Agenda a Chofnodion
Lleoliad: Ystafell Bwyllgora 3 - Y Senedd. Cyfarwyddiadau
Cyswllt: Gareth Price
Cyfryngau
Senedd.TV: Gweld y gweddarllediad
Transcript: Trawsgrifiad ar gyfer 10/10/2022 - Y Pwyllgor Deisebau
Rhif | Eitem |
---|---|
Cyflwyniad, ymddiheuriadau, dirprwyon a datgan buddiannau Dogfennau ategol: Cofnodion: Croesawodd y Cadeirydd bawb i’r cyfarfod. Cafwyd ymddiheuriadau gan Jack Sargeant AS a Joel James
AS. Roedd Altaf Hussain AS yn bresennol yn y cyfarfod, yn
dirprwyo ar ran Joel James AS. |
|
Deisebau newydd |
|
P-06-1232 Rhoi terfyn ar sefydlu unedau dofednod dwys trwy ddeddfu a chyflwyno moratoriwm hyd nes y gellir cyflawni hyn Dogfennau ategol:
Cofnodion: Trafododd y Pwyllgor y ddeiseb a chytunodd i ysgrifennu'n
ôl at y Gweinidog i ofyn am y wybodaeth ddiweddaraf am yr uwchgynhadledd a
gynhaliwyd yn y Sioe Frenhinol, a gofyn pa bryd y cynhelir yr ymgynghoriad ar y
nodyn cyngor technegol ar ddatblygiadau amaethyddol. Trafododd y Pwyllgor y ddeiseb a chytunodd i ysgrifennu
at Gyngor Sir Powys i ofyn: ·
sut y maen nhw’n ystyried effaith gronnol unedau dofednod
dwys yn y broses gynllunio ·
am ymateb i’r pryder a godwyd gan y deisebydd ynghylch
diffyg tryloywder pan na chaiff yr holl wybodaeth sy’n ymwneud â’r cais ei
chyhoeddi; ac ·
a oes arolwg amgylcheddol wedi'i
gynnal i ddeall effeithiau'r crynodiad o unedau dofednod dwys ym Mhowys. |
|
P-06-1286 Sicrhau bod triniaeth a sgrinio ar gyfer canser yn parhau yn ystod COVID19 Dogfennau ategol:
Cofnodion: Trafododd y Pwyllgor y ddeiseb a chytunodd y dylai
cleifion yng Nghymru fod yn cael triniaeth gyfartal a sgrinio cyfartal, gan
gytuno i ysgrifennu’n ôl at y Gweinidog i ofyn am unrhyw farn bellach sydd
ganddi ar y mater hwn. |
|
P-06-1289 Dylid cytuno ar ddeiliadaeth o 105 diwrnod, yn hytrach na 182 diwrnod, er mwyn helpu i wahaniaethu rhwng busnesau llety gwyliau ac ail gartrefi Dogfennau ategol:
Cofnodion: Trafododd y Pwyllgor y ddeiseb a nododd y pryderon a
amlygwyd ynghylch rhai busnesau hunanddarpar sy’n cael trafferth cyrraedd y
trothwy o ran meddiannaeth. Fodd bynnag, nododd yr Aelodau fod y ddeddfwriaeth
eisoes mewn grym a bod y mater wedi’i drafod droeon yn y Senedd. Mae’r
Gweinidog wedi gwneud ei barn yn glir fod hyn, bellach, yn fater i awdurdodau
lleol. Cytunodd y Pwyllgor nad oedd llawer mwy y gallent ei wneud a chytunwyd i
gau’r ddeiseb a diolch i’r deisebydd. |
|
P-06-1290 Galluogi trigolion Cymru i gael mynediad at lwybr diagnosis "Hawl i Ddewis" y GIG ar gyfer ADHD Dogfennau ategol:
Cofnodion: Trafododd y Pwyllgor y ddeiseb a nododd fod hwn yn faes
sy'n cael ei archwilio ymhellach gan y Pwyllgor Iechyd a Gofal Cymdeithasol fel
rhan o'i ymchwiliad iechyd meddwl. Cytunodd y Pwyllgor, felly, i ysgrifennu at
y Pwyllgor Iechyd a Gofal Cymdeithasol i dynnu sylw at y materion a godwyd yn y
ddeiseb, cau’r ddeiseb a diolch i’r deisebydd am godi’r mater hwn. |
|
P-06-1292 Gwneud i sefydliadau sector cyhoeddus Cymru adrodd ar allyriadau cwmpas 3 a'u cynnwys mewn targedau sero net Dogfennau ategol:
