P-03-240 Diogelwch ar ffordd yr A40 yn Llanddewi Felffre
Geiriad y ddeiseb:
Oherwydd y lefel
gynyddol o draffig, yn enwedig cerbydau nwyddau trwm, ar yr A40 ac oherwydd y
ddarpariaeth annigonnol o balmentydd a chroesfannau cerddwyr diogel, a
gydnabyddir gan yr Asiantaeth Cefnffyrdd drwy ymchwil â gyflwawnwyd ar ran
Llywodraeth Cynulliad Cymru, rydym ni, sydd wedi llofnodi isod, yn galw ar
Lywodraeth Cynulliad Cymru i wella diogelwch ar y ffordd ym mhentre Llanddewi
Felffre, Arberth, Sir Benfro, drwy roi’r mesurau a ganlyn ar waith, a hynny ar
fyrder:
Gwella’r palmant
annigonol ar hyd ochr ddeheuol yr A40 rhwng Llandaff Row a phen dwyreiniol y
pentref i sicrhau ei fod yn boddhau safonau diogewlch presenol, a’i fod yn
ddigon llydan i gael ei ddefnyddio’n ddiogel gan gerddwyr, cadeiriau gwthio a
chadeiriau olwyn gan roi ystyriaeth i’r ffaith bod cerbydau nwyddau trwm yn
gyrru heibio’n agos ac yn aml ac yn gyrru'n gyflymach na’r terfyn cyflymder
presennol o 40 mya.
Gosod camerâu
cyflymdra yn nwyrain ac yng ngorllewin y pentref.
Defnyddio system
drydanol sydd eisoes yn bodoli ar gyfer arwyddion i groesi’r ffordd er mwyn
darparu goleuadau rhybudd sy’n fflachio ar adegau pan fydd plant yn croesi’r
A40 i ddal eu bws ysgol.
Gosod mesurau i
ostegu traffig bob ochr i’r pentref ac ar gyffyrdd i bwysleisio’r angen i
arafu.
Gostwng y terfyn
cyflymder i 30mya.
Prif ddeisebydd:
Cyngor Cymuned
Llanddewi Felffre
Nifer y deisebwyr:
154
Math o fusnes: Deiseb
Rheswm dros ei ystyried: Busnes y Senedd;
Statws: I'w ystyried
Dogfennau