P-04-440 : Dywedwch ‘Na’ i werthu asedau Ysbyty Bronllys
Rydym yn galw ar Gynulliad Cenedlaethol Cymru i annog Llywodraeth Cymru i wrthod unrhyw ymgais gan Fwrdd Addysgu Iechyd Powys i dynnu asedau oddi ar Ysbyty Cymunedol Bronllys drwy gau neu symud ei Uned Strôc, na thrwy roi gwasanaethau newydd neu gyfleusterau gwasanaeth y rhanbarth mewn man arall. Yn hytrach dylai roi cyfarwyddiadau i’r Bwrdd Iechyd ddyfeisio strategaeth i adeiladu neu ailadeiladu, gwella a/neu ymestyn cyfleusterau’r Ysbyty GIG hwn, a’r gwasanaethau a’r arbenigedd adnoddau; ac i gadw ac ailadeiladu’r ased cymunedol gwerthfawr hwn fel canolfan ragoriaeth.
Rydym yn galw ymhellach ar Gynulliad Cenedlaethol Cymru i annog Llywodraeth Cymru i roi cyfarwyddiadau i’r Bwrdd Iechyd roi Ysbyty Bronllys yng nghanol ei strategaeth ar gyfer darparu gwasanaethau iechyd oedolion a phobl hŷn yn Ne-ddwyrain Powys am yr 50 mlynedd nesaf, ac i ryddhau’r adnoddau angenrheidiol i wireddu hynny.
Prif ddeisebydd: Michael Eccles
Ysytyriwyd am y tro cyntaf gan
y Pwyllgor: 4
Rhagfyr 2012
Nifer y llofnodion: 3,144
Math o fusnes: Deiseb
Rheswm dros ei ystyried: Busnes y Senedd;
Cyhoeddwyd gyntaf: 04/07/2013