Agenda a Chofnodion
- Manylion Presenoldeb
- Agenda
PDF 202 KB Gweld Agenda fel HTML
- Papurau ar gyfer y cyfarfod hwn mewn pecyn PDF
- Pecyn atodol ar gyfer eitem 2.4 ac eitem 6.
PDF 416 KB
- 2.2 Briff Ymchwil - P-06-1315 Rhoi'r gorau i’r defnydd o gontractau allanol yng Nghanolfan Awyr Agored Genedlaethol Cymru, Plas Menai
PDF 248 KB
- Cofnodion y gellir eu hargraffu
PDF 400 KB Gweld Cofnodion fel HTML
Lleoliad: Ystafell Bwyllgora 3 - Y Senedd. Cyfarwyddiadau
Cyswllt: Gareth Price
Cyfryngau
Senedd.TV: Gweld y gweddarllediad
Transcript: Transcript for 06/02/2023 - Y Pwyllgor Deisebau
Rhif | Eitem |
---|---|
Cyflwyniad, ymddiheuriadau, dirprwyon a datgan buddiannau. Dogfennau ategol: Cofnodion: Croesawodd y
Cadeirydd bawb i’r cyfarfod. |
|
Deisebau newydd |
|
P-06-1306 Mwy o ddiogelwch i goed hynafol a hynod yng Nghymru. Gall hen goed gael eu symud. Rhaid rhoi’r gorau i dorri coed Dogfennau ategol:
Cofnodion: Trafododd y
Pwyllgor y ddeiseb a chytunodd i'w chadw ar agor tra'n aros am y drafodaeth
sydd i fod i gael ei chynnal ar y Bil Amaethyddiaeth (Cymru) yn y Cyfarfod
Llawn ar 7 Chwefror. |
|
P-06-1315 Rhoi'r gorau i’r defnydd o gontractau allanol yng Nghanolfan Awyr Agored Genedlaethol Cymru, Plas Menai Dogfennau ategol:
Cofnodion: Datganodd Jack
Sargeant AS y buddiant perthnasol a ganlyn o dan Reol Sefydlog 17.24A: Mae'n adnabod y
deisebydd. Trafododd y
Pwyllgor y ddeiseb a nododd fod y deisebydd yn datgan yn ei ohebiaeth fod y
broses o allanoli gwasanaethau Plas Menai i Legacy Leisure wedi dechrau ar 1
Chwefror a'i fod yn deall na all y Pwyllgor wneud rhagor o waith ar y mater. Yn sgil hyn
cytunodd yr Aelodau i gau'r ddeiseb a diolch i'r deisebydd am godi
ymwybyddiaeth o’r mater. |
|
P-06-1316 Ailenwi ‘Wales’, gan ddefnyddio ei henw gwreiddiol, sef Cymru. Dogfennau ategol:
Cofnodion: Trafododd y
Pwyllgor y ddeiseb ac o ystyried safbwynt clir a chadarn y Llywodraeth i barhau
i gyfeirio at ein cenedl yn ei dwy iaith swyddogol, cytunodd yr Aelodau i gau'r
ddeiseb a diolch i'r deisebydd. |
|
P-06-1320 Dyrannu cyllid ychwanegol i Gyngor Bwrdeistref Sirol Castell-nedd Port Talbot i sicrhau ei fod yn gynaliadwy Dogfennau ategol:
Cofnodion: Datganodd Luke
Fletcher AS y buddiant perthnasol a ganlyn o dan Reol Sefydlog 17.24A: Mae wedi cwrdd
â'r deisebydd ar rai achlysuron. Trafododd y
Pwyllgor y ddeiseb a chytunodd i'w chadw ar agor nes bod y gyllideb derfynol
a’r setliad Llywodraeth Leol yn cael eu cyhoeddi. |
|
P-06-1323 Gofynnwn i Lywodraeth Cymru brynu Neuadd Dewi Sant fel adnodd cenedlaethol i Gymru Dogfennau ategol:
Cofnodion: Trafododd y
Pwyllgor y ddeiseb a chytunodd i aros am ymateb cychwynnol Llywodraeth Cymru
i'r ddeiseb ac adroddiad ymgynghoriad cyhoeddus Cyngor Caerdydd. Nododd y
Cadeirydd hefyd ddeiseb debyg ar y mater a lansiwyd ar wefan Change.org ac a
gasglodd 21,790 o lofnodion. |
|
Y wybodaeth ddiweddaraf am ddeisebau blaenorol |
|
P-06-1314 Insiwleiddio holl gartrefi Cymru rhag y gwres a'r oerfel... cyflwyno grantiau sy'n agored i bawb! Dogfennau ategol:
Cofnodion: Trafododd y
Pwyllgor y ddeiseb a chytunodd i ysgrifennu at y Gweinidog Newid Hinsawdd gyda
nifer o gwestiynau sydd wedi codi yn sgil gwaith ymgysylltu diweddar y Pwyllgor
ar y mater. |
|
P-06-1209 Dylid creu rhestr o bob gofalwr di-dâl yng Nghymru Dogfennau ategol:
Cofnodion: Trafododd y
Pwyllgor y ddeiseb a chytunodd i'w chadw ar agor tra'n disgwyl am gyfarfod Grŵp Cynghori'r Gweinidog sydd i fod i gael
ei gynnal ym mis Mawrth/Ebrill eleni, a gofyn i Lywodraeth Cymru am y wybodaeth
