordd
C/ Cyfleusterau
chwaraeon a hamdden, gan gynnwys gwestai mawr
D/ Canolfannau
diwylliannol, megis amgueddfeydd, neuaddau cyngerdd ac orielau celf a
chanolfannau ffydd
E/ Stadia ac awditoria
mawr
F/ Mangreoedd
manwerthu masnachol mawr a chanolfannau siopa
G/ Adeiladau allweddol
yng nghanol trefi, e.e. neuaddau tref, canolfannau dinesig a phrif lyfrgelloedd
cyhoeddus
H/ Sefydliadau
addysgol
I/ Cyfleusterau
iechyd, megis ysbytai, canolfannau iechyd a phractisau cymunedol
J/ Atyniadau ymwelwyr
eraill, megis parciau thema, traethau sy'n cael eu monitro a pharciau
Gall Llywodraeth Cymru
wneud yn well na'r sefyllfa bresennol a gwneud toiledau Changing Places yn
orfodol ar gyfer adeiladau cyhoeddus mawr fel y'u rhestrir yn BS8300/2018 ac
mae'n rhaid i hyn ddigwydd.
Statws
Yn ei gyfarfod ar 16/03/2021 penderfynodd y Pwyllgor
Deisebau fod y ddeiseb hon wedi'i chwblhau.
Caewyd y ddeiseb fel rhan o adolygiad o'r holl
ddeisebau sy'n cael eu hystyried ar hyn o bryd yng nghyfarfod olaf y Pwyllgor
Deisebau yn y Bumed Senedd, yng ngoleuni'r etholiad sydd i ddod a'r ystyriaeth
a roddwyd i'r mater hwn hyd yma.
Gellir gweld manylion llawn ynghylch trafodaeth y Pwyllgor o'r ddeiseb hon
a'r dogfennau cysylltiedig ar y tab Cyfarfodydd uchod.
Cafodd ei thrafod gyntaf gan y Pwyllgor Deisebau ar 07/01/2020.
Etholaeth a Rhanbarth y Senedd
- Llanelli
- Canolbarth a Gorllewin Cymru
Rhagor o wybodaeth
- Hafan y Pwyllgor Deisebau
- Gweld pob deiseb sydd ar agor
- Gweld pob deiseb mae’r pwyllgor bellach yn
ystyried
- Sut mae proses Ddeisebu yn gweithio
Math o fusnes: Deiseb
Rheswm dros ei ystyried: Busnes y Senedd;
Statws: Wedi’i gwblhau
Cyhoeddwyd gyntaf: 12/12/2019