P-04-426 Cyflwyno terfyn cyflymder gorfodol o 40mya ar ffordd yr A487 ym Mlaen-porth, Ceredigion
P-04-426 Cyflwyno terfyn cyflymder gorfodol o 40mya ar ffordd yr A487 ym Mlaen-porth, Ceredigion
Geiriad y ddeiseb:
Rydym ni, Cyngor
Cymuned Aber-porth, yn galw ar Gynulliad Cenedlaethol Cymru i annog Llywodraeth
Cymru i gyflwyno terfyn cyflymder gorfodol o 40mya ar ffordd yr A487 ym
Mlaen-porth, Ceredigion.
Gwybodaeth ychwanegol:
Mae pentref
Blaen-porth yn gorwedd bob ochr i’r brif ffordd arfordirol rhwng de a gogledd
Cymru, sef yr A487. Mae tua dwy ran o dair o boblogaeth y pentref yn byw i’r de
o’r brif ffordd; mae’r gweddill yn byw yn bennaf o amgylch yr eglwys leol i’r
gogledd. Yn ôl y wybodaeth y mae Cyngor Cymuned Aber-porth wedi’i chanfod, hwn
yw’r unig bentref heb derfyn cyflymder gorfodol ar hyd arfordir Bae Ceredigion
rhwng Abergwaun i’r de a Phorthmadog, Gwynedd, i’r gogledd.
Data hanesyddol hyd at
Ebrill 2012: -
Mae llythyrau a
negeseuon e-bost niferus wedi’u hanfon at Asiantaeth Cefnffyrdd Canolbarth
Cymru a Chyngor Sir Ceredigion.
Ni chafwyd yr un ateb
gan Asiantaeth Cefnffyrdd Canolbarth Cymru. Mae Adran Briffyrdd Ceredigion yn ymateb
ar ffurf llythyrau neu drwy e-bost, ond ni chafwyd cefnogaeth i’r newid.
Ym mis Hydref 2009,
cafwyd Cylchlythyr Llywodraeth Cymru 24/2009: Gosod Terfynau Cyflymder Lleol
yng Nghymru. Am ddwy flynedd ni wnaeth Gyngor Sir Ceredigion ddim, ac yna, mewn
cyfarfod o Gabinet y Cyngor ar 25/10/2011, cynigiwyd moratorium ar gyflwyno
terfynau cyflymder newydd. Roedd hyn ar yr wythfed o’r naw tudalen a oedd yn
cael eu trafod: fait accompli! Mae
penderfyniad swyddogion Cyngor Sir Ceredigion i ddechrau’r broses ddwy flynedd
ar ôl dyddiad y cylchlythyr ac i gymryd tair blynedd (tan fis Rhagfyr 2014) i’w
rhoi ar waith yn cwestiynu hygrededd y broses.
Ysgogodd y
penderfyniad Gyngor Cymuned Aber-porth i ysgrifennu at Brif Weithredwr Cyngor
Sir Ceredigion, ond roedd yr ateb ond yn cefnogi’r “party line”.
Yn ystod y cyfnod hwn,
roedd Elin Jones, Aelod Cynulliad Ceredigion, hefyd yn ceisio cyflwyno terfyn
cyflymder gorfodol ond heb lwyddiant.
O fis Mai 2012 ymlaen:
-
Ar ôl yr etholiadau
lleol ym mis Mai, teimlodd Cyngor Cymuned Aber-porth fod ganddo fandad newydd
gan yr etholwyr i geisio unwaith eto i gael terfyn cyflymder gorfodol ym
Mlaen-porth.
Cychwyn yr ymgyrch
oedd ymweliad safle gyda’r Cynghorydd Alun Williams, Aelod Cabinet y Cyngor
dros Drafnidiaeth, a gefnogodd ein hachos ac a anfonodd negeseuon e-bost at
Adran Briffyrdd y Cyngor a menter Gan Bwyll.
