P-06-1270 Gwnewch Hydref 21ain yn Ddiwrnod Coffa swyddogol i'r rhai a laddwyd ac a effeithiwyd gan Drychineb Aberfan
Cyflwynwyd y ddeiseb hon gan Claire Davies, ar ôl casglu cyfanswm o 53
lofnodion.
Geiriad y ddeiseb:
Am 9.15 am ddydd Gwener, 21 Hydref, 1966, dechreuodd tomen gwastraff glo
uwchben pentref glofaol Aberfan lithro i lawr y mynydd, gan ddinistrio bwthyn
fferm yn gyntaf a lladd pawb a oedd ynddo. Yna, llithrodd ymhellach tuag at
Ysgol Iau Pantglas, lle’r oedd y plant newydd ddychwelyd i'w dosbarthiadau ar
ôl canu All Things Bright and Beautiful yn eu gwasanaeth boreol. Claddwyd yr
ysgol a thua 20 o dai yn y pentref, gan ladd 144 o bobl, gan gynnwys 116 o
blant ysgol.
Gwybodaeth Ychwanegol:
Ar 26 Hydref 1966, penodwyd tribiwnlys i ymchwilio i achosion trychineb
Aberfan a'r amgylchiadau cysylltiedig. Cadeirydd y tribiwnlys oedd y
bargyfreithiwr a’r Cyfrin Gynghorydd yr Arglwydd Ustus Edmund Davies.
Dyma gasgliadau’r adroddiad:
* Y Bwrdd Glo Cenedlaethol, a’r ffaith nad oedd ganddynt unrhyw fath o
bolisi ar gyfer tomenni glo, oedd yn llwyr gyfrifol am y trychineb.
* Anwybyddwyd rhybuddion niferus am gyflwr peryglus y domen.
* Nid oedd y tomenni wedi cael eu harchwilio erioed ac roedd y Bwrdd Glo yn
ychwanegu atynt yn barhaus a hynny heb unrhyw fath o drefn na chynllun. Roedd y
Bwrdd Glo wedi diystyru’r cyflwr daearegol ansefydlog ac nid oedd wedi gwneud
dim yn dilyn llithriadau llai, blaenorol, a dyma oedd y prif ffactorau a
gyfrannodd at y trychineb.
Ni ddylid anghofio'r bobl ddiniwed hyn a dylent aros yn ein cof am byth.
Dylai'r 21ain o Hydref fod yn Ddiwrnod Coffa cenedlaethol i gofio amdanynt a
sicrhau na fyddant byth yn angof.
Etholaeth a Rhanbarth y Senedd
- Sir Drefaldwyn
- Canolbarth a Gorllewin Cymru
Rhagor o wybodaeth
- Hafan y Pwyllgor Deisebau
- Gweld pob deiseb sydd ar agor
- Gweld pob deiseb mae’r pwyllgor bellach
yn ystyried
- Sut mae proses Ddeisebu yn gweithio
- Briffiau ymchwil deisebau
Math o fusnes: Deiseb
Rheswm dros ei ystyried: Busnes y Senedd;
Statws: I'w ystyried
Cyhoeddwyd gyntaf: 27/04/2022