P-06-1292 Gwneud i sefydliadau sector cyhoeddus Cymru adrodd ar allyriadau cwmpas 3 a'u cynnwys mewn targedau sero net
P-06-1292 Gwneud i sefydliadau sector cyhoeddus Cymru adrodd ar allyriadau cwmpas 3 a'u cynnwys mewn targedau sero net
Cyflwynwyd y ddeiseb hon gan Dylan Clarke, ar ôl casglu cyfanswm o 339
lofnodion.
Geiriad y ddeiseb:
Cynnwys yr holl allyriadau sy’n gysylltiedig â buddsoddiadau sector
cyhoeddus yn nhargedau datgarboneiddio Llywodraeth Cymru a’i gwneud yn orfodol
i holl sefydliadau sector cyhoeddus Cymru adrodd ar allyriadau buddsoddiadau
(cwmpas 3).
Nod awdurdodau lleol yw sero net erbyn 2030, ond maent yn buddsoddi mewn
cwmnïau sy’n bwriadu echdynnu tanwyddau ffosil am ddegawdau.
Nid yw’n ofynnol ar hyn o bryd i sefydliadau sector cyhoeddus Cymru adrodd
ar allyriadau sy’n gysylltiedig â buddsoddiadau! Mae’n rhaid cael gwared ar y
ddihangfa hon.
Gwybodaeth Ychwanegol:
Esboniad cryno o allyriadau cwmpas 3.
Cwmpas 1 – allyriadau uniongyrchol o ffynonellau y mae sefydliad sector
cyhoeddus yn berchen arnynt neu’n eu rheoli.
Cwmpas 2 – allyriadau anuniongyrchol o drydan, ager, gwres ac awyru a
brynir.
Cwmpas 3 – yr holl allyriadau eraill sy’n gysylltiedig â gweithgareddau
sefydliad, gan gynnwys buddsoddiadau mewn cwmnïau tanwydd ffosil.
Mae cynnwys rhai allyriadau cwmpas 3 o fen y ffin weithredol ond eithrio
allyriadau yn anghyson â chyflawni sero net gwirioneddol erbyn 2030 ac yn
tanseilio ymdrechion datgarboneiddio’r Llywodraeth. Gweler tudalen 14, tabl 3
yma.
Drwy gynnwys pensiynau a buddsoddiadau yn nhargedau’r Llywodraeth, bydd gan
y sector cyhoeddus yr hyblygrwydd i benderfynu eu hunain beth i’w wneud am yr
allyriadau cwmpas 3 anuniongyrchol hyn heb eu hanwybyddu.
Statws
Yn ei gyfarfod ar 05/12/2022 penderfynodd y Pwyllgor
Deisebau fod y ddeiseb hon wedi'i chwblhau.
Trafododd y Pwyllgor y ddeiseb a nododd fod y Pwyllgor
Newid Hinsawdd, Amgylchedd a Seilwaith bellach wedi dechrau darn o waith ar
ddatgarboneiddio’r sector cyhoeddus. Oherwydd y gwaith sydd eisoes ar y gweill
yn y maes hwn, cytunodd y Pwyllgor i gau’r ddeiseb a diolch i’r deisebydd.
Gellir gweld manylion llawn ynghylch trafodaeth y Pwyllgor o'r ddeiseb hon
a'r dogfennau cysylltiedig ar y tab Cyfarfodydd uchod.
Cafodd ei thrafod gyntaf gan y Pwyllgor Deisebau ar 10/10/2022.
Etholaeth a Rhanbarth y Senedd
- Dwyfor Meirionnydd
- Canolbarth a Gorllewin Cymru
Math o fusnes: Deiseb
Rheswm dros ei ystyried: Busnes y Senedd;
Statws: I'w ystyried
Cyhoeddwyd gyntaf: 31/08/2022