Agenda a Chofnodion
Lleoliad: Ystafell Bwyllgora 3 - Y Senedd. Cyfarwyddiadau
Cyswllt: Gareth Price
Cyfryngau
Senedd.TV: Gweld y gweddarllediad
Transcript: Trawsgrifiad ar gyfer 10/01/2022 - Y Pwyllgor Deisebau
Amseriad disgwyliedig | Rhif | Eitem |
---|---|---|
(14.00) |
Cyflwyniad, ymddiheuriadau a dirprwyon. Dogfennau ategol: Cofnodion: Croesawodd y Cadeirydd
yr Aelodau i’r cyfarfod. Ni chafwyd unrhyw ymddiheuriadau. |
|
(14.00 - 14.40) |
Sesiwn Dystiolaeth (Panel 1) P-06-1212 Cyfraith Mark Allen – rydym ni am weld gorsafoedd cortyn taflu o amgylch pob safle dŵr agored yng Nghymru Chris Cousens,
RNLI a Chadeirydd Diogelwch Dŵr
Cymru Bleddyn Jones,
Gwasanaeth Tân ac Achub De Cymru ac Aelod o Grŵp Llywio Diogelwch Dŵr Cymru Dogfennau ategol: Cofnodion: Clywodd y
Pwyllgor dystiolaeth gan Chris Cousens, Cadeirydd Diogelwch Dŵr Cymru a Bleddyn Jones o wasanaeth Tân ac
Achub De Cymru ac Aelod o Grŵp
Llywio Diogelwch Dŵr
Cymru. |
|
(14.50 - 15.20) |
Sesiwn Dystiolaeth (Panel 2) P-06-1212 Cyfraith Mark Allen – rydym ni am weld gorsafoedd cortyn taflu o amgylch pob safle dŵr agored yng Nghymru Nikki Kemmery,
Cyfarwyddwr Iechyd a Diogelwch, Dŵr Cymru Paula Steer,
Cyfarwyddwr Iechyd, Diogelwch a Llesiant a Gwasanaethau Ystadau, United
Utilities Dominic Robinson,
Arweinydd Profiad Ymwelwyr, Severn Trent a Hafren Dyfrdwy Cofnodion: Clywodd y
Pwyllgor dystiolaeth gan Nikki Kemmery, Cyfarwyddwr Iechyd a Diogelwch, Dŵr
Cymru, Paula Steer, Cyfarwyddwr Iechyd, Diogelwch a Llesiant a Gwasanaethau
Ystadau, United Utilities, a Dominic Robinson, Arweinydd Profiad Ymwelwyr,
Severn Trent a Hafren Dyfrdwy. |
|
(15.20 - 15.45) |
Deisebau newydd |
|
P-06-1220 Cynyddu'r cyllid sydd ar gael ar gyfer Gwasanaethau Iechyd Menywod, Addysg ac Ymwybyddiaeth Dogfennau ategol:
Cofnodion: Diolchodd y
Pwyllgor i'r deisebydd am godi'r mater pwysig a chytunwyd i gadw golwg ar y
ddeiseb dros yr wythnosau nesaf, yng ngoleuni'r gwaith y mae Llywodraeth
Cymru’n ei wneud ar hyn o bryd. |
||
P-06-1222 Gwahardd barbeciws untro o'n Parciau Cenedlaethol, Gwarchodfeydd Natur Cenedlaethol a thraethau yng Nghymru! Dogfennau ategol:
Cofnodion: Cytunodd y
Pwyllgor i ysgrifennu at y Gwasanaeth Tân ac at Gyfoeth Naturiol Cymru i ofyn
am eu safbwynt ar farbeciws untro. |
||
P-06-1204 Amddiffynnwch bobl Cymru - cymerwch gamau brys ar yr argyfwng tai nawr Dogfennau ategol:
Cofnodion: Mae’n Aelod o’r
Pwyllgor Llywodraeth Leol a Thai yn y Senedd. Cydnabu’r
Pwyllgor y pryderon difrifol a godwyd gan y ddeiseb ynghylch tai fforddiadwy
a’r effaith negyddol ar gymunedau lleol ledled Cymru. O ystyried natur gymhleth
y pryderon hyn, croesawodd y Pwyllgor y ffaith bod y Pwyllgor Llywodraeth Leol
a Thai yn cynnal ymchwiliad manwl i’r maes hwn, a chytunwyd i ysgrifennu at
Gadeirydd y Pwyllgor i ofyn i’r Pwyllgor gynnwys y materion a godwyd yn y
ddeiseb hon fel rhan o'i ymchwiliad. Wrth wneud hynny,
cytunodd y Pwyllgor i gau’r ddeiseb a diolch i’r deisebydd. |
||
P-06-1225 Dylai Cyfoeth Naturiol Cymru orfod cynnal a chyhoeddi arolygon bywyd gwyllt blynyddol cyn cwympo coetir Dogfennau ategol:
Cofnodion: Tynnodd Cadeirydd
y Pwyllgor sylw at y ffaith bod y ddeiseb wedi cael ei chrybwyll yn nadl y
Senedd a gynhaliwyd yn y Cyfarfod Llawn ar 8 Rhagfyr ynghylch amddiffyn
gwiwerod coch. Cytunodd yr
Aelodau i ysgrifennu at y Gweinidog yn gofyn am y wybodaeth ddiweddaraf am amserlen
canllawiau Cyfoeth Naturiol Cymru a’r ddeddfwriaeth y cyfeiriwyd atynt yn y
Cyfarfod Llawn ar 8 Rhagfyr, a chytunwyd hefyd i gau’r ddeiseb ar ôl i lythyr y
Gweinidog ddod i law a chael ei rannu â’r deisebydd. |
||
P-06-1228 Talu bonws i athrawon uwchradd am farcio a safoni asesiadau haf 2021 Dogfennau ategol:
