P-06-1262 Llywodraeth Cymru i gynnal ymchwiliad cyhoeddus i benderfyniadau a wnaed ganddi cyn ac yn ystod y pandemig
P-06-1262 Llywodraeth Cymru i gynnal ymchwiliad cyhoeddus i benderfyniadau a wnaed ganddi cyn ac yn ystod y pandemig

Cyflwynwyd y ddeiseb hon gan Anna-Louise Marsh-Rees, ar ôl casglu cyfanswm
o 2,116 lofnodion.
Geiriad y ddeiseb:
Cafodd llawer o anwyliaid eu heintio â COVID-19 mewn ysbytai a chartrefi
gofal yng Nghymru. Roedd cyfarpar diogelu personol yn brin, ni phrofwyd staff
oni bai iddynt ddangos symptomau COVID, roedd y camau a gymerwyd i awyru
ystafelloedd yn ddiffygiol, a rhoddwyd cleifion COVID ar wardiau nad oeddent
wedi’u bwriadu ar eu cyfer. Anfonwyd llawer o gleifion adref heb iddynt gael eu
hailbrofi; aethant ymlaen i ledaenu’r haint yn y gymuned cyn iddynt farw. Roedd
hysbysiadau ‘na cheisier dadebru’ yn gysylltiedig â nifer o gleifion heb
ymgynghoriad. Roedd cyfathrebu'n wael os oedd yn digwydd o gwbl. Yn bendant, ni
ddysgwyd y gwersi perthnasol. Dylid craffu yng Nghymru ar y penderfyniadau a
wnaed yng Nghymru a effeithiodd ar bobl Cymru.
Gwybodaeth Ychwanegol:
Fel y mae'r Prif Weinidog wedi nodi'n glir drwy gydol y pandemig, cafodd y
penderfyniadau ar reolau COVID-19 yng Nghymru eu gwneud yng Nghymru. Mae’r Prif
Weinidog wedi bod yn awyddus i dynnu sylw at wahaniaethau sy’n aml yn
arwyddocaol rhwng y rheolau yng Nghymru a Lloegr.
Byddai cynnal ymchwiliad penodol i Gymru yn gyfle am adolygiad annibynnol i
archwilio a ellid fod wedi atal marwolaethau yng Nghymru.
Mae Llywodraeth Cymru yn haeddu cael ei chraffu'n llawn - nid ei thrin fel
troednodyn mewn ymchwiliad gan Lywodraeth y DU.

Etholaeth a Rhanbarth y Senedd
- Mynwy
- Dwyrain De Cymru
Rhagor o wybodaeth
Math o fusnes: Deiseb
Rheswm dros ei ystyried: Busnes y Senedd;
Statws: I'w ystyried
Cyhoeddwyd gyntaf: 22/03/2022