P-06-1314 Insiwleiddio holl gartrefi Cymru rhag y gwres a'r oerfel... cyflwyno grantiau sy'n agored i bawb!
P-06-1314 Insiwleiddio holl gartrefi Cymru rhag y gwres a'r oerfel... cyflwyno grantiau sy'n agored i bawb!
Petitions3
Cyflwynwyd y ddeiseb hon gan Robert Curtis, ar ôl casglu 156 o lofnodion
ar-lein ac 123 o lofnodion ar bapur, sef cyfanswm o 279 lofnodion wedi casglu.
Geiriad y ddeiseb:
Gyda chynnydd aruthrol ym mhrisiau ynni a miliynau o deuluoedd yng
Nghymru’n wynebu tlodi tanwydd eithafol, mae’n bryd cyflwyno grantiau, sy'n
agored i bawb, a fyddai'n caniatáu i holl bobl Cymru insiwleiddio eu cartrefi
rhag y gwres a’r oerfel.
Mae'n frawychus bod gan Gymru rai o'r cartrefi â’r inswleiddio gwaethaf yn
Ewrop i gyd. Byddai grant o 25 i 50 y cant tuag at gostau inswleiddio eiddo yn
annog pobl i fuddsoddi i wneud eu cartrefi'n fwy ynni-effeithlon a lleihau eu
hallyriadau.
Gwybodaeth Ychwanegol:
Mae blynyddoedd o danfuddsoddi mewn inswleiddio cartrefi Cymru wedi arwain
at sefyllfa lle mae pobl yn agored i effeithiau’r cynnydd mewn prisiau ynni.
Dyna pam rydym yn galw am gyflwyno grantiau brys sydd ar gael i bawb fel y
gall aelwydydd sy'n wynebu'r posibilrwydd o fod mewn cartrefi oer a llaith y
gaeaf hwn dalu am fesurau inswleiddio syml. Mae angen Bargen Newydd Werdd sy’n
agored i berchnogion tai, landlordiaid a chynghorau a fydd yn sicrhau bod
cartrefi yn gynnes a chyfforddus, yn lleihau allyriadau carbon, ac yn creu
miloedd o swyddi gwyrdd.
Mae gan bawb yr hawl i gartref cynnes, ond eleni gallai miliynau o Gymry
fod mewn sefyllfa lle maent yn gorfod dewis rhwng gwresogi eu cartrefi neu
fwyta...rhaid peidio â chaniatáu i hynny ddigwydd!
Insiwleiddio yw un o'r dulliau mwyaf effeithlon o arbed ynni gan ei fod yn
eich cadw'n gynnes yn y gaeaf ac yn oer yn yr haf.
Dylai’r cwmnïau ynni, sy’n gwneud biliynau o elw pan fo cymaint yn ofni
ynghylch cadw’n gynnes y gaeaf hwn, ddefnyddio eu helw i dalu am raglen
insiwleiddio genedlaethol frys.

Etholaeth a Rhanbarth y Senedd
- Bro Morganwg
- Canol De Cymru
[PetitionFooter]
Math o fusnes: Deiseb
Rheswm dros ei ystyried: Busnes y Senedd;
Statws: I'w ystyried
Cyhoeddwyd gyntaf: 19/12/2022