P-05-887 Atal Aelodau Cynulliad rhanbarthol a etholwyd i gynrychioli pleidiau penodol rhag newid pleidiau
P-05-887 Atal Aelodau Cynulliad rhanbarthol a etholwyd i
gynrychioli pleidiau penodol rhag newid pleidiau
Cyflwynwyd y ddeiseb hon gan Ifan Morgan Jones, ar ôl
casglu cyfanswm o 1,301 lofnodion.
Geiriad y ddeiseb:
Erbyn hyn mae gan Gynulliad Cymru bŵer
cyfreithiol dros ei system etholiadol ei hun. Rydym yn galw ar Gynulliad
Cenedlaethol Cymru i atal Aelodau ar y rhestr ranbarthol rhag newid pleidiau
gwleidyddol. Wrth bleidleisio ar y rhestr ranbarthol, mae pleidleiswyr yn dewis
pleidiau gwleidyddol yn hytrach nag unigolion. O dan y rheolau presennol, fodd
bynnag, gall Aelodau a etholwyd ar y rhestr ranbarthol newid pleidiau'n
wirfoddol.
Yn ystod tymhorau blaenorol y Cynulliad, ni fu
hynny'n fawr o bwys, ond yn ystod y tair blynedd diwethaf, mae llawer o
Aelodau'r Cynulliad wedi dirmygu'r sefydliad trwy ddatgan eu bod yn annibynnol
neu newid pleidiau. Mae un Aelod Cynulliad bellach wedi cynrychioli tair plaid
wleidyddol wahanol yn ystod oes y Cynulliad, a datganodd un arall ei bod yn
Aelod annibynnol o fewn diwrnodau iddi gael ei sefydlu fel Aelod Cynulliad. Nid
oes mandad democrataidd ar gyfer hyn. Mae'n golygu nad oes gan draean o'r
Senedd fawr o atebolrwydd i'r etholwyr, na wnaeth bleidleisio drostynt ond a
bleidleisiodd dros y blaid yr oeddent yn ei chynrychioli'n wreiddiol. Dylid
newid y rheolau fel bod Aelod Cynulliad ar y rhestr, sy'n penderfynu'n
wirfoddol i newid ei ymlyniad gwleidyddol, yn gadael ei sedd fel Aelod
Cynulliad a bod yr ymgeisydd nesaf dros y blaid wleidyddol honno ar y rhestr
ranbarthol yn cymryd ei le. Er mwyn atal camddefnyddio'r system, dylai unrhyw
ymgeisydd sy'n cael ei ddiarddel yn anwirfoddol o'i grŵp allu aros yn
Aelod Cynulliad annibynnol ond ni ddylid caniatáu iddo ymuno â phlaid arall.
Yn anffodus, mae'r ddeiseb hon yn nodi y gall y
newid hwn gadarnhau ymhellach y canfyddiad bod Aelodau Cynulliad rhanbarthol yn
'ddinasyddion eilradd' yn y Cynulliad. Fodd bynnag, teimlwn fod y broblem hon
yn gynhenid i'r system aelod ychwanegol dwy haen ac, yn yr achos hwn, y lleiaf
o ddau ddrwg o'i gymharu â'r ffordd y mae'r rheolau presennol yn caniatáu i'r
broses etholiadol gael ei thanseilio.
Mae'r ddeiseb hon yn awgrymu y dylid diwygio Bil
Senedd ac Etholiadau (Cymru) i gynnwys y newidiadau y cyfeirir atynt uchod.
Statws
Yn ei gyfarfod ar 25/02/2020
penderfynodd y Pwyllgor Deisebau fod y ddeiseb hon wedi'i chwblhau.
Cytunodd y Pwyllgor i gau'r
ddeiseb gan fod Deddf Senedd ac Etholiadau (Cymru) 2019 wedi’i phasio, ac
oherwydd diffyg cysylltiad â’r deisebydd.
Gellir gweld manylion llawn ynghylch trafodaeth y
pwyllgor o'r ddeiseb hon a'r dogfennau cysylltiedig ar y tab Cyfarfodydd uchod.
Cafodd ei
hystyried gyntaf gan y Pwyllgor Deisebau ar 09/07/2019.
Etholaeth a Rhanbarth y
Cynulliad
- Ceredigion
- Canolbarth a Gorllewin Cymru
Rhagor o wybodaeth
- Dysgwch fwy am broses ddeisebau'r Cynulliad
- Llofnodwch
e-ddeiseb
- Sut
mae proses Ddeisebu yn gweithio
Math o fusnes: Deiseb
Rheswm dros ei ystyried: Busnes y Senedd;
Statws: Wedi’i gwblhau
Cyhoeddwyd gyntaf: 14/06/2019