Agenda a Chofnodion
Lleoliad: Ystafell Bwyllgora 3 - Y Senedd. Cyfarwyddiadau
Cyswllt: Gareth Price
Cyfryngau
Senedd.TV: Gweld y gweddarllediad
Transcript: Trawsgrifiad ar gyfer 23/05/2022 - Y Pwyllgor Deisebau
Rhif | Eitem |
---|---|
Cyflwyniad, ymddiheuriadau, dirprwyon a datgan buddiannau Dogfennau ategol: Cofnodion: Croesawodd y Cadeirydd bawb i’r cyfarfod. Ni chafwyd
unrhyw ymddiheuriadau. Datganodd Luke Fletcher ei fod yn aelod o Achub Milgwn
Cymru. |
|
Sesiwn dystiolaeth - P-06-1253 Gwahardd rasio milgwn yng Nghymru Vanessa Waddon,
Hope Rescue Alain Thomas,
Achub Milgwn Cymru Alex Nilan,
Almost Home Dog Rescue Cofnodion: Clywodd y Pwyllgor dystiolaeth gan Vanessa Waddon,
sylfaenydd Hope Rescue, Alain Thomas, sylfaenydd Achub Milgwn Cymru, ac Alex
Nilan, Cadeirydd Almost Home Dog Rescue. |
|
Deisebau newydd |
|
P-06-1252 Galw ar Lywodraeth Cymru i beidio brechu plant 12 oed ac iau yn erbyn COVID-19 Dogfennau ategol:
Cofnodion: Trafododd y Pwyllgor y ddeiseb a nodwyd yr ymateb gan
Lywodraeth Cymru a chyngor y Cyd-bwyllgor ar Imiwneiddio a Brechu, Sefydliad
Iechyd y Byd a’r Canolfan Ewropeaidd ar gyfer Rheoli Clefydau, gan gytuno i
ddiolch i'r deisebydd a chau'r ddeiseb. |
|
P-06-1270 Gwnewch Hydref 21ain yn Ddiwrnod Coffa swyddogol i'r rhai a laddwyd ac a effeithiwyd gan Drychineb Aberfan. Dogfennau ategol:
Cofnodion: Trafododd y Pwyllgor y ddeiseb a chytunwyd i ysgrifennu’n
ôl at Lywodraeth Cymru i ofyn iddi ystyried ymhellach y cais am ddiwrnod cofio
neu ddiwrnod coffa ar gyfer y rhai a laddwyd mewn trychinebau diwydiannol a
thrychinebau mwyngloddio yn hytrach na gŵyl banc
ddynodedig. |
|
P-06-1273 Lleihau amseroedd aros am ambiwlansys ac mewn adrannau Damweiniau ac Achosion Brys yn ddirfawr Dogfennau ategol:
Cofnodion: Trafododd y Pwyllgor y ddeiseb a nodwyd yr amgylchiadau
anodd a arweiniodd at y ddeiseb hon, a’r ffaith druenus nad yw'r profiad yn
unigryw i'r deisebydd. Nododd y Pwyllgor fod y Pwyllgor Iechyd a Gofal
Cymdeithasol wedi cynnal ymchwiliad yn ddiweddar i amseroedd aros mewn ysbytai
ac amseroedd aros ambiwlansys. Felly, cytunodd y Pwyllgor i gadw llygad ar y
ddeiseb wrth aros i'r adroddiad Iechyd a Gofal Cymdeithasol gael ei gyhoeddi ac
i Llywodraeth Cymru ymateb. |
|
P-06-1274 Rhowch stop ar y camau i amddifadu Trefynwy o’i Cherbyd Ymateb Cyflym Dogfennau ategol:
Cofnodion: Trafododd y Pwyllgor y ddeiseb a chytunwyd i ysgrifennu at Ymddiriedolaeth
GIG Gwasanaethau Ambiwlans Cymru i ofyn am ymateb i’r materion a amlygwyd gan y
deisebydd, i ganfod a ystyriwyd yr holl ddata perthnasol a sut yr ymgynghorwyd
â darparwyr iechyd lleol a gwasanaethau brys fel rhan o'r gwaith hwn. |
|
P-06-1275 Galw ar y Llywodraeth i ail-ystyried eu penderfyniad i dynnu nôl o gynllun ffordd osgoi Llanbedr Dogfennau ategol:
Cofnodion: Trafododd y Pwyllgor y ddeiseb a chytunwyd i gadw llygad
arni wrth aros i gynllun newydd gael ei gyhoeddi yn dilyn yr Adolygiad Ffyrdd. |
|
P-06-1277 Achub yr Adran Damweiniau ac Achosion Brys. Rhaid i Ysbyty Cyffredinol Llwynhelyg gadw gofal brys 24 awr, 7 diwrnod yr wythnos, dan arweiniad meddyg ymgynghorol Dogfennau ategol: Cofnodion: Trafododd y Pwyllgor y ddeiseb a chytunwyd i ysgrifennu
at Bwyllgor Busnes y Senedd i ofyn am ddadl yn y Cyfarfod Llawn. |
|