Cofnodion: Trafododd y Pwyllgor y ddeiseb am y tro cyntaf a
chytunodd i ysgrifennu’n ôl at y Gweinidog i ofyn:
At hynny, cytunodd y Pwyllgor i ysgrifennu at y Pwyllgor
Newid Hinsawdd, Amgylchedd a Seilwaith i dynnu sylw at y ddeiseb hon, yn sgil
eu gwaith ar Sero Net Cymru. |
|
P-06-1293 Dylid darparu cyllid ar gyfer mynediad cyffredinol i Wasanaethau Cyswllt Torri Esgyrn Dogfennau ategol:
Cofnodion: Trafododd y Pwyllgor y ddeiseb a chytunodd i ysgrifennu’n
ôl at y Gweinidog i ofyn sut y mae Llywodraeth Cymru yn safoni'r broses o atal
toriadau eilaidd esgyrn ledled Cymru, gan wneud yn siŵr bod pob Bwrdd Iechyd yn blaenoriaethu’r broses o
gomisiynu Cyswllt Torri Esgyrn o safon – sy’n cael ei ariannu’n llawn – a’r
adnoddau sydd ar gael i ddiwallu anghenion eu poblogaeth. |
|
P-06-1294 Peidiwch â gadael cleifion â chanser y fron metastatig yng Nghymru ar ôl Dogfennau ategol:
Cofnodion: Nododd y Pwyllgor y ddeiseb a chanmolodd ymroddiad a
dewrder y deisebwyr i ymgyrchu dros welliannau, a chodi ymwybyddiaeth o’r
cyflwr dinistriol hwn sy’n cyfyngu ar fywyd. Cytunodd yr Aelodau i ysgrifennu
at y Pwyllgor Busnes i ofyn am ddadl yn y Cyfarfod Llawn cyn gynted â phosibl. |
|
P-06-1295 Dylid cynnal arolwg cyhoeddus ar leihau'r terfyn cyflymder diofyn CYN iddo ddod i rym Dogfennau ategol:
Cofnodion: Trafododd y Pwyllgor y ddeiseb ac er i'r aelodau nodi
rhwystredigaeth bersonol y deisebwyr, nodwyd bod y ddeddfwriaeth yn caniatáu i
awdurdodau lleol ddiwygio'r terfyn cyflymder cenedlaethol rhagosodedig o 20mya
i adlewyrchu amgylchiadau lleol. Yng ngoleuni hyn, cytunodd yr aelodau i
ddiolch i'r deisebydd, cau'r ddeiseb ac awgrymu bod y deisebydd bellach yn
cysylltu â'i awdurdod lleol. |
|
Y wybodaeth ddiweddaraf am ddeisebau blaenorol |
|
P-06-1163 Dylid ymestyn y fwrsariaeth STEMM ôl-raddedig i bob myfyriwr MSc yng Nghymru Dogfennau ategol: Cofnodion: Trafododd y Pwyllgor y ddeiseb a chytunodd i ohirio
ystyried y ddeiseb ymhellach nes bod Cadeirydd y Pwyllgor, Jack Sargeant AS, yn
bresennol o ystyried ei ddiddordeb blaenorol yn y maes pwnc hwn. |
|
P-06-1218 Hysbysu pob person 18 oed sydd wedi derbyn gofal cymdeithasol fod ganddynt yr hawl i wneud cais am eu gwybodaeth bersonol Dogfennau ategol:
Cofnodion: Trafododd y Pwyllgor y ddeiseb ac, o ystyried y ffaith
bod y Gweinidog wedi ysgrifennu at bob awdurdod lleol, a phenaethiaid
gwasanaethau cymdeithasol yn yr awdurdodau lleol hynny, yn ailadrodd
pwysigrwydd tryloywder i’r rhai sydd mewn gofal a’u gallu i gael mynediad at eu
gwasanaethau preifat. gwybodaeth o’r adeg pan oeddent mewn gofal, cytunodd y
pwyllgor i ddiolch i’r deisebydd am dynnu sylw at y mater hwn a chaeodd y
ddeiseb. |
|
P-06-1228 Talu bonws i athrawon uwchradd am farcio a safoni asesiadau swyddogol haf 2021 Dogfennau ategol:
Cofnodion: Trafododd y Pwyllgor y ddeiseb a nododd fod ymateb y
Gweinidog yn glir nad yw’n bwriadu cyflwyno taliadau, felly cytunodd yr Aelodau
nad oedd llawer mwy y gallent ei wneud ar y mater hwn a chytunwyd i ddiolch i’r
