P-06-1293 Dylid darparu cyllid ar gyfer mynediad cyffredinol i Wasanaethau Cyswllt Torri Esgyrn
P-06-1293 Dylid darparu cyllid ar gyfer mynediad cyffredinol i Wasanaethau Cyswllt Torri Esgyrn
Cyflwynwyd y ddeiseb hon gan Delyth Evans MBE, ar ôl casglu 401 lofnodion
ar-lein ac 30 lofnodion ar bapur, sef cyfanswm o 431 lofnodion.
Geiriad y ddeiseb:
Dylai Llywodraeth Cymru ymrwymo i ddarparu Gwasanaethau Cyswllt Torri
Esgyrn cant y cant ledled y wlad, gyda sicrwydd ansawdd. Gwasanaethau Cyswllt
Torri Esgyrn yw'r safon fyd-eang ar gyfer trin osteoporosis ac atal toriadau esgyrn,
ond mae mynediad at y gwasanaethau yn loteri cod post. Goblygiadau hyn yw y
bydd miloedd o bobl sy'n byw ar ochr anghywir llinell ddalgylch yn dioddef
toriadau asgwrn cefn a chlun sy'n newid eu bywydau. Gall Llywodraeth Cymru
drawsnewid y sefyllfa drwy osod cyfeiriad strategol clir o’r brig, gyda
chymorth cyllid cymedrol ar gyfer Gwasanaethau Cyswllt Torri Esgyrn a
chymhellion synhwyrol.
Gwybodaeth Ychwanegol:
Mae toresgyrn (esgyrn wedi torri) a achosir gan osteoporosis yn un o'r
bygythiadau mwyaf difrifol i fyw'n dda yn ddiweddarach mewn bywyd. O'i adael
heb ei drin, mae osteoporosis yn bygwth ein rhyddid, ein hurddas, ein hansawdd
bywyd a'n hannibyniaeth. Gyda diagnosis cynnar a’r driniaeth gywir, gall pobl
sydd ag osteoporosis fyw’n dda, o gael meddyginiaethau diogel ac effeithiol
sy’n hynod fforddiadwy i’r GIG. Ond o ganlyniad i golli cyfleoedd o ran
diagnosis ac ymyrraeth gynnar mae miloedd o bobl ledled Cymru yn colli’r cyfle
i gael y feddyginiaeth cryfhau esgyrn sydd ei hangen arnynt. Mewn cais Rhyddid
Gwybodaeth diweddar, canfu’r Gymdeithas Osteoporosis Frenhinol (ROS) mai dim
ond pedwar allan o saith Bwrdd Iechyd a allai gadarnhau bod ganddynt
Wasanaethau Cyswllt Torri Esgyrn (ac nid yw pob un o’r rhain yn cwmpasu’r
boblogaeth gyfan). Mae'r Gymdeithas Osteoporosis yn amcangyfrif y byddai
cynyddu'r ddarpariaeth Gwasanaethau Cyswllt Torri Esgyrn ar gyfer Cymru gyfan
yn costio tua £2 filiwn y flwyddyn. Dros y pum mlynedd nesaf, byddai hyn yn
arbed tua £25 miliwn i’r GIG a’r gwasanaethau gofal cymdeithasol, yn atal dros
1,200 o achosion o dorri clun, ac yn rhyddhau dros 34,000 o ddyddiau o ran
gwelyau mewn ysbytai acíwt.
Statws
Yn ei gyfarfod ar 05/12/2022 penderfynodd y Pwyllgor
Deisebau fod y ddeiseb hon wedi'i chwblhau.
Trafododd y Pwyllgor y ddeiseb. O gofio bod y Gweinidog
bellach wedi egluro’r gwaith sy’n cael ei wneud i wella mynediad at wasanaethau
Cyswllt Torri Esgyrn ledled Cymru ac nid oes gan y deisebydd unrhyw sylwadau
i’w hychwanegu, cytunodd y Pwyllgor i gau’r ddeiseb a diolch i’r deisebydd am
dynnu sylw at y pryder hwn.
Gellir gweld manylion llawn ynghylch trafodaeth y
Pwyllgor o'r ddeiseb hon a'r dogfennau cysylltiedig ar y tab Cyfarfodydd uchod.
Cafodd ei thrafod gyntaf gan y Pwyllgor Deisebau ar 10/10/2022.
Etholaeth a Rhanbarth y Senedd
- Dwyrain Caerfyrddin a Dinefwr
- Canolbarth a Gorllewin Cymru
Math o fusnes: Deiseb
Rheswm dros ei ystyried: Busnes y Senedd;
Statws: I'w ystyried
Cyhoeddwyd gyntaf: 08/09/2022