P-06-1243 Adfer sgrinio serfigol i bob tair blynedd
Cyflwynwyd y ddeiseb hon gan Joanne Stroud, ar ôl casglu cyfanswm o 30,133
lofnodion.
Geiriad y ddeiseb:
Mae’r cyhoeddiad gan Iechyd Cyhoeddus Cymru ar 4 Ionawr 2022 i newid y
cyfnod sgrinio serfigol o bob 3 blynedd i bob 5 mlynedd yn annerbyniol. Ni
chynhaliwyd ymgynghoriad cyhoeddus a mynegwyd dicter, tristwch a phryderon
difrifol am iechyd serfigol menywod Cymru yn dilyn y datganiad.
Rydym yn sylweddoli bod y GIG yng Nghymru o dan bwysau, ond mae hyn yn
ANNERBYNIOL. Ni fyddwn ni, y genedl Gymreig, yn derbyn hyn ac rydym yn eich
annog i wyrdroi’r penderfyniad hwn ar unwaith.
Gwybodaeth Ychwanegol:
Ni fydd y penderfyniad hwn yn arbed arian; bydd yn arwain at oedi o ran dod
o hyd i ganser ac yn sgil hynny bydd y driniaeth yn fwy ffyrnig, hir a chostus
a bydd yn fygythiad i fywydau yn y pen draw.
Nid HPV yw unig achos canser ceg y groth!
Statws
Yn ei gyfarfod ar 23/05/2022 penderfynodd y Pwyllgor
Deisebau fod y ddeiseb hon wedi'i chwblhau.
Trafododd y Pwyllgor y ddeiseb a chytunwyd i gau'r
ddeiseb, gan longyfarch y deisebydd ar dynnu sylw at y mater hynod bwysig hwn,
a thrwy wneud hynny sicrhau bod y ffeithiau'n cael eu hegluro, eu rhannu a'u
hysbysebu'n eang.
Gellir gweld manylion llawn ynghylch trafodaeth y
Pwyllgor o'r ddeiseb hon a'r dogfennau cysylltiedig ar y tab Cyfarfodydd uchod.
Cafodd ei thrafod gyntaf gan y Pwyllgor Deisebau ar
10/01/2022.
Etholaeth a Rhanbarth y Senedd
- Aberafan
- Gorllewin De Cymru
Rhagor o wybodaeth
Math o fusnes: Deiseb
Rheswm dros ei ystyried: Busnes y Senedd;
Statws: I'w ystyried
Cyhoeddwyd gyntaf: 11/01/2022