Agenda a Chofnodion
Lleoliad: Ystafell Bwyllgora 1 - y Senedd
Cyswllt: Steve George Deputy Clerk: Kayleigh Driscoll
Cyfryngau
Senedd.TV: Gweld y gweddarllediad
Amseriad disgwyliedig | Rhif | Eitem |
---|---|---|
Trawsgrifiad |
||
Cyflwyniad, ymddiheuriadau a dirprwyon Cofnodion: Croesawodd y Cadeirydd bawb i'r cyfarfod. Cafodd Steve George ei groesawu fel Clerc newydd y Pwyllgor a Kath Thomas fel aelod ychwanegol o'r tîm Clercio. Ni chafwyd ymddiheuriadau. |
||
(09.00 - 09.20) |
Deisebau newydd |
|
P-04-496 Ysgolion pob oed Dogfennau ategol: Cofnodion: Trafododd y Pwyllgor y ddeiseb am y tro cyntaf a chytunodd i ysgrifennu at y Gweinidog Addysg a Sgiliau i ofyn am ei farn ar y ddeiseb. |
||
P-04-497 Cynllun Tai Cenedlaethol i Raddedigion Dogfennau ategol: Cofnodion: Trafododd y Pwyllgor y ddeiseb am y tro cyntaf a chytunodd i:
|
||
P-04-498 Addysgu Cymru Dogfennau ategol: Cofnodion: Trafododd y Pwyllgor y ddeiseb am y tro cyntaf a chytunodd i ysgrifennu at y Gweinidog Addysg a Sgiliau i ofyn am ei farn ar y ddeiseb. |
||
P-04-499 Rhoi Hwb i Gwricwlwm yr Iaith Gymraeg Dogfennau ategol: Cofnodion: Trafododd y Pwyllgor y ddeiseb am y tro cyntaf a chytunodd i ysgrifennu at y Gweinidog Addysg a Sgiliau i ofyn am ei farn ar y ddeiseb. |
||
P-04-500 Galw am Reoleiddio Sefydliadau Lles Anifeiliaid yng Nghymru Dogfennau ategol: Cofnodion: Trafododd y
Pwyllgor y ddeiseb am y tro cyntaf a chytunodd i: · ysgrifennu at y Gweinidog Cyfoeth Naturiol a Bwyd i ofyn am ei farn ar y ddeiseb; · gofyn am eglurhad pellach gan y deisebydd ar nodau'r ddeiseb; a · dosbarthu nodyn ar y cyngor cyfreithiol a roddwyd yn y cyfarfod Pwyllgor. |
||
P-04-501 Gwneud canolfannau dydd ar gyfer pobl hŷn yn ofyniad statudol yng Nghymru Dogfennau ategol: Cofnodion: Trafododd y Pwyllgor y ddeiseb am y tro cyntaf a chytunodd i ysgrifennu at y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol i ofyn am ei farn ar y ddeiseb. |
||
P-04-502 Canolfan Lles ar gyfer Cymru Dogfennau ategol: Cofnodion: Trafododd y Pwyllgor y ddeiseb am y tro cyntaf a chytunodd i ysgrifennu at y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol i ofyn am ei farn ar y ddeiseb. |
||
P-04-503 Adfywio Tonpentre a Phentre Dogfennau ategol: Cofnodion: Trafododd y Pwyllgor y ddeiseb am y tro cyntaf a chytunodd i ysgrifennu at y Gweinidog Tai ac Adfywio i ofyn am ei farn ar y ddeiseb. |
||
(09.20 - 10.30) |
Y wybodaeth ddiweddaraf am ddeisebau blaenorol |
|
P-03-240 Diogelwch ar ffordd yr A40 yn Llanddewi Felffre Dogfennau ategol:
Cofnodion: Trafododd y Pwyllgor yr ohebiaeth ynghylch y ddeiseb a chytunodd i nodi ymateb y Gweinidog a gofyn iddi roi'r wybodaeth ddiweddaraf i'r Pwyllgor gydag amserlen ar gyfer ei ystyried ac unrhyw ddatblygiadau eraill ar y materion a godwyd yn sylwadau'r deisebydd. |
||
P-04-363 Cynllun i Wella Canol Tref Abergwaun Dogfennau ategol:
Cofnodion: Trafododd y Pwyllgor yr ohebiaeth ynghylch y ddeiseb a chytunodd i ysgrifennu at SWWITCH, gan anfon copi at Gyngor Sir Penfro i mewn yn gofyn iddo:
|
||
P-04-406 Yn erbyn Safle yng Ngogledd Cymru yn y Cynllun Parthau Cadwraeth Morol Dogfennau ategol: |
||
P-04-411 Deiseb yn Erbyn Parthau Cadwraeth Morol yn Sir Benfro Dogfennau ategol: |
||
P-04-415 Cefnogaeth am Bennu Parthau Cadwraeth Morol Lefel Gwarchodaeth Uchel Dogfennau ategol:
