Agenda a Chofnodion
Lleoliad: Ystafell Bwyllgora 1 - Y Senedd. Cyfarwyddiadau
Cyswllt: Graeme Francis
Cyfryngau
Senedd.TV: Gweld y gweddarllediad
Transcript: Trawsgrifiad ar gyfer 09/07/2019 - Y Pwyllgor Deisebau - Y Bumed Senedd
Rhif | Eitem |
---|---|
Cyflwyniad, ymddiheuriadau, dirprwyon a datgan buddiannau Dogfennau ategol: Cofnodion: Cafwyd
ymddiheuriadau gan Jack Sargeant. Roedd Mike Hedges yn bresennol yn ei le. Fel rhan o
drafodaeth y Pwyllgor o dan eitem 2.2 ar yr agenda, cytunodd yr Aelodau i
adolygu'r deisebau y cyflwynwyd adroddiadau arnynt ac a drafodwyd yn y Cyfarfod
Llawn, gyda'r bwriad o asesu'r cynnydd a wnaed yn erbyn argymhellion y
Pwyllgor. |
|
Deisebau newydd |
|
P-05-882 Trawsnewid yr ymateb i bobl hŷn sy'n dioddef camdriniaeth ddomestig - galw am weithredu Dogfennau ategol:
Cofnodion: Trafododd
y Pwyllgor y ddeiseb am y tro cyntaf a chytunodd ar y camau a ganlyn: ·
ysgrifennu
yn ôl at y Dirprwy Weinidog a'r Prif Chwip er mwyn: o
darparu'r
sylwadau manwl a roddwyd gan y deisebwyr; o
gofyn am
ymateb pellach i'r materion a godwyd, yn enwedig y pryderon nad yw gwasanaethau
neu ddeunydd cam-drin domestig yn aml yn cwmpasu profiadau pobl hŷn; o
gofyn i'r
Dirprwy Weinidog pa ddarpariaethau sydd ar waith ar gyfer dynion hŷn sy'n
dioddef camdriniaeth o'r fath. ·
ysgrifennu
at Gomisiynydd Pobl Hŷn Cymru i ofyn am ei hymateb i'r materion a godir yn y
ddeiseb a gofyn iddi rannu rhagor o wybodaeth am y gwaith y mae'n bwriadu ei
wneud i atal cam-drin pobl hŷn. |
|
P-05-885 Trafnidiaeth Gyhoeddus Hygyrch a Chynhwysol ar gyfer Dinasyddion ag Anableddau Dysgu yng Nghymru Dogfennau ategol:
Cofnodion: Trafododd
y Pwyllgor y ddeiseb am y tro cyntaf a chytunodd i ysgrifennu yn ôl at Weinidog
yr Economi a Thrafnidiaeth i rannu'r sylwadau ychwanegol a roddwyd gan y
deisebwyr, a gofyn am ymateb i'r pwyntiau ynghylch sicrhau bod gwasanaethau yn
hygyrch i bobl ag anableddau dysgu ac ymgysylltu'n uniongyrchol â'r rhai yr
effeithir arnynt. |
|
P-05-887 Atal Aelodau Cynulliad rhanbarthol a etholwyd i gynrychioli pleidiau penodol rhag newid pleidiau Dogfennau ategol:
Cofnodion: Trafododd
y Pwyllgor y ddeiseb am y tro cyntaf a chytunodd i aros am farn y deisebydd ar
yr ymateb a roddwyd gan y Llywydd ac i annog y deisebydd i ymgysylltu â'u
cynrychiolwyr etholedig i fwrw ymlaen â gwelliannau deddfwriaethol i'r Bil
Senedd ac Etholiadau (Cymru). |
|
P-05-889 Labelu cig o anifeiliaid sydd wedi’u lladd mewn modd crefyddol Dogfennau ategol:
Cofnodion: Trafododd
y Pwyllgor y ddeiseb am y tro cyntaf a chytunodd i aros i weld beth fyddai'r
datblygiadau wrth i'r DU ymadael â'r UE cyn ystyried pa gamau pellach i'w
cymryd. |
|
P-05-890 Trethu Ail Gartrefi Dogfennau ategol:
Cofnodion: Trafododd
y Pwyllgor y ddeiseb am y tro cyntaf a chytunodd i aros am ganlyniadau ymchwiliad
y Pwyllgor Cydraddoldeb, Llywodraeth Leol a Chymunedau i eiddo gwag yng
Nghymru. |
|
P-05-891 Mae angen dod â phrofion Darllen a Rhifedd Cenedlaethol ar gyfer plant mor ifanc â 6 oed i ben ar unwaith Dogfennau ategol:
Cofnodion: Trafododd
y Pwyllgor y ddeiseb am y tro cyntaf a chytunodd i aros am sylwadau’r deisebydd
