P-06-1304 Adolygu'r polisi tai dros dro mewn argyfwng sy'n effeithio ar ein cymunedau

P-06-1304 Adolygu'r polisi tai dros dro mewn argyfwng sy'n effeithio ar ein cymunedau

Wedi'i gwblhau

 

Cyflwynwyd y ddeiseb hon gan Richard Grabham, ar ôl casglu cyfanswm o 306 lofnodion.

 

Geiriad y ddeiseb:       

Mae cymuned Thomastown yn Nhonyrefail wedi dioddef oherwydd bod yr awdurdod lleol yn defnyddio llety gwely a brecwast yng nghanol y gymuned fel llety dros dro mewn argyfwng. Er bod yr awdurdod lleol yn mynnu bod y rhai sy’n cael eu gosod yma yn cael asesiad risg, mae’r gymuned wedi dioddef yn sgil ymddygiad gwrthgymdeithasol, bygythiadau, trais a delio cyffuriau. Mae’r gymuned wedi’i siomi gan yr awdurdod lleol a hoffai adolygiad o’r gweithdrefnau sydd ar waith i atal hyn rhag digwydd eto.

 

Gwybodaeth Ychwanegol:

Mae’r awdurdod lleol wedi lleoli pobl ddigartref yno yn fuan wedi iddynt gael eu rhyddhau o’r carchar. Mae’r gymuned wedi brwydro ers nifer o flynyddoedd i atal y cyngor rhag defnyddio’r llety gwely a brecwast ar gyfer cyn-garcharorion. Mae pobl leol wedi bod yn dyst i nifer o achosion o ymddygiad gwrthgymdeithasol dros y blynyddoedd, sy’n achosi pryder difrifol i’r gymuned ac yn cael effaith negyddol ar eu bywydau.

Hefyd, nid oes trefniadau diogelwch ar waith, na rhwydwaith diogelwch i’r preswylwyr.

Nid yw’r gymuned eisiau i hyn ddigwydd eto ac mae’n galw am adolygiad llawn o’r gweithdrefnau a’r polisïau ar gyfer lleoli pobl ddigartref mewn llety dros dro mewn argyfwng mewn cymunedau lle nad oes cymorth priodol ar waith i gefnogi’r preswylwyr y mae’r awdurdod lleol yn eu lleoli yno.

 

 

 

 

Statws

Yn ei gyfarfod ar 05/06/2023 penderfynodd y Pwyllgor Deisebau fod y ddeiseb hon wedi'i chwblhau.

 

Trafododd y Pwyllgor y ddeiseb. Yng ngoleuni'r ymchwiliad manwl a gynhaliwyd gan y Pwyllgor Llywodraeth Leol a Thai yn y maes hwn, yr argymhellion a wnaed ganddynt ac ymateb Llywodraeth Cymru o ran sicrhau bod mwy o gamau ataliol yn cael eu cymryd, a bod cymorth a llety priodol ar gael hefyd, cytunodd yr Aelodau i gau'r ddeiseb a diolch i'r deisebydd.

 

Gellir gweld manylion llawn ynghylch trafodaeth y Pwyllgor o'r ddeiseb hon a'r dogfennau cysylltiedig ar y tab Cyfarfodydd uchod.

Cafodd ei thrafod gyntaf gan y Pwyllgor Deisebau ar 21/11/2022.

 

 

Etholaeth a Rhanbarth y Senedd

  • Pontypridd
  • Canol De Cymru

 

Rhagor o wybodaeth

 

Math o fusnes: Deiseb

Rheswm dros ei ystyried: Busnes y Senedd;

Statws: I'w ystyried

Cyhoeddwyd gyntaf: 25/10/2022