Cofnodion: Trafododd y Pwyllgor yr ohebiaeth ynghylch y ddeiseb a chytunodd i gau P-04-406 a P-04-411 yn sgîl datganiad diweddar y Gweinidog; ond i gadw P-04-415 ar agor hyd nes bod yr Aelodau wedi cael cyfle i drafod yr ohebiaeth ddiweddar a ddarparwyd gan y deisebydd. |
||
P-04-426 Cyflwyno terfyn cyflymder gorfodol o 40mya ar ffordd yr A487 ym Mlaen-porth, Ceredigion Dogfennau ategol:
Cofnodion: Trafododd y Pwyllgor yr ohebiaeth ynghylch y ddeiseb a chytunodd i gau'r ddeiseb yn sgîl ymateb cadarnhaol y Gweinidog i weithredu terfyn cyflymder o 40mya. |
||
P-04-435 Gweithredu Masnachfraint Rheilffyrdd Cymru a'r Gororau 2018 ar Sail Ddi-ddifidend Dogfennau ategol:
Cofnodion: Trafododd y Pwyllgor yr ohebiaeth ynghylch y ddeiseb a chytunodd i gau'r ddeiseb gan fod y Gweinidog wedi cytuno i gynnwys y deisebydd mewn ymgynghoriadau yn y dyfodol. |
||
P-04-486 Gweithredu nawr er mwyn achub siopau y Stryd Fawr Dogfennau ategol:
Cofnodion: Trafododd y Pwyllgor yr ohebiaeth ynghylch y ddeiseb a
chytunodd i:
|
||
P-04-343 Atal dinistrio amwynderau ar dir comin - Ynys Môn Dogfennau ategol:
Cofnodion: Trafododd y Pwyllgor yr ohebiaeth ynghylch y ddeiseb a chytunodd i: · wahodd y deisebwyr i siarad gyda'r Pwyllgor yn ei gyfarfod arfaethedig yng ngogledd Cymru ym mis Tachwedd; a · dosbarthu nodyn ar y cyngor cyfreithiol a roddwyd yn y cyfarfod Pwyllgor. |
||
P-04-399 Arferion lladd anifeiliaid Dogfennau ategol:
Cofnodion: Trafododd y Pwyllgor yr ohebiaeth ynghylch y ddeiseb a chytunodd i aros i'r Offeryn Statudol weithredu rheoliadau newydd y Gymuned Ewropeaidd a dychwelyd at y mater unwaith y bydd wedi'i gyflwyno. |
||
P-04-433 Teledu Cylch Cyfyng mewn Lladd-dai Dogfennau ategol:
Cofnodion: Trafododd y Pwyllgor yr ohebiaeth ynghylch y ddeiseb a chytunodd i aros i gael y wybodaeth ddiweddaraf gan y Gweinidog. |
||
P-04-439 Diogelu coed hynafol a choed treftadaeth Cymru ymhellach Dogfennau ategol:
Cofnodion: Trafododd y Pwyllgor yr ohebiaeth ynghylch y ddeiseb a chytunodd i:
|
||
P-04-465 Achub llaeth Cymru, a seilwaith a swyddi’r diwydiant Dogfennau ategol:
Cofnodion: Ystyriodd y Pwyllgor ohebiaeth ynghylch y ddeiseb a chytunodd i gau'r ddeiseb yng ngoleuni'r cwmni yn mynd i ddwylo'r gweinyddwyr. |
||
P-04-366 Cau canolfan ddydd Aberystwyth Dogfennau ategol:
Cofnodion: Trafododd y Pwyllgor yr ohebiaeth ynghylch y ddeiseb a chytunodd i gau'r ddeiseb gan fod y materion o dan sylw bellach, yn y bôn, yn fater gweithredol i'r cyngor lleol. |
||
P-04-440 Dywedwch ‘Na’ i werthu asedau Ysbyty Bronllys Dogfennau ategol:
Cofnodion: Trafododd y Pwyllgor yr ohebiaeth ynghylch y ddeiseb a chytunodd i aros i weld yr achos busnes ar y weledigaeth y mae'r Bwrdd Iechyd yn ei ffafrio, y mae'r Prif Weithredwr wedi cytuno i'w roi i'r Pwyllgor pan fydd ar gael. |
||
P-04-456 Dementia - Gallai hyn ddigwydd i chi Dogfennau ategol:
Cofnodion: Trafododd y
Pwyllgor yr ohebiaeth ynghylch y ddeiseb a chytunodd i:
|
||
P-04-463 Lleihau Lefelau Halen mewn Bwyd Dogfennau ategol:
Cofnodion: Trafododd y Pwyllgor yr ohebiaeth ynghylch y ddeiseb a chytunodd i roi cyfle arall i weld a yw'r deisebydd yn fodlon ag ymateb y Gweinidog. |
||
P-04-466 Argyfwng Meddygol – Atal cyflwyno gwasanaeth iechyd o safon is yng ngogledd Cymru. Dogfennau ategol:
