P-06-1290 Galluogi trigolion Cymru i gael mynediad at lwybr diagnosis "Hawl i Ddewis" y Gwasanaeth Iechyd Gwladol ar gyfer ADHD

P-06-1290 Galluogi trigolion Cymru i gael mynediad at lwybr diagnosis "Hawl i Ddewis" y Gwasanaeth Iechyd Gwladol ar gyfer ADHD

Wedi'i gwblhau

 

Cyflwynwyd y ddeiseb hon gan Sienna-Mae Jade Yates, ar ôl casglu cyfanswm o 383 lofnodion.

 

Geiriad y ddeiseb:

Yn wahanol i Loegr, ar hyn o bryd nid oes "Hawl i Ddewis" yng Nghymru o ran galluogi unigolion i ddewis yr ysbyty neu'r gwasanaeth lle’r hoffent gael eu triniaeth GIG. Mae’r Hawl i Ddewis o fewn gwasanaethau iechyd meddwl yn Lloegr wedi bod ar waith ers 2018, gan roi’r cyfle i oedolion sy’n ceisio asesiad ar gyfer ADHD ddewis darparwr arall pe baent yn penderfynu bod yr amser aros am eu hasesiad GIG yn rhy hir. Gwahaniaethir yn erbyn trigolion Cymru am fod yng Nghymru.

 

Gwybodaeth Ychwanegol:

Gall rhestrau aros y GIG ar gyfer ADHD fod yn hir. Mae mwy o oedolion nag erioed o'r blaen yn ceisio asesiad ar gyfer cyflwr sy'n aml yn cael ei anwybyddu gan weithwyr proffesiynol clinigol, a’i ystyried yn rhywbeth nad yw'n cael ei ganfod ymhlith oedolion. Yn ogystal, mae unigolion sy'n ceisio asesiad ADHD yn aml yn wynebu meddygon teulu nad oes ganddynt ddealltwriaeth gyfoes o'r gwahanol ffyrdd y gall ADHD oedolion ymddangos mewn menywod o gymharu â dynion. O ganlyniad, mae ADHD yn aml yn cael ei gamddehongli fel cyflwr iechyd meddwl arall fel Anhwylder Personoliaeth Ffiniol, Gorbryder neu Iselder. Mae oedolion sydd ag ADHD heb ddiagnosis mewn mwy o berygl o golli eu swydd, cael perthynas sy’n chwalu, ymddwyn mewn modd peryglus fel goryrru a chamddefnyddio sylweddau.

 

https://www.adhd-360.com/right-to-choose/ 

 

https://www.england.nhs.uk/mental-health/making-choice-work-in-mental-health/ 

 

https://www.walesonline.co.uk/news/uk-news/what-its-like-living-adhd-20911024  

 

https://www.walesonline.co.uk/news/wales-news/autism-diagnosis-in-adults-uk-21297752.

 

Llun o Stethoscope

 

 

Statws

Yn ei gyfarfod ar 10/10/2022 penderfynodd y Pwyllgor Deisebau fod y ddeiseb hon wedi'i chwblhau.

 

Trafododd y Pwyllgor y ddeiseb a nododd fod hwn yn faes sy'n cael ei archwilio ymhellach gan y Pwyllgor Iechyd a Gofal Cymdeithasol fel rhan o'i ymchwiliad iechyd meddwl. Cytunodd y Pwyllgor, felly, i ysgrifennu at y Pwyllgor Iechyd a Gofal Cymdeithasol i dynnu sylw at y materion a godwyd yn y ddeiseb, cau’r ddeiseb a diolch i’r deisebydd am godi’r mater hwn.

 

Gellir gweld manylion llawn ynghylch trafodaeth y Pwyllgor o'r ddeiseb hon a'r dogfennau cysylltiedig ar y tab Cyfarfodydd uchod.

 

Cafodd ei thrafod gyntaf gan y Pwyllgor Deisebau ar 10/10/2022.

 

 

Etholaeth a Rhanbarth y Senedd

  • Bro Morgannwg
  • Canol De Cymru

 

Rhagor o wybodaeth

Math o fusnes: Deiseb

Rheswm dros ei ystyried: Busnes y Senedd;

Statws: I'w ystyried

Cyhoeddwyd gyntaf: 17/08/2022