ar yr ymateb a gafwyd gan y Gweinidog Addysg cyn penderfynu a ddylid cymryd
camau pellach o ran y ddeiseb. |
|
P-05-892 Penodi Comisiynydd Anabledd Dysgu i Gymru Dogfennau ategol:
Cofnodion: Trafododd
y Pwyllgor y ddeiseb am y tro cyntaf a chytunodd i ysgrifennu yn ôl at y
Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol i rannu'r wybodaeth ychwanegol a
roddwyd gan y deisebwyr, a gofyn am wybodaeth am sut y mae pobl ag anableddau
dysgu yn cael eu cefnogi i fynegi pryderon am wasanaethau neu gymorth, ac i
ymgysylltu â hunan-eiriolaeth. |
|
Y wybodaeth ddiweddaraf am ddeisebau blaenorol |
|
P-05-738 Deiseb Gyhoeddus ar gyfer Ffordd Osgoi i Ddinas Powys Dogfennau ategol:
Cofnodion: Trafododd
y Pwyllgor yr ohebiaeth gan Gyngor Bro Morgannwg a'r deisebydd, a chytunodd ar
y camau a ganlyn:
o
ddiweddariad
ar y sefyllfa o ran cyllid i gwblhau astudiaeth ail gam WelTAG o'r opsiynau
trafnidiaeth yn Ninas Powys; o
rhagor o
wybodaeth gefndirol am y rhesymau dros y penderfyniad i beidio â symud ymlaen â
gwaith pellach ar opsiwn y 'llwybr glas'. ·
ysgrifennu
at Weinidog yr Economi a Thrafnidiaeth i ofyn pa rôl y mae Llywodraeth Cymru yn
bwriadu ei chael wrth ddatblygu cynigion i fynd i'r afael â materion
trafnidiaeth yn Ninas Powys. |
|
P-05-748 Bysiau Ysgol i Blant Ysgol Dogfennau ategol:
Cofnodion: Trafododd
y Pwyllgor ohebiaeth bellach oddi wrth Weinidog yr Economi a Thrafnidiaeth a'r
deisebydd a chytunodd i gau'r ddeiseb, gan nad oes llawer o gamau pellach y gall
eu cymryd mewn perthynas â'r mater hwn. Wrth wneud hynny, roedd y Pwyllgor am
fynegi ei gydymdeimlad diffuant â'r deisebydd a rhannu manylion y ddeiseb â'r
Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg. |
|
P-05-743 Rhowch derfyn ar fasnachu anifeiliaid anwes egsotig yng Nghymru Dogfennau ategol:
Cofnodion: Trafododd
y Pwyllgor ohebiaeth bellach oddi wrth Weinidog yr Amgylchedd, Ynni a Materion
Gwledig a'r deisebydd, a chytunodd i ysgrifennu yn ôl at Weinidog yr
Amgylchedd, Ynni a Materion Gwledig er mwyn: ·
gofyn am
ddiweddariad ar yr amserlenni ar gyfer datblygu cod ymarfer ar gyfer primatiaid
a gedwir fel anifeiliaid anwes; a ·
mynegi
cefnogaeth y Pwyllgor i'r galwadau am gyflwyno gwaharddiad llawn ar gadw
primatiaid yn anifeiliaid anwes. |
|
P-05-869 Datgan Argyfwng Hinsawdd a gosod targedau di-garbon ym mhob polisi Dogfennau ategol:
Cofnodion: Trafododd
y Pwyllgor ohebiaeth bellach oddi wrth Weinidog yr Amgylchedd, Ynni a Materion
Gwledig a'r deisebydd, a chytunodd ar y camau a ganlyn:
|
|
P-05-876 Amddiffyn rhywogaethau rhestredig Coch ac Amber yng Nghymru Dogfennau ategol:
Cofnodion: Trafododd
y Pwyllgor ohebiaeth oddi wrth Cyfoeth Naturiol Cymru a chytunodd ar y camau a
ganlyn: ·
aros am
ragor o sylwadau neu wybodaeth gan y deisebydd cyn penderfynu a ddylid cymryd
unrhyw gamau pellach ar y ddeiseb; a ·
gofyn am
ragor o wybodaeth am nifer y trwyddedau a gyhoeddwyd gan Cyfoeth Naturiol Cymru
a fyddai'n caniatáu lladd rhywogaethau a gategoreiddiwyd yn Goch ac Amber ar
restrau'r RSPB. |
|
P-05-754 Diffyg cymorth i blant ag anableddau mewn argyfwng Dogfennau ategol:
Cofnodion: Cytunodd y
Pwyllgor i aros am sylwadau’r deisebydd ar yr ymateb a gafwyd gan y Gweinidog
Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol cyn ystyried a ddylid cymryd camau pellach o
ran y ddeiseb. Cytunodd y Pwyllgor hefyd i ofyn i'r deisebydd a oedd ei
chyfarfod arfaethedig â Bwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf wedi'i gynnal. |
|
P-05-797 Sicrhau mynediad i'r feddyginiaeth ffibrosis systig, Orkambi, fel mater o frys Dogfennau ategol:
Cofnodion: Trafododd
y Pwyllgor ohebiaeth oddi wrth y deisebydd a chytunodd ar y camau a ganlyn:
|
|
P-05-842 Rhowch lais i bobl ifanc yn y broses o gomisiynu gwasanaethau lleol yng Nghymru Dogfennau ategol:
Cofnodion: Trafododd
y Pwyllgor ohebiaeth bellach oddi wrth y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau
Cymdeithasol a chytunodd i ofyn am farn y deisebydd ar yr ymateb a gafwyd gan y
Gweinidog, yn benodol a yw'n fodlon ar yr ymrwymiad i nodi person ifanc i
weithredu fel cynrychiolydd ar y Grŵp, cyn ystyried cymryd camau pellach
ar y ddeiseb. |
|
P-05-854 Gwneud hyfforddiant Anabledd Dysgu yn orfodol ar gyfer staff ysbytai Dogfennau ategol:
Cofnodion: Trafododd
y Pwyllgor Ddatganiad Ysgrifenedig gan y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau
Cymdeithasol a chytunodd i ofyn am amser i drafod y ddeiseb yn y Cyfarfod Llawn
yn nhymor yr hydref, o gofio ei bod wedi derbyn mwy na 5000 o lofnodion. |
|
P-05-859 Dylid Darparu Tai Plant yng Nghymru i Blant sy'n Dioddef Camdriniaeth Rywiol Dogfennau ategol:
Cofnodion: Trafododd y Pwyllgor ohebiaeth oddi wrth y
Dirprwy Weinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol a chytunodd ar y camau a
ganlyn: ·
nodi'r
camau sy'n cael eu cymryd ar hyn o bryd mewn ymateb i bryderon ynghylch
darpariaeth SARC (Canolfannau Cyfeirio Cam-drin Rhywiol) a'r ymrwymiad i
adolygu canlyniadau'r prosiect peilot yn Llundain; a ·
gofyn am
farn y deisebydd ar y Cynllun gweithredu cenedlaethol atal ac ymateb i
gam-drin plant yn rhywiol, ar ôl iddo gael ei gyhoeddi |
|
P-05-866 Ymgyrch Ymwybyddiaeth Gyhoeddus Sepsis - Cymru Dogfennau ategol:
Cofnodion: Trafododd
y Pwyllgor ohebiaeth oddi wrth y Pwyllgor Iechyd, Gofal Cymdeithasol a
Chwaraeon a chytunodd i gau'r ddeiseb o ystyried cynlluniau'r Pwyllgor hwnnw i
gynnal ymchwiliad i sepsis yn nhymor yr hydref. Wrth wneud hynny, roedd yr
Aelodau am ddiolch i'r deisebwyr am gyflwyno'r ddeiseb. |
|
P-05-783 Sicrhau Cydraddoldeb Cwricwlwm i Ysgolion Cyfrwng Cymraeg e.e. Seicoleg TGAU Dogfennau ategol:
Cofnodion: Trafododd y Pwyllgor ohebiaeth bellach oddi
wrth y Gweinidog Addysg a chan Cymwysterau Cymru, a chytunodd ar y camau a
ganlyn:
|
|
P-05-805 Rhoi chwarae teg i Athrawon Cyflenwi Dogfennau ategol:
Cofnodion: Trafododd y Pwyllgor yr ohebiaeth oddi wrth
nifer o randdeiliaid a chytunodd ar y camau a ganlyn: ·
Gofyn am
farn asiantaethau cyflenwi am y materion a godwyd gan y ddeiseb; ac ar ôl cael
hynny ·
defnyddio'r
holl dystiolaeth a gasglwyd hyd yma i lunio adroddiad, gan gynnwys
argymhellion, ar ystyriaeth y Pwyllgor o'r ddeiseb. |
|
P-05-832 Diwygio’r Cod Derbyn i Ysgolion ynghylch Plant a Anwyd yn ystod yr Haf Dogfennau ategol:
Cofnodion: Trafododd
y Pwyllgor ohebiaeth bellach gan y Gweinidog Addysg a'r deisebydd, a chytunodd