deisebydd a chau’r ddeiseb. Nodwyd y gallai hwn fod yn faes y gallai Aelodau
unigol ddewis parhau i'w amlygu. |
|
P-06-1242 Gwella Gofal Iechyd Endometriosis yng Nghymru Dogfennau ategol:
Cofnodion: Trafododd y Pwyllgor y ddeiseb a chytunodd i ysgrifennu'n
ôl at y Gweinidog i ofyn y cwestiynau a ofynnwyd gan y deisebydd a Thriniaeth
Deg i Ferched, gan gynnwys cynnig y deisebydd i weithio gyda hwy i lywio polisi
yn y dyfodol. At hynny, cytunodd y Pwyllgor i ysgrifennu at y Pwyllgor
Iechyd a Gofal Cymdeithasol i ofyn a oes ganddynt unrhyw gynlluniau i gynnal
unrhyw waith ar y maes hwn. |
|
P-06-1262 Llywodraeth Cymru i gynnal ymchwiliad cyhoeddus i benderfyniadau a wnaed ganddi cyn ac yn ystod y pandemig Dogfennau ategol:
Cofnodion: Trafododd y Pwyllgor y ddeiseb a nododd nad yw’r Prif
Weinidog wedi newid ei farn ar y mater hwn. Cytunodd y Pwyllgor – o ystyried
testun emosiynol y ddeiseb hon – y byddent yn ei gadael yn agored ac yn
dychwelyd ati ymhen blwyddyn. |
|
P-06-1269 Peidiwch â gadael i’r cynllun redeg allan ar gyfer pobl sy’n marw yng Nghymru Dogfennau ategol:
Cofnodion: Trafododd y Pwyllgor y ddeiseb a chytunodd i ysgrifennu'n
ôl at Lywodraeth Cymru i ofyn y cwestiynau dilynol ynghylch capasiti ac
amserlenni a ddarparwyd gan y deisebydd. |
|
P-06-1271 Caffael y tir gan Network Rail lle mae ATR884 yn rhedeg fel llwybr caniataol a threfnu cynnal a chadw Dogfennau ategol:
Cofnodion: Trafododd y Pwyllgor y ddeiseb a nododd fod galwad y
ddeiseb i’r tir gael ei gaffael gan Network Rail i ddatblygu llwybr, bellach yn
mynd rhagddo, gyda thrafodaethau ac archwiliadau o unrhyw faterion cyfreithiol
ac ymgysylltu â rhanddeiliaid yn digwydd hefyd. Cytunodd y Pwyllgor, felly, i
longyfarch y deisebydd a chau'r ddeiseb. |
|
P-06-1272 Gwahardd defnyddio 'cymalau dim anifeiliaid anwes' mewn cytundebau tenantiaeth yng Nghymru. Dogfennau ategol:
Cofnodion: Trafododd y Pwyllgor y ddeiseb a chytunodd i ysgrifennu
at y Pwyllgor Llywodraeth Leol a Thai i ofyn a ellir ystyried y pryderon a
godwyd yn y ddeiseb fel rhan o'u hymchwiliad i ddigartrefedd. At hynny, cytunodd y Pwyllgor i ysgrifennu at y
Gweinidog, er mwyn tynnu sylw at y pryderon nad yw’r rheini sydd heb gytundeb
tenantiaeth yn cael unrhyw amddiffyniad, ac i ofyn pa gamau y mae Llywodraeth
Cymru yn bwriadu eu cymryd i fynd i’r afael â’r mater hwn. |
|
P-06-1274 Rhowch stop ar y camau i amddifadu Trefynwy o’i Cherbyd Ymateb Cyflym Dogfennau ategol:
Cofnodion: Trafododd y Pwyllgor y ddeiseb, gan nodi bod
Ymddiriedolaeth Gwasanaethau Ambiwlans Cymru yn glir ynghylch y gwaith sydd
wedi’i wneud i fodelu’r gwasanaeth o fewn yr adnoddau sydd ar gael, a thra bod
y deisebwyr yn herio’r data a ddefnyddir ar gyfer y gwaith hwn ac yn tynnu sylw
at y risg o golli cerbyd ymateb cyflym yn Sir Fynwy, bu cyfathrebu agored, gan
gynnwys cyfarfod. Daeth y Pwyllgor i’r casgliad nad oedd yn glir pa gamau
pellach y gellid eu cymryd a chytunwyd i gau’r ddeiseb. |
|
Cynnig o dan Reol Sefydlog Rhif 17.42(ix) i benderfynu gwahardd y cyhoedd o weddill y cyfarfod Cofnodion: Derbyniwyd y cynnig. |