Cyfarfu cadeirydd
Pwyllgor Priffyrdd Cyngor Cymuned Aber-porth â Mark Williams, Aelod Seneddol
Ceredigion, a gynigiodd ei gefnogaeth yntau.
Penderfynwyd hefyd
anfon copi at Aelodau Cynulliad Rhanbarthol Canolbarth a Gorllewin Cymru. Cafodd Rebecca Evans AC ateb o’r diwedd gan
Mr Deio Evans o’r Asiantaeth, yn ailadrodd yr un stori, sef y bydd rhaid aros
tan fis Rhagfyr 2014 cyn y gwneir unrhyw benderfyniadau newydd ar derfynau
cyflymder. Cynigiodd William Powell AC y
Pwyllgor Deisebau fel cyfle olaf.
Gwybodaeth ychwanegol
o ran diogelwch: -
Ddiwedd tymor yr haf
2012, caeodd Cyngor Sir Ceredigion yr ysgol leol, Ysgol Gynradd Blaen-porth,
ynghyd â sawl ysgol arall, ac agorodd ysgol newydd, Ysgol Gymunedol T Llew
Jones, ym Mrynhoffnant, Ceredigion, rhyw bum milltir i’r gogledd ar yr A487.
Fel y nodwyd yn y
paragraff cefndir, mae dwy ran o dair o gartrefi Blaen-porth yn rhan ddeheuol y
pentref. Mae gan y disgyblion hyn a’u
rhieni ddau ddewis o ran mynd i’r ysgol newydd.
- Gallant fynd â’u plant ysgol gynradd
yn y bore i’r safle bws dros y ffordd sydd o fewn terfyn cyflymder
cynghorol gyda therfyn cyfreithiol o 60mya (amcangyfrifir bod dros hanner
y traffig yn mynd yn gynt na’r cyflymder cenedlaethol hwn). Mae amseroedd
codi plant ysgol hefyd yn cyd-daro â thraffig cymudwyr, neu
- Gallant gludo’r plant mewn ceir i faes
parcio cyn-ysgol Blaen-porth fel y gallant ddal y bws yn ddiogel. Mae
risgiau ynghlwm â’r dewis hwn hefyd, o ran mai hyn a hyn o amser yn unig
sydd ar gael i ddal y bws ysgol, yn hytrach nag o’r blaen pan oedd yr
ysgol ar agor.
Wrth gwrs, bydd y
plant sy’n byw ar ochr ogleddol y pentref yn gorfod croesi’r ffordd beryglus
hon wrth ddychwelyd o’r ysgol.
Mae’r sefyllfa hon
wedi cael sylw yn y wasg leol, a hynny yn rhifyn 25 Medi 2012 o’r Tivy-Side
Advertiser.
Crynodeb: -
Nid yw Cyngor Cymuned
Aber-porth yn gallu deall pam nad oes terfyn cyflymder gorfodol ym Mlaen-porth,
na diffyg cefnogaeth Asiantaeth Cefnffyrdd Canolbarth Cymru a Chyngor Sir
Ceredigion i gyflwyno terfyn. Nid yw
Ceredigion yn sir fawr, ac mae cymryd tair blynedd i wirio terfynau cyflymder
ar Ffyrdd A a B yn ymddangos yn gyfnod eithriadol o hir i gynnal ymarfer o’r
fath.
Dylai cyflwyno terfyn
cyflymder mewn un pentref ar yr A487 yn y sir fod yn gymharol ddidrafferth.
Cynigiwyd
y ddeiseb gan: Cyngor
Cymuned Aber-porth
Y
dyddiad yr ystyriodd y Pwyllgor y ddeiseb am y tro cyntaf: 16 Hydref 2012
Nifer y llofnodion:
Cyngor Cymuned
Aber-porth
Math o fusnes: Deiseb
Rheswm dros ei ystyried: Busnes y Senedd;