P-06-1274 Rhowch stop ar y camau i amddifadu Trefynwy o'i Cherbyd Ymateb Cyflym
P-06-1274 Rhowch stop ar y camau i amddifadu Trefynwy o'i Cherbyd Ymateb Cyflym
Cyflwynwyd y ddeiseb hon gan Lorraine Allman, ar ôl casglu 103 llofnodion
ar-lein, a 3,208 ar bapur, sef cyfanswm o 3,311 lofnodion.
Geiriad y ddeiseb:
Mae Ymddiriedolaeth GIG Gwasanaethau Ambiwlans Cymru yn ystyried mynd â’r
Cerbyd Ymateb Cyflym o orsaf ambiwlansys Trefynwy, gan adael UN ambiwlans yn
unig ar gyfer yr ardal. Bydd gwneud hyn yn arwain at amseroedd ymateb hirach.
Cafodd Cerbydau Ymateb Cyflym eu cyflwyno am eu bod yn gallu cyrraedd cleifion
sy’n gritigol, sydd mewn mannau diarffordd, sy’n sâl, ac sydd wedi’u hanafu yn
gyflym er mwyn lleddfu poen a dioddefaint ac achub bywydau. Nid yw hynny wedi
newid, ac mae’r ffaith bod poblogaeth yr ardal yn cynyddu yn golygu bod angen
mwy o adnoddau, nid llai.
Gwybodaeth Ychwanegol:
Mae data'r Cyfrifiad ar gyfer ardal Trefynwy’n dangos cynnydd o flwyddyn i
flwyddyn yn ffigurau’r boblogaeth yno.
Gofynnwyd am ddata o dan y Ddeddf Rhyddid Gwybodaeth i ganfod sawl gwaith y
mae’r Cerbyd Ymateb Cyflym wedi cael ei ddefnyddio bob blwyddyn, ond, yn
seiliedig ar wybodaeth am y gymuned, mae’n debyg ei fod yn cael ei ddefnyddio
bob dydd. Mae gen i hanes personol o rywun yn fy nheulu yn dioddef o waedu
digymell ar yr ymennydd dair blynedd yn ôl yn Nhrefynwy. Y Cerbyd Ymateb Cyflym
oedd y cyntaf i gyrraedd, ac nid oes dwywaith na fyddai’r person hwnnw’n fyw
heddiw hebddo.
Ym mis Mawrth 2012, mewn datganiad, dywedodd Stuart Fletcher, Cadeirydd yr
Ymddiriedolaeth Ambiwlans ar y pryd: "I believe that they provide a very
rapid response which allows immediate life saving first aid to be applied until
the arrival of the ambulance".
Ar ôl i wasanaethau gofal iechyd yn sir Fynwy gael eu hisraddio yn ddiweddar,
fel y gwasanaethau damweiniau ac achosion brys yn ysbyty Nevill Hall, a’r Fenni
bellach yn gweithredu fel uned mân anafiadau yn unig, ni allwn ganiatáu i
adnoddau brys yr ardal ddirywio ymhellach.
Statws
Yn ei gyfarfod ar 10/10/2022 penderfynodd y Pwyllgor
Deisebau fod y ddeiseb hon wedi'i chwblhau.
Trafododd
y Pwyllgor y ddeiseb, gan nodi bod Ymddiriedolaeth Gwasanaethau Ambiwlans Cymru
yn glir ynghylch y gwaith sydd wedi’i wneud i fodelu’r gwasanaeth o fewn yr
adnoddau sydd ar gael, a thra bod y deisebwyr yn herio’r data a ddefnyddir ar
gyfer y gwaith hwn ac yn tynnu sylw at y risg o golli cerbyd ymateb cyflym yn
Sir Fynwy, bu cyfathrebu agored, gan gynnwys cyfarfod. Daeth y Pwyllgor i’r
casgliad nad oedd yn glir pa gamau pellach y gellid eu cymryd a chytunwyd i
gau’r ddeiseb.
Gellir
gweld manylion llawn ynghylch trafodaeth y Pwyllgor o'r ddeiseb hon a'r
dogfennau cysylltiedig ar y tab Cyfarfodydd uchod.
Cafodd
ei thrafod gyntaf gan y Pwyllgor Deisebau ar 23/05/2022.
Etholaeth a Rhanbarth y Senedd
- Mynwy
- Dwyrain De Cymru
Math o fusnes: Deiseb
Rheswm dros ei ystyried: Busnes y Senedd;
Statws: I'w ystyried
Cyhoeddwyd gyntaf: 29/04/2022