i aros i'r ymgynghoriad cyhoeddus ar y Cod Derbyn i Ysgolion diwygiedig gael ei
gyhoeddi yn nhymor yr hydref 2019 cyn ystyried a oes angen cymryd unrhyw gamau
pellach ar y ddeiseb. |
|
P-05-875 Capio Codiadau Treth Gyngor yng Nghymru Dogfennau ategol:
Cofnodion: Trafododd
y Pwyllgor ohebiaeth oddi wrth Gymdeithas Llywodraeth Leol Cymru a'r deisebydd
a chytunodd i gau'r ddeiseb, o gofio bod codiadau yn y dreth gyngor yn fater
i'w benderfynu yn lleol. |
|
P-05-815 Rheoli’r Diwydiant Dofednod Dwys sy’n Ehangu’n Gyflym yng Nghymru Dogfennau ategol:
Cofnodion: Trafododd
y Pwyllgor ohebiaeth oddi wrth Weinidog yr Amgylchedd, Ynni a Materion Gwledig
a'r deisebydd, a chytunodd ar y camau a ganlyn: ·
darparu'r
wybodaeth ychwanegol gan y deisebwyr i: o
Weinidog
yr Amgylchedd, Ynni a Materion Gwledig a gofyn am ei hymateb i'r cynnig i
gymhwyso'r egwyddor 'y llygrwr sy'n talu' i gostau rheoleiddio, monitro ac
achosion o dorri rheolau; a'r o
Gweinidog
Tai a Llywodraeth Leol mewn perthynas â sylwadau'r deisebwyr ar y cylch
gorchwyl ar gyfer y gweithgor amaethyddiaeth ddwys cynllunio gwlad a thref ac
aros am ganlyniadau ei waith. Cytunodd y Pwyllgor hefyd i ofyn i'r Gweinidog i
ba raddau yr oedd wedi ystyried effaith gronnus penderfyniadau cynllunio ac a
fyddai'n ystyried diwygio Deddf Cynllunio (Cymru) 2015 i ystyried hyn. |
|
P-05-865 Dylid gwarantu bod dewisiadau sy’n seiliedig yn llwyr ar blanhigion ar bob bwydlen y sector cyhoeddus, i ddiogelu hawliau figaniaid ac er budd ein hiechyd, yr amgylchedd ac anifeiliaid. Dogfennau ategol:
Cofnodion: Trafododd y Pwyllgor ohebiaeth bellach oddi
wrth Weinidog yr Amgylchedd, Ynni a Materion Gwledig, ac ymateb ar y cyd oddi
wrth y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol a'r Gweinidog Addysg, a
chytunodd ar y camau a ganlyn:
o
i ofyn am
wybodaeth am yr amserlen a'r broses ar gyfer adnewyddu Safon Maeth ac Arlwyo
Cymru Gyfan; o
i rannu
barn y Pwyllgor y dylai fod yn ofynnol i ddarparwyr arlwyo sector cyhoeddus
mawr ddarparu dewis figan a llysieuol ar eu bwydlenni ac y dylai fod yn ofynnol
i arlwywyr eraill yn y sector cyhoeddus ddarparu rheswm dros optio allan; ac o
i ofyn pa
ystyriaeth a roddwyd i ddeddfwriaeth yn y maes hwn. |
|
P-05-873 Gwersi Cymraeg am ddim i bobl Cymru Dogfennau ategol:
Cofnodion: Datganodd Mike Hedges y buddiant perthnasol a
ganlyn o dan Reol Sefydlog 17.24A: Mae ei ferch ar hyn o bryd yn astudio'r
Gymraeg yn y brifysgol. Trafododd y Pwyllgor ohebiaeth bellach gan
Weinidog y Gymraeg a Chysylltiadau Rhyngwladol a chytunodd i ysgrifennu yn ôl
at y Gweinidog i ofyn am ragor o fanylion am ei chynlluniau nawr ac yn y
dyfodol mewn perthynas â niferoedd: ·
y bobl a
fydd yn cael eu hyfforddi i addysgu'r Gymraeg; a ·
lleoedd
fforddiadwy a lleoedd am ddim i ddysgwyr Cymraeg. |
|
Cynnig o dan Reol Sefydlog 17.42 i benderfynu gwahardd y cyhoedd o'r cyfarfod ar gyfer y mater a ganlyn: Item
5 Cofnodion: Derbyniwyd
y cynnig |
|
Trafod yr adroddiad drafft |
|
P-05-736 Gwneud gwasanaethau iechyd meddwl yn fwy hygyrch Dogfennau ategol:
Cofnodion: Cytunodd y
Pwyllgor ar yr adroddiad drafft yn amodol ar gynnwys rhai argymhellion
ychwanegol. |