Cofnodion: Trafododd y Pwyllgor yr ohebiaeth ynghylch y ddeiseb a chytunodd i wahodd y deisebwyr i siarad gyda'r Pwyllgor ynghyd â'r deisebwyr ar gyfer P-04-476 yn ei gyfarfod arfaethedig yng ngogledd Cymru ym mis Tachwedd. |
||
P-04-479 Deiseb Adran Pelydr-X ac Uned Man Anafiadau Ysbyty Tywyn Dogfennau ategol:
Cofnodion: Trafododd y Pwyllgor yr ohebiaeth ynghylch y ddeiseb a chytunodd i wahodd y deisebwyr i siarad gyda'r Pwyllgor ynghyd â'r deisebwyr ar gyfer P-04-466 yn ei gyfarfod arfaethedig yng ngogledd Cymru ym mis Tachwedd. |
||
P-04-492 Diagnosis o awtistiaeth ymysg plant Dogfennau ategol:
Cofnodion: Trafododd y Pwyllgor yr ohebiaeth ynghylch y ddeiseb a chytunodd i ysgrifennu at y Dirprwy Weinidog yn gofyn iddi roi'r wybodaeth ddiweddaraf am y sefyllfa, chwe mis ar ôl cyflwyno'r cynllun gweithredu. |
||
P-04-419 Moratoriwm ar Ddatblygu Ffermydd Gwynt Dogfennau ategol:
Cofnodion: Trafododd y Pwyllgor yr ohebiaeth ynghylch y ddeiseb a chytunodd i:
|
||
P-04-423 Cartref Nyrsio Brooklands Dogfennau ategol:
Cofnodion: Trafododd y Pwyllgor yr ohebiaeth ynghylch y ddeiseb a chytunodd i aros i gael barn y deisebydd ar y sefyllfa ddiweddaraf fel yr amlinellwyd gan y Cyngor. |
||
P-04-493 Moratoriwm ar Gynlluniau Datblygu Lleol mewn Rhanbarthau Dinesig posibl Dogfennau ategol:
Cofnodion: Trafododd y Pwyllgor yr ohebiaeth ynghylch y ddeiseb a chytunodd i gau'r ddeiseb gan fod Llywodraeth Cymru wedi diystyru'r dull y mae'r deisebydd wedi'i awgrymu. |
||
P-04-436 Gwariant a Refeniw Llywodraeth Cymru Dogfennau ategol:
Cofnodion: Trafododd y Pwyllgor yr ohebiaeth ynghylch y ddeiseb a chytunodd i ofyn i'r Gweinidog ymateb i'r pwyntiau eraill a godwyd gan y deisebydd. |
||
P-04-441 Gwaith i Gymru - Work for Wales Dogfennau ategol:
Cofnodion: Trafododd y Pwyllgor yr ohebiaeth ynghylch y ddeiseb a chytunodd i aros i gael barn y deisebydd a Colegau Cymru. |
||
P-04-488 Yr hawl i benderfynu: diwedd ar astudiaeth orfodol o’r Gymraeg hyd at lefel TGAU Dogfennau ategol:
Cofnodion: Trafododd y Pwyllgor yr ohebiaeth ynghylch y ddeiseb a chytunodd i aros hyd nes y bydd yr adolygiad o addysgu Cymraeg fel ail iaith yng Nghyfnodau Allweddol 3 a 4 wedi'i gyhoeddi. |
||
P-04-447 Ymgyrch am Gerflun o Harri’r Seithfed ym Mhenfro Dogfennau ategol:
Cofnodion: Trafododd y Pwyllgor yr ohebiaeth ynghylch y ddeiseb a chytunodd i ofyn am ymatebion gan Ymddiriedolaeth Castell Penfro a Chyngor Tref Penfro. |
||
P-04-476 Ailstrwythuro Amgueddfa Cymru Dogfennau ategol:
Cofnodion: Trafododd y Pwyllgor yr
ohebiaeth ynghylch y ddeiseb a chytunodd i: · aros i gael barn y deisebwyr ar yr ohebiaeth gan y Gweinidog ac Amgueddfa Cymru; a · gofyn i Amgueddfa Cymru am y wybodaeth ddiweddaraf. |
||
P-04-397 Cyflog Byw Dogfennau ategol:
Cofnodion: Trafododd y Pwyllgor yr ohebiaeth ynghylch y ddeiseb a chytunodd i ofyn am ragor o wybodaeth am gyflog byw, y gofynnwyd amdani, gan Grŵp Cynghori Llywodraeth Cymru ar gyflog byw. |
||
(10.30) |
Cynnig o dan Reol Sefydlog 17.42 i benderfynu gwahardd y cyhoedd o'r cyfarfod ar gyfer y canlynol: Eitem 5 Cofnodion: Cytunodd y Pwyllgor ar y cynnig. |
|
(10.30 - 10.45) |
P-03-262 Academi Heddwch Cymru / Wales Peace Institute: Adroddiad drafft Trafod yr adroddiad drafft Dogfennau ategol: Cofnodion: Cytunwyd ar yr adroddiad drafft.
|