P-06-1286 Sicrhau bod triniaeth a sgrinio ar gyfer canser yn parhau yn ystod COVID19

P-06-1286 Sicrhau bod triniaeth a sgrinio ar gyfer canser yn parhau yn ystod COVID19

Wedi'i gwblhau

 

Cyflwynwyd y ddeiseb hon gan Ellie-may Sharpe, ar ôl casglu cyfanswm o 50 lofnodion.

 

Geiriad y ddeiseb:       

Er mwyn sicrhau bod pawb sy’n cael trafferth gyda chanser yn cael triniaeth amserol ac yn cael cyfle cyfartal i frwydro canser lle bynnag maent yn byw yng Nghymru. Mae hefyd yn hanfodol i gefnogi teuluoedd sydd ag aelodau o’r teulu â chanser.

 

Gwybodaeth Ychwanegol:

Rydym am i’r ddeiseb hon fynd ymhell a chyrraedd teuluoedd sy’n cael trafferth ac er mwyn darparu adnoddau a chyfleusterau i bobl.

 

 

A picture containing indoor, floor, standing, person

Description automatically generated

 

 

Statws

Yn ei gyfarfod ar 27/03/2023 penderfynodd y Pwyllgor Deisebau fod y ddeiseb hon wedi'i chwblhau.

 

Trafododd y Pwyllgor y ddeiseb ac, o ystyried bod y Cynllun Gwella Canser wedi’i gyhoeddi, a bod hwn yn cydnabod yr heriau sy’n ein hwynebu ac yn rhoi pwyslais ar wella, cytunodd yr aelodau i gau’r ddeiseb.

 

Gellir gweld manylion llawn ynghylch trafodaeth y Pwyllgor o'r ddeiseb hon a'r dogfennau cysylltiedig ar y tab Cyfarfodydd uchod.

Cafodd ei thrafod gyntaf gan y Pwyllgor Deisebau ar 10/10/2022.

 

 

Etholaeth a Rhanbarth y Senedd

  • Caerffili
  • Dwyrain De Cymru

 

Rhagor o wybodaeth

Math o fusnes: Deiseb

Rheswm dros ei ystyried: Busnes y Senedd;

Statws: I'w ystyried

Cyhoeddwyd gyntaf: 21/06/2022