P-05-885 Trafnidiaeth Gyhoeddus Hygyrch a Chynhwysol ar gyfer Dinasyddion ag Anableddau Dysgu yng Nghymru

P-05-885 Trafnidiaeth Gyhoeddus Hygyrch a Chynhwysol ar gyfer Dinasyddion ag Anableddau Dysgu yng Nghymru

Wedi'i gwblhau

 

P-05-885 Trafnidiaeth Gyhoeddus Hygyrch a Chynhwysol ar gyfer Dinasyddion ag Anableddau Dysgu yng Nghymru

 

Cyflwynwyd y ddeiseb hon gan Joe Powell, ar ôl casglu cyfanswm o 203 lofnodion.

 

Geiriad y ddeiseb:

Rydym yn galw ar i Lywodraeth Cymru sicrhau bod pob awdurdod lleol yn ymgynghori â phobl ag anableddau dysgu cyn gwneud unrhyw newidiadau i wasanaethau bysiau/llwybrau bysiau yng Nghymru. Mae hyn yn cynnwys newidiadau i safleoedd bysiau.

 

Rydym hefyd yn galw ar i Lywodraeth Cymru ehangu'r Cerdyn Teithio Rhatach i gynnwys gwasanaethau rheilffordd lleol mewn ardaloedd lle nad oes llawer o wasanaethau bysiau. Mae'r mesurau hyn yn hanfodol os ydym am i bobl ag anableddau dysgu yng Nghymru beidio â chael eu hynysu yn y gymdeithas, ac os ydym am eu galluogi i fyw fel dinasyddion gweithgar a chydradd a chanddynt fynediad at y gwasanaethau sydd eu hangen i gyflawni eu canlyniadau llesiant eu hunain, fel y'u hyrwyddir yn Neddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru).

 

 

Statws

Yn ei gyfarfod ar 15/10/2018 penderfynodd y Pwyllgor Deisebau fod y ddeiseb hon wedi'i chwblhau.

Trafododd y Pwyllgor ohebiaeth ychwanegol a chytunodd  nad oes fawr ddim y gallai'r Pwyllgor ei gyflawni mwyach yn y cyswllt hwn ar hyn o bryd, a hynny o ystyried y wybodaeth a gafwyd gan y Gweinidog a bwriad Llywodraeth Cymru i ddiwygio trefniadau rheoleiddio gwasanaethau bysiau drwy'r Bil Trafnidiaeth Gyhoeddus arfaethedig. Caeodd y Pwyllgor y ddeiseb a chytunodd i awgrymu bod y deisebwyr yn ymgysylltu â’r broses o graffu ar y Bil ac yn lobïo Aelodau'r Cynulliad i osod unrhyw welliannau perthnasol bryd hynny.

Gellir gweld manylion llawn ynghylch trafodaeth y pwyllgor o'r ddeiseb hon a'r dogfennau cysylltiedig ar y tab Cyfarfodydd uchod.

Cafodd ei hystyried gyntaf gan y Pwyllgor Deisebau ar 09/07/2019.

 

Etholaeth a Rhanbarth y Cynulliad

  • Dwyrain Casnewydd
  • Dwyrain De Cymru

 

Rhagor o wybodaeth

 

 

 

 

 

Math o fusnes: Deiseb

Rheswm dros ei ystyried: Busnes y Senedd;

Statws: Wedi’i gwblhau

Cyhoeddwyd gyntaf: 03/06/2019