Cofnodion: Cydnabu’r Pwyllgor
ymroddiad a gwaith caled athrawon ledled Cymru sydd wedi gweithio’n ddiflino i
sicrhau bod plant yn parhau i gael mynediad at addysg. Nododd yr Aelodau
nad yw'r Gweinidog yn cynnig unrhyw gydnabyddiaeth ariannol ychwanegol, a
chytunwyd i ysgrifennu at Gymwysterau Cymru i ofyn am ganfyddiadau'r arolwg o’r
cyfnod pennu graddau. |
||
P-06-1229 Cynyddu’r cyllid ar gyfer Clinigau Hunaniaeth Rywedd yng Nghymru Dogfennau ategol:
Cofnodion: Nododd y Pwyllgor
fod y deisebydd yn fodlon ar y cynnydd a adroddwyd ac a fwriedir ar gyfer y
gwasanaeth yn y dyfodol gan Lywodraeth Cymru, felly diolchodd yr Aelodau i'r deisebydd
am dynnu sylw at fater mor bwysig a chaewyd y ddeiseb. |
||
P-06-1230 Mae pob eiliad yn cyfrif: Dylid gosod diffibriliwr ym mhob ysgol yng Nghymru i'r cyhoedd gael mynediad ato Dogfennau ategol:
Cofnodion: |
||
Y wybodaeth ddiweddaraf am ddeisebau blaenorol |
||
P-05-937 Dylid stopio berwi cramenogion yn fyw (cimychiaid, crancod, cimychiaid afon, corgimychiaid ac ati) - Y wybodaeth ddiweddaraf yn sgil gwaith ymchwil newydd Dogfennau ategol: Cofnodion: Cytunodd y
Pwyllgor i ysgrifennu at Lywodraeth Cymru i ofyn pa ystyriaeth y mae wedi’i
rhoi i adroddiad Ysgol Economeg Llundain ar allu decapodau i ymdeimlo, ac awgrymwyd
hefyd y dylid ehangu’r diffiniad o anifeiliaid yn Neddf Lles Anifeiliaid 2006 i
gynnwys infertebratau. |
||
P-06-1200 Dylid gwneud rhwymo ceffylau yn anghyfreithlon ac yn weithred o greulondeb yng Nghymru, ni waeth a oes gan y ceffylau gysgod neu beidio Dogfennau ategol:
Cofnodion: Cytunodd y
Pwyllgor i ysgrifennu’n ôl at Lywodraeth Cymru i rannu’r pryderon a’r
awgrymiadau a godwyd gan RSPCA Cymru a Blue Cross ac i ofyn am eglurhad
ynghylch a oes unrhyw drefniadau i roi cymorth ariannol i orfodi o ran
gweithredu deddfwriaeth a rheoliadau ar waith yn y maes hwn. |
||
P-05-1045 Dylai penderfyniadau ar y cyd ac adolygu cynlluniau gofal iechyd meddwl misol fod yn ofyniad cyfreithiol Dogfennau ategol:
Cofnodion: Nododd y Pwyllgor
y flaenoriaeth sydd gan iechyd meddwl ym mlaenraglen waith y Pwyllgor Iechyd a
Chymdeithasol a chytunwyd i annog y deisebydd i achub ar y cyfle i gyfrannu i
ymgynghoriad y Pwyllgor hwnnw. Wrth wneud hynny,
cytunodd y Pwyllgor i gau’r ddeiseb a diolch i’r deisebydd am godi mater mor
bwysig â hwn. |
||
P-06-1178 Prydau ysgol am ddim i bob disgybl yng Nghymru Dogfennau ategol:
Cofnodion: Cytunwyd mewn
ymateb i gwestiynau pellach gan y deisebydd y byddai atebion sydd wedi’u gwneud
yn hysbys yn cael eu casglu a’u hanfon at y deisebydd. Cytunodd y
Pwyllgor i ddiolch i’r deisebydd a chau’r ddeiseb. [diweddarwyd ar 21/01/22] |
||
P-06-1205 Buddsoddwch mewn amddiffynfeydd llifogydd ar y Tywi yng Nghaerfyrddin gan gynnwys ardal y Cei Dogfennau ategol:
Cofnodion: Nododd y Pwyllgor
fod Cyfoeth Naturiol Cymru wedi datgan nad yw’n ystyried cynllun llifogydd ar
gyfer Afon Tywi yng Nghaerfyrddin ar hyn o bryd, ac felly mae’n ymddangos nad
oes llawer mwy y gall y Pwyllgor ei wneud ynglŷn â’r mater. Yng ngoleuni hyn, cytunodd y Pwyllgor i gau’r ddeiseb a diolch i’r
deisebydd. |
||
Papur i’w nodi - P-05-949 ARBED YR HEN YSGOL GANOLRADD I FERCHED Y BONT-FAEN RHAG EI DYMCHWEL Dogfennau ategol: Cofnodion: Nodwyd y papur. |
||
(15.45) |
Cynnig o dan Reol Sefydlog 17.42(ix) i benderfynu gwahardd y cyhoedd o'r cyfarfod ar gyfer eitem 8. Cofnodion: Derbyniwyd y
cynnig. |
|
(15.45 - 16.15) |
Trafod y dystiolaeth - P-06-1212 Cyfraith Mark Allen – rydym ni am weld gorsafoedd cortyn taflu o amgylch pob safle dŵr agored yng Nghymru Cofnodion: Trafododd y
Pwyllgor y dystiolaeth a ddaeth i law. |