P-06-1315 Rhoi'r gorau i'r defnydd o gontractau allanol yng Nghanolfan Awyr Agored Genedlaethol Cymru, Plas Menai

P-06-1315 Rhoi'r gorau i'r defnydd o gontractau allanol yng Nghanolfan Awyr Agored Genedlaethol Cymru, Plas Menai

Wedi'i gwblhau

 

Cyflwynwyd y ddeiseb hon gan Darren Williams, ar ôl casglu cyfanswm o 1,253 lofnodion.

 

Geiriad y ddeiseb:       

Mae Plas Menai yn cynnig amrywiaeth o gyrsiau, diwrnodau gweithgareddau a hyfforddiant personol mewn gweithgareddau awyr agored fel hwylio, hwylfyrddio a beicio mynydd. Ers 40 mlynedd, mae wedi gwneud cyfraniad mawr i’r sector gweithgareddau awyr agored yng Nghymru, gan ddarparu sgiliau hanfodol i unigolion a grwpiau. Mae cyrhaeddiad y rhai sydd wedi gweithio yn y Ganolfan, ac sydd wedi hyfforddi ynddi, yn ymestyn ar draws Ewrop a’r byd, sy’n dyst i bwyslais y Ganolfan ar ddarparu hyfforddiant a dysgu o’r safon uchaf.

 

Gwybodaeth Ychwanegol:

Byddai staff ymroddedig a hynod fedrus Plas Menai yn hapus i Chwaraeon Cymru chwilio am ffyrdd o wella’r Ganolfan a hyd yn oed ddefnyddio arbenigedd allanol wrth wneud hynny. Ond nid ydynt am i’r cyfleuster unigryw hwn – a’u swyddi eu hunain – gael eu trosglwyddo i ddarparwr newydd, a allai roi elw o flaen unrhyw ymrwymiad i wasanaeth cyhoeddus ac arferion cyflogaeth teg. Maen nhw hefyd yn pryderu y gallai newid darparwr amharu ar allu’r Ganolfan i ddarparu gwasanaethau trwy gyfrwng y Gymraeg.

 

A picture of colourful Kayaks

 

 

Statws

Yn ei gyfarfod ar 06/02/2023 penderfynodd y Pwyllgor Deisebau fod y ddeiseb hon wedi'i chwblhau.

 

Trafododd y Pwyllgor y ddeiseb a nododd fod y deisebydd yn datgan yn ei ohebiaeth fod y broses o allanoli gwasanaethau Plas Menai i Legacy Leisure wedi dechrau ar 1 Chwefror a'i fod yn deall na all y Pwyllgor wneud rhagor o waith ar y mater.

 

Yn sgil hyn cytunodd yr Aelodau i gau'r ddeiseb a diolch i'r deisebydd am godi ymwybyddiaeth o’r mater.

 

Gellir gweld manylion llawn ynghylch trafodaeth y Pwyllgor o'r ddeiseb hon a'r dogfennau cysylltiedig ar y tab Cyfarfodydd uchod.

Cafodd ei thrafod gyntaf gan y Pwyllgor Deisebau ar 06/02/2023

 

 

Etholaeth a Rhanbarth y Senedd

  • Gorllewin Caerdydd
  • Canol De Cymru

 

Rhagor o wybodaeth

 

 

 

Math o fusnes: Deiseb

Rheswm dros ei ystyried: Busnes y Senedd;

Statws: I'w ystyried

Cyhoeddwyd gyntaf: 17/01/2023