P-04-499 Rhoi Hwb i Gwricwlwm yr Iaith Gymraeg
P-04-499 Rhoi Hwb i Gwricwlwm yr Iaith Gymraeg
Rydym ni, sydd wedi llofnodi isod, yn galw ar
Gynulliad Cenedlaethol Cymru i annog Llywodraeth Cymru i newid Cwricwlwm yr
Iaith Gymraeg mewn ysgolion uwchradd; er mwyn annog y defnydd o’r iaith Gymraeg
ar ffurf sgyrsiol yn hytrach nag ar ddysgu Cymraeg i basio arholiad.
Gwybodaeth ychwanegol
Rydym ni, fel disgyblion mewn ysgol uwchradd yng
Nghymru, yn credu nad yw’r system bresennol o ddysgu Cymraeg yn annog dysgu
gydol oes ar gyfer bywyd go iawn y tu allan i’r ysgol. Credwn nad yw’r ffocws
presennol ar basio arholiad yn mynd i’r afael yn effeithiol â’r defnydd o
Gymraeg go iawn ac mae’r rhan fwyaf o bobl yn gadael yr ysgol ac yn anghofio’r
rhan fwyaf o’r hyn maent wedi’i ddysgu yn ystod eu plum mlynedd o addysg
uwchradd. Rydym eisiau i’r Cynulliad fynd i’r afael â’r mater o ddysgu Cymraeg
gydol oes mewn ysgolion uwchradd Saesneg eu cyfrwng er mwyn cadw’r iaith
Gymraeg yn fyw ledled y wlad. Credwn fod angen gwneud y newid hwn cyn bo hir
cyn bod difrod na ellir ei ddadwneud yn digwydd a bod yr iaith Gymraeg yn
datblygu’n iaith ar gyfer arwyddion ffyrdd ac amgueddfeydd.
Prif ddeisebydd:
Eva Bowers a Lauren
Davies
Ysytyriwyd am y tro
cyntaf gan y Pwyllgor: 24 Medi 2013
Nifer y llofnodion: 19
Math o fusnes: Deiseb
Rheswm dros ei ystyried: Busnes y Senedd;
Statws: Bil wedi methu
Cyhoeddwyd gyntaf: 18/09/2013