Y wybodaeth ddiweddaraf am ddeisebau blaenorol |
|
P-05-924 Sicrhau bod Llysgenhadon Llesiant ym mhob ysgol yng Nghymru Dogfennau ategol: Cofnodion: Cyn y cyfarfod, gwyliodd y Pwyllgor fideo gan y
llysgenhadon llesiant, a oedd wedi ymweld â’r Senedd yn ddiweddar. Trafododd y
Pwyllgor y ddeiseb a chytunwyd i ysgrifennu’n ôl at Lywodraeth Cymru i ofyn a
fu unrhyw ddatblygiadau pellach ers mis Tachwedd 2019, ac yn benodol ynghylch a
yw’r canllawiau gwrth-fwlio a’r fframwaith dull ysgol gyfan ar waith. |
|
P-05-1106 Cyflwyno cyllidebau iechyd personol a gofal personol yng Nghymru Dogfennau ategol:
Cofnodion: Trafododd y Pwyllgor y ddeiseb a chytunwyd i ysgrifennu
at Lywodraeth Cymru yn mynegi pryder ynghylch y methiant i sicrhau annibyniaeth
unigolion a rheolaeth dros eu darpariaeth gofal. Cytunodd y Pwyllgor hefyd i
ofyn iddi:
|
|
P-06-1213 Dylid gwahardd defnydd hamdden o Seadoo/sgïo jet yng Nghymru. Ac eithrio mewn ardaloedd dynodedig a reolir yn llym Dogfennau ategol:
Cofnodion: Trafododd y Pwyllgor y ddeiseb a chytunwyd i gadw llygad
ar y ddeiseb wrth aros i ganfyddiadau ymgynghoriad y DU gael eu cyhoeddi ynghylch
a ddylai'r mathau hyn o gychod fod o fewn cwmpas darpariaethau'r Ddeddf Llongau
Masnachol. |
|
P-06-1240 Gwella gwasanaethau iechyd i bobl ag epilepsi sy'n byw yng Nghymru Dogfennau ategol:
Cofnodion: Trafododd y Pwyllgor y ddeiseb a chytunwyd i ysgrifennu'n
ôl at y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol i ofyn sut y mae
Llywodraeth Cymru yn monitro bod gan bob bwrdd iechyd lefel briodol o gymorth
angenrheidiol. Hefyd, cytunodd y Pwyllgor i ysgrifennu at bob Bwrdd
Iechyd yng Nghymru i ofyn pa wasanaethau ac adnoddau sydd ar gael i ddiwallu
anghenion pobl ag epilepsi, ac a oes unrhyw fylchau o ran gwasanaethau ac
adnoddau ar hyn o bryd. |
|
P-06-1242 Gwella Gofal Iechyd Endometriosis yng Nghymru Dogfennau ategol:
Cofnodion: Trafododd y Pwyllgor y ddeiseb a chytunwyd i ysgrifennu'n
ôl at Lywodraeth Cymru i ofyn am atebion i'r pryderon ac i ofyn cwestiynau
pellach a godwyd gan y deisebydd. Cytunodd y Pwyllgor hefyd y byddai’n
cefnogi’r alwad i godi ymwybyddiaeth o endometriosis ac yn ysgrifennu at
Ymchwil Iechyd a Gofal Cymru a phrifysgolion Cymru i dynnu sylw at fylchau yn y
data er mwyn helpu i wella ansawdd yr ymchwil i endometriosis. |
|
P-06-1243 Adfer sgrinio serfigol i bob tair blynedd Dogfennau ategol: Cofnodion: Trafododd y Pwyllgor y ddeiseb a chytunwyd i gau'r
ddeiseb, gan longyfarch y deisebydd ar dynnu sylw at y mater hynod bwysig hwn,
a thrwy wneud hynny sicrhau bod y ffeithiau'n cael eu hegluro, eu rhannu a'u
hysbysebu'n eang. |
|
P-06-1207 Dechreuwch gyfeirio at ddinasoedd a threfi Cymru yn ôl eu henwau Cymraeg Dogfennau ategol: Cofnodion: Nodwyd y papur. |
|
Cynnig o dan Reol Sefydlog Rhif 17.42(ix) i benderfynu gwahardd y cyhoedd o weddill y cyfarfod Cofnodion: Derbyniwyd y cynnig. |
|
Trafod y dystiolaeth - P-06-1253 Gwahardd rasio milgwn yng Nghymru Cofnodion: Trafododd y Pwyllgor y dystiolaeth a glywyd a chytunwyd y
byddai’n parhau i gymryd tystiolaeth ar y ddeiseb hon. |
|
Trafodaeth ar yr Adroddiad Blynyddol drafft Dogfennau ategol:
Cofnodion: Trafododd y Pwyllgor yr Adroddiad Blynyddol drafft a
chytunwyd i gyhoeddi hwn fel trosolwg o waith y Pwyllgor yn ystod ei flwyddyn
gyntaf. |