P-04-435 : Gweithredu Masnachfraint Rheilffyrdd Cymru a'r Gororau 2018 ar Sail Ddi-ddifidend

P-04-435 : Gweithredu Masnachfraint Rheilffyrdd Cymru a'r Gororau 2018 ar Sail Ddi-ddifidend

Geiriad y ddeiseb

Rydym yn galw ar Gynulliad Cenedlaethol Cymru i annog Llywodraeth Cymru i sicrhau y caiff masnachfraint nesaf Rheilffyrdd Cymru a’r Gororau ei gweithredu ar sail ddi-ddifidend.

Mae gan gwmni Arriva fonopoli dros lawer o reilffyrdd Cymru a’r Gororau; nid yw hyn yn annog prisiau rhatach a safonau gwell drwy gystadleuaeth, fel y bwriadwyd gan gyfalafiaeth, oherwydd y monopoli hwnnw. Bydd y cytundeb gydag Arriva yn cael ei adnewyddu yn 2018. Byddai system brisioddi-ddifidendyn cynyddu nifer y teithwyr ac yn caniatáu i ragor o bobl weithio oherwydd buasent yn gallu fforddio teithio. Byddai hynny’n cael effaith gadarnhaol ar gynnyrch mewnwladol crynswth Cymru a hefyd, wrth brofi’r system, yn rhoi mwy o reswm i Loegr wneud yr un peth.

Prif ddeisebydd:  Merlyn Cooper

Ysytyriwyd am y tro cyntaf gan y Pwyllgor:  6 Tachwedd 2012

 

Nifer y llofnodion:  35

 

 

Math o fusnes: Deiseb

Rheswm dros ei ystyried: Busnes y Senedd;