ddiweddaraf yn dilyn hyn. |
|
P-06-1240 Gwella gwasanaethau iechyd i bobl ag epilepsi sy'n byw yng Nghymru Dogfennau ategol:
Cofnodion: Trafododd y
Pwyllgor y ddeiseb a chytunodd i ysgrifennu at y Dirprwy Weinidog Gwasanaethau
Cymdeithasol i ofyn am ei barn ar yr adroddiad a gyhoeddwyd gan Epilepsy Action
Cymru. Diolchodd yr
Aelodau i’r deisebydd am godi ymwybyddiaeth o'r mater, gan ei longyfarch hefyd. |
|
P-06-1242 Gwella Gofal Iechyd Endometriosis yng Nghymru Dogfennau ategol:
Cofnodion: Trafododd y
Pwyllgor y ddeiseb a chytunodd i gadw'r ddeiseb ar agor a'i haildrafod pan
gaiff y Cynllun Iechyd Menywod ei ddatblygu a’i gyhoeddi. Nododd yr Aelodau
hefyd pa mor ysbrydoledig y mae’r deisebydd Beth Hales wedi bod gyda’i
hymgyrchu a’i hymgysylltiad ar y mater hwn. |
|
P-06-1247 Rydym yn galw ar Lywodraeth Cymru i arwain y ffordd drwy gefnogi treialon wythnos waith pedwar diwrnod yng Nghymru Dogfennau ategol: Cofnodion: Trafododd y
Pwyllgor y ddeiseb a chytunodd i ailedrych arni pan ddaw ymateb Llywodraeth
Cymru i adroddiad ac argymhellion y Pwyllgor i law. |
|
P-06-1287 Rhaid ymchwilio i benderfyniad Bwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a’r Fro i gau’r feddygfa yng ngogledd Penarth a symud cleifion i feddygon teulu sydd ymhell i ffwrdd. Dogfennau ategol:
Cofnodion: Trafododd y
Pwyllgor y ddeiseb a chytunodd i'w haildrafod pan fydd yr Aelodau wedi cael
cyfle i ystyried yr ohebiaeth gan y deisebydd. |
|
P-06-1288 Byddai agor Gorsaf Gerdded ym Magwyr a Gwndy, sy'n rhan o Raglen Gyflenwi yr Arglwydd Burns, yn llwyddiant cyflym Dogfennau ategol:
Cofnodion: Trafododd y
Pwyllgor y ddeiseb a chytunodd i ailedrych arno ymhen chwe mis ac adolygu'r
cynnydd a wnaed. |
|
P-06-1294 Peidiwch â gadael cleifion â chanser y fron metastatig yng Nghymru ar ôl Dogfennau ategol:
Cofnodion: Trafododd y
Pwyllgor y ddeiseb a chytunodd i ysgrifennu at y Gweinidog Iechyd a
Gwasanaethau Cymdeithasol i ofyn am y wybodaeth ddiweddaraf am gyfarfod
Rhwydwaith Canser Cymru a gynhaliwyd ym mis Ionawr ac i ofyn am eglurhad
pellach ar rai o'r prif faterion a godwyd. Hefyd, nododd y Pwyllgor fod y
deisebydd wedi ysbrydoli nhw wrth iddi frwydro am well cymorth i eraill, fel
hithau, sy’n datblygu canser y fron metastatig, er gwaethaf ei heriau iechyd ei
hun. |
|
P-06-1303 Creu, ariannu a chynnal digon o leoedd meithrin a gofal plant fforddiadwy i bob rhiant sy’n gweithio Dogfennau ategol:
Cofnodion: Trafododd y
Pwyllgor y ddeiseb a chytunodd i ysgrifennu’n ôl at y Dirprwy Weinidog
Gwasanaethau Cymdeithasol yn gofyn pa asesiad a wnaed o’r Asesiadau
Digonolrwydd Gofal Plant diweddaraf, a beth maent yn eu datgelu am gyflwr y
ddarpariaeth gofal plant yng Nghymru. |
|
P-06-1304 Adolygu’r polisi tai dros dro mewn argyfwng sy’n effeithio ar ein cymunedau. Dogfennau ategol:
Cofnodion: Trafododd y
Pwyllgor y ddeiseb a chytunodd i'w chadw ar agor tra’n disgwyl i ymchwiliad y
Pwyllgor Llywodraeth Leol a Thai ar ddigartrefedd gael ei gyhoeddi ac ymateb
Llywodraeth Cymru iddo. |
|
Cynnig o dan Reol Sefydlog 17.42(ix) i benderfynu gwahardd y cyhoedd o weddill y cyfarfod. Cofnodion: Derbyniwyd y
cynnig. |
|
Data Deisebau Dogfennau ategol:
Cofnodion: Rhoddodd Daf ap
Moris drosolwg o’r gwaith dadansoddi ar ddata deisebau. |
|
Adroddiad drafft - P-06-1161 Casglu a chyhoeddi data yn rheolaidd o ran faint o fabanod/plant sy'n dychwelyd at ofal eu rhieni sydd wedi bod mewn gofal ar ddiwedd Lleoliad Rhiant a Phlentyn Dogfennau ategol:
Cofnodion: Cytunwyd ar yr
adroddiad drafft. |