P-04-500 Galw am Reoleiddio Sefydliadau Lles Anifeiliaid yng Nghymru
P-04-500 Galw am Reoleiddio Sefydliadau Lles Anifeiliaid yng Nghymru
Rydym ni, sydd wedi llofnodi isod, yn galw ar
Gynulliad Cenedlaethol Cymru i annog Llywodraeth Cymru i reoleiddio Sefydliadau
Lles Anifeiliaid a deddfu bod holl sefydliadau achub anifeiliaid yn bodloni
gofynion gorfodol yn unol â’r adroddiad a luniwyd gan Weithgor Sefydliadau Lles
Anifeiliaid Rhwydwaith Lles Anifeiliaid Cymru ym mis Hydref 2012. Mae angen i
Lywodraeth Cymru roi deddfwriaeth ar waith yng Nghymru o dan Ddeddf Lles
Anifeiliaid (2006), i ddiogelu anifeiliaid rhag esgeulustod a cham-drin.
Gwybodaeth ychwanegol
Mae mwy a mwy o anifeiliaid yn dioddef cam-drin, esgeulustod ac yn cael eu
bridio mewn sefydliadau heb eu rheoleiddio sy’n hysbysebu ei hunain yn
Ganolfannau Achub, ac rydym yn galw ar Gynulliad Cymru i ddeddfu o dan Ddeddf
Anifeiliaid 2006 i geisio rhoi’r gorau i hyn.
Prif ddeisebydd: Lisa Winnett
Ysytyriwyd am y tro
cyntaf gan y Pwyllgor: 24 Medi 2013
Nifer y llofnodion: 265
Math o fusnes: Deiseb
Rheswm dros ei ystyried: Busnes y Senedd;
Statws: I'w ystyried
Cyhoeddwyd gyntaf: 18/09/2013