P-06-1323 Gofynnwn i Lywodraeth Cymru brynu Neuadd Dewi Sant fel adnodd cenedlaethol i Gymru

P-06-1323 Gofynnwn i Lywodraeth Cymru brynu Neuadd Dewi Sant fel adnodd cenedlaethol i Gymru

Wedi'i gwblhau

 

Cyflwynwyd y ddeiseb hon gan Ben Herrington, ar ôl casglu cyfanswm o 3,575 lofnodion.

 

Geiriad y ddeiseb:       

Dyma gri o’r galon rhag i bobl Cymru golli adnodd diwylliannol hanfodol. Rydym yn galw ar Lywodraeth Cymru i gamu i’r adwy.

Byddai trosglwyddo’r cyfrifoldeb dros reoli Neuadd Gyngerdd Genedlaethol Cymru i gorff masnachol yn peryglu adnodd sy’n rhan hanfodol a llewyrchus o fywyd cymunedol a diwylliannol Caerdydd ac, yn anochel, yn effeithio ar seilwaith creadigol ehangach Cymru.

 

Gwybodaeth Ychwanegol:

Caiff dros 330 o berfformiadau eu cynnal yn y Neuadd bob blwyddyn, llawer ohonynt yn ennyn sylw cenedlaethol a rhyngwladol, ac yn denu pobl o bob cwr o Gymru ac mae hefyd yn denu canran uwch o ymwelwyr o Loegr nag unrhyw leoliad arall yng Nghymru.

Hon yw’r unig neuadd gyngerdd gerddorfaol yng Nghymru a adeiladwyd yn bwrpasol ar gyfer cerddorfa lawn. Dyma gartref cystadleuaeth Cardiff Singer of the World, Cerddorfa Genedlaethol Cymru a’r Gyfres Cyngherddau Rhyngwladol - ynghyd â pherfformiadau diwylliannol amrywiol gan gynnwys ballet, cerddoriaeth bop/roc, jazz a gwerin a pherfformiadau gan ddigrifwyr.

Mae’r lleoliad yn rhoi cyfle i bobl o bob oed gyfranogi ac ymgysylltu’n greadigol, ac mae’n adnodd cymunedol ac yn adnodd dysgu amhrisiadwy i bobl Caerdydd a Chymru gyfan.

 

Statws

Yn ei gyfarfod ar 13/03/2023 penderfynodd y Pwyllgor Deisebau fod y ddeiseb hon wedi'i chwblhau.

 

Trafododd y Pwyllgor y ddeiseb, ac o ystyried y safbwynt clir a gymerwyd gan Lywodraeth Cymru a phenderfyniad y cyngor yn dilyn ymgynghoriad cyhoeddus i fwrw ymlaen â'i bartneriaeth â Live Nation, cytunodd yr Aelodau i gau'r ddeiseb a diolch i'r deisebydd.

 

Gellir gweld manylion llawn ynghylch trafodaeth y Pwyllgor o'r ddeiseb hon a'r dogfennau cysylltiedig ar y tab Cyfarfodydd uchod.

Cafodd ei thrafod gyntaf gan y Pwyllgor Deisebau ar 06/02/2023.

 

 

Etholaeth a Rhanbarth y Senedd

  • Canol Caerdydd
  • Canol De Cymru

 

Rhagor o wybodaeth

 

Math o fusnes: Deiseb

Rheswm dros ei ystyried: Busnes y Senedd;

Statws: I'w ystyried

Cyhoeddwyd gyntaf: 06/02/2023