P-06-1178 Prydau ysgol am ddim i bob disgybl yng Nghymru
Cyflwynwyd y ddeiseb hon gan
Adam Johannes, ar ôl casglu cyfanswm o 980 lofnodion.
Geiriad y ddeiseb:
Rydym
yn galw ar Lywodraeth Cymru i gymryd y camau a ganlyn ar unwaith
-
Diwygio’r meini prawf cymhwyster ar gyfer Prydau Ysgol am Ddim fel bod unrhyw
blentyn mewn unrhyw deulu sy’n cael y Credyd Cynhwysol neu gyfwerth yn gymwys.
-
Ymestyn yn barhaol yr hawl i deuluoedd sy’n methu cael arian cyhoeddus gael
prydau ysgol am ddim
-
Cyflwyno prydau ysgol am ddim i bob disgybl ysgol fabanod#
Fel
y cam cyntaf tuag at ddarparu prydau ysgol maethlon am ddim i bob disgybl o
oedran ysgol yng Nghymru.
Gwybodaeth
Ychwanegol:
Mae
gan bob disgybl o oedran ysgol yng Nghymru yr hawl i brydau ysgol maethlon am
ddim.
Yn
ôl y Grŵp Gweithredu ar Dlodi Plant, nid yw dros hanner y plant sy’n byw
islaw ffin tlodi y DU yng Nghymru (dros 70,000) yn gymwys ar hyn o bryd i gael
prydau ysgol am ddim. Nid yw hyn yn dderbyniol.
Mae
prydau ysgol am ddim yn helpu teuluoedd mewn trafferth, yn lleihau stigma ac
anghydraddoldeb, ac yn gwella iechyd a llesiant plant.
Rydym
yn credu y byddai buddion prydau ysgol am ddim i bob plentyn o oedran ysgol yng
Nghymru yn cynnwys
-
Lleihau tlodi ac anghydraddoldeb
-
Helpu cyllidebau a bywyd cartref teuluoedd
-
Rhoi hwb i ddysgu a chyrhaeddiad addysgol
-
Helpu disgyblion i ganolbwyntio’n well drwy gydol y dydd
-
Creu cyfeillgarwch yn y neuadd fwyd drwy rannu’r profiad o fwyta pryd
-
Gwella anghydraddoldebau iechyd ymysg plant
-
Lleihau gordewdra
- Cynyddu’r niferoedd sy’n manteisio ar brydau
ysgol am ddim drwy leihau’r stigma sy’n gysylltiedig â budd-daliadau sy’n
dibynnu ar brawf modd.
Statws
Yn ei gyfarfod ar 10/01/2022 penderfynodd y Pwyllgor
Deisebau fod y ddeiseb hon wedi'i chwblhau.
Llongyfarchodd y Pwyllgor y deisebydd yn gynnes ar
ganlyniad llwyddiannus, gan fod Llywodraeth Cymru mewn cydweithrediad â Phlaid
Cymru wedi ymrwymo i ddarparu prydau ysgol am ddim i bob plentyn ysgol gynradd.
Galwad gyffredinol y deisebydd yw i bob disgybl ysgol gael prydau ysgol am
ddim, ond mae hwn yn gam sylweddol tuag at gyflawni’r uchelgais hwnnw.
Cytunwyd mewn ymateb i gwestiynau pellach gan y deisebydd
y byddai atebion sydd wedi’u gwneud yn hysbys yn cael eu casglu a’u hanfon at y
deisebydd.
Cytunodd y Pwyllgor i ddiolch i’r deisebydd a chau’r
ddeiseb.
Gellir gweld manylion llawn ynghylch trafodaeth y
Pwyllgor o'r ddeiseb hon a'r dogfennau cysylltiedig ar y tab Cyfarfodydd uchod.
Cafodd ei thrafod gyntaf gan y Pwyllgor Deisebau ar
14/09/2021.
Etholaeth a Rhanbarth y Senedd
- Canol Caerdydd
- Canol De Cymru
Rhagor o wybodaeth
- Hafan y Pwyllgor Deisebau
- Gweld pob deiseb sydd ar agor
- Gweld pob deiseb mae’r pwyllgor bellach
yn ystyried
- Sut mae proses Ddeisebu yn gweithio
Math o fusnes: Deiseb
Rheswm dros ei ystyried: Busnes y Senedd;
Statws: I'w ystyried
Cyhoeddwyd gyntaf: 06/09/2021