P-06-1252 Galw ar Lywodraeth Cymru i beidio brechu plant 12 oed ac iau yn erbyn COVID-19

P-06-1252 Galw ar Lywodraeth Cymru i beidio brechu plant 12 oed ac iau yn erbyn COVID-19

Wedi'i gwblhau

 

Cyflwynwyd y ddeiseb hon gan Richard Taylor, ar ôl casglu cyfanswm o 478 lofnodion.

 

Geiriad y ddeiseb:       

Risg isel y mae plant iach yn ei wynebu o ran COVID-19 ond maent yn wynebu risgiau sy’n hysbys ac nad ydynt yn hysbys o frechiadau COVID-19. Mae digwyddiadau andwyol a marwolaethau prin, ond difrifol, yn cael eu cofnodi ar systemau monitro o amgylch y byd. Mae canllawiau swyddogol yn cael eu diweddaru wrth i’r sgil-effeithiau ddod yn fwy amlwg. Mae rhoi brechiadau COVID-19 i blant iach er mwyn diogelu oedolion yn anfoesol ac yn anghyfiawnadwy. Mae dyletswydd foesol ar y Llywodraeth i weithredu’n ochelgar ac yn gymesur.

 

person holding white ballpoint pen

 

 

Statws

Yn ei gyfarfod ar 23/05/2022 penderfynodd y Pwyllgor Deisebau fod y ddeiseb hon wedi'i chwblhau.

 

Trafododd y Pwyllgor y ddeiseb a nodwyd yr ymateb gan Lywodraeth Cymru a chyngor y Cyd-bwyllgor ar Imiwneiddio a Brechu, Sefydliad Iechyd y Byd a’r Canolfan Ewropeaidd ar gyfer Rheoli Clefydau, gan gytuno i ddiolch i'r deisebydd a chau'r ddeiseb.

 

Gellir gweld manylion llawn ynghylch trafodaeth y Pwyllgor o'r ddeiseb hon a'r dogfennau cysylltiedig ar y tab Cyfarfodydd uchod.

Cafodd ei thrafod gyntaf gan y Pwyllgor Deisebau ar 23/05/2022.

 

 

Etholaeth a Rhanbarth y Senedd

  • Mynwy
  • Dwyrain De Cymru

 

Rhagor o wybodaeth

Math o fusnes: Deiseb

Rheswm dros ei ystyried: Busnes y Senedd;

Statws: I'w ystyried

Cyhoeddwyd gyntaf